Gwobr 2008

Enillydd - Gareth Miles, Y Proffwyd a’i ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch)

Gareth Miles

The Presence gan Dannie Abse, a gyhoeddwyd gan Hutchinson a enillodd y wobr yn Saesneg.

Y Rhestr Fer

Tony Bianchi, Pryfeta (Y Lolfa)
Ceri Wyn Jones, Dauwynebog (Gomer)
Gareth Miles, Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch)

Yr awduron ar y Rhestr Fer Saesneg oedd Dannie Abse, Nia Wyn a Tom Bullough

Y Rhestr Hir

Alan Llwyd, Blynyddoedd y Locustiaid (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwyn Jenkins, Prif Weinidog Answyddogol Cymru (Y Lolfa)
Ceri Wyn Jones, Dauwynebog (Gomer)
Elin Llwyd Morgan, Mae Llygaid gan y Lleuad (Y Lolfa)
Iwan Llwyd, Hanner Cant (Gwasg Taf)
Tony Bianchi, Pryfeta (Y Lolfa)
Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)
Gareth Miles, Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch)
Caryl Lewis, Y Gemydd (Y Lolfa)
Llwyd Owen, Yr Ergyd Olaf (Y Lolfa)

Y Beirniaid

Siân Thomas

Siân ThomasDechreuodd Siân ei gyrfa ddarlledu yng ngorsaf radio Sain Abertawe, lle bu’n cyflwyno rhaglen pan oedd yn yr ysgol a’r coleg. Treuliodd ychydig fisoedd fel ymchwilydd yn nyddiau cynnar Radio Cymru, cyn ymuno ag S4C fel un o gyflwynwyr cyntaf y sianel.  Erbyn hyn mae’n cyflwyno rhaglen ddyddiol i Radio Cymru sy’n cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth a sgwrsio difyr gan barhau i gyflwyno rhaglenni i S4C.

Huw Meirion EdwardsHuw Meirion Edwards
Bellach wedi ymgartrefu yn Llandre ger Aberystwyth, mae’n uwch–ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau, yn bennaf ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol, ac yn un o olygyddion Dafydd ap Gwilym.net, sef y golygiad electronig newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 am ei gasgliad Tir Neb.

Aled IslwynAled Islwyn
Awdur, golygydd, adolygydd, tiwtor a chyfieithydd. Yn enedigol o Bort Talbot, mae wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd am ran helaethaf ei oes.  Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1977. Enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac 1985; ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 1995 gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei gyfrol, Unigolion, Unigeddau.

 Y beirniaid ar y panel Saesneg ei hiaith oedd Mavis Nicholson(Cadeirydd), Damian Walford Davies a Trevor Fishlock.