Gwobr 2009
Enillydd - Wiliam Owen Roberts, Petrograd, (Cyhoeddiadau Barddas)

Grace, Tamar and Laszlo the Beautiful gan Deborah Kay Davies a gyhoeddwyd gan Parthian a enillodd y wobr Saesneg.
Y Rhestr Fer
Geraint V. Jones, Teulu Lòrd Bach (Gomer)
Hefin Wyn, Pentigily (Y Lolfa)
Wiliam Owen Roberts, Petrograd (Cyhoeddiadau Barddas)

Yr awduron ar y Rhestr Fer Saesneg oedd Deborah Kay Davies, Samantha Wynne-Rhydderch a Gee Williams.
Y Rhestr Hir
Mared Lewis - Y Maison du Soleil (Gwasg Gwynedd)
Aled Jones Williams - Yn hon bu afon unwaith (Gwasg y Bwthyn)
Geraint V. Jones - Teulu Lòrd Bach (Gwasg Gomer)
J. Towyn Jones - Rhag ofn ysbrydion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Wiliam Owen Roberts - Petrograd (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwilym Prys Davies - Cynhaeaf Hanner Canrif – Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005 (Gwasg Gomer)
Robyn Léwis - Bwystfilod Rheibus (Gwasg y Bwthyn)
Hefin Wyn - Pentigily (Y Lolfa)
Myrddin ap Dafydd - Bore Newydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Harri Parri - Portreadau Harri Parri: Iaith y Brain ac Awen Brudd (Gwasg y Bwthyn)
Y Beirniaid
Gwyn Thomas
Yn fardd toreithiog, beirniad, cyfieithydd a golygydd, mae’r g?r o Flaenau Ffestiniog wedi hen ennill ei blwyf yn y byd llenyddol. Bu’n athro yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac wedi ymddeol, fe’i ddewisiwyd yn Fardd Cenedlaethol Cyrmu.
Luned Aaron
Dramodydd a Sgriptwraig o Fangor yw Luned a hi enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn 1999, 2001 a 2003. Mae wedi astuidio yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Nenmarc a gwelir ei gwaith llenyddol yn gyson ar ddalennau Tu Chwith, Taliesin a Barn. Mae hi’n wyneb cyfarwydd ar S4C gan y bu’n cyflwyno Y Sioe Gelf a Dechrau Canu, Dechrau Canmol.
Derec Llwyd Morgan
Bardd a beirniad llenyddol o Gefnbrynbrain yw Derec. Fe’i addysgwyd ym Mangor a Rhydychen. Bu’n Athro’r Gymraeg a Phennaeth Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth hyd ei benodi’n Brifathro’r Coleg hwnnw ym 1995. Y mae hefyd yn Gyn–lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Y beirniaid ar y panel Saesneg ei hiaith oedd Mike Parker, John Barnie a Tiffany Atkinson.


