Gwasanaethau i Awduron
Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2011
DATGANIAD I’R WASG
7 Ebrill 2011
Mae dau ddeg pedwar o awduron, yn cynnwys chwech awdur newydd, wedi derbyn Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2011. Mae’r Ysgoloriaethau gwerth cyfanswm o £90,000, a byddant yn galluogi’r awduron i gymryd amser i ffwrdd o’u gwaith beunyddiol er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu creadigol. Yn ogystal â chefnogi awduron newydd, dyfarnwyd ysgoloriaethau i nifer o awduron cyhoeddedig yn ogystal. Bydd awduron 2011 yn creu ffuglen, barddoniaeth, hunangofiant, a straeon byrion.
Eleni, am y tro cyntaf, dyfarnwyd ysgoloriaethau ar gyfer nofelau graffeg. Bydd yr artist a’r cartwnydd Huw Aaron yn cymryd amser o’i waith i ail greu Y Gododdin ar ffurf nofel graffeg, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd ysgoloriaeth yr awdur a’r golygydd Alan Llwyd yn caniatáu iddo gymryd amser i ffwrdd o’i waith gyda Barddas er mwyn canolbwyntio ar gwblhau ei gyfrol Bob: Cofiant R Williams Parry.
Bydd yr ysgoloriaethau’n esgor ar dair cyfrol newydd o farddoniaeth yn y Gymraeg. Bydd y Prifardd Tudur Hallam yn cymryd amser o’i waith academaidd er mwyn canolbwyntio ar gwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth. Bydd Gwyneth Lewis yn ysgrifennu cyfrol newydd o farddoniaeth yn y Gymraeg. Bydd Cerddi Anhysbys yn archwiliad o’r hunan mewn perthynas â isymwybod iaith ar ffurf dywediadau gwerin. Mae’r Panel Ysgoloriaethau’n falch iawn i gefnogi chwech o awduron newydd nad sydd wedi cyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn. Bydd Ysgoloriaeth i Awduron Newydd yn caniatáu i Mari Lisa ganolbwyntio ar gwblhau ei chyfrol gyntaf o gerddi amrywiol caeth a rhydd, yn y Gymraeg.
Bwriada Aled Jones-Williams yn ysgrifennu nofel newydd Eneidiau. Mae’r prif gymeriad, Tom Rhydderch eisoes wedi ymddangos mewn nofel arall gan Aled, Yn Hon Bu Afon Unwaith. Ond nid dilyniant yw’r nofel newydd, yn hytrach fe saif ar ei phen ei hun. Bydd yr awdur a’r golygydd Meic Stephens canolbwyntio ar ysgrifennu ei hunangofiant. Bwriada Arwel Vittle ysgrifennu nofel dwy ffantasi ar gyfer pobl ifainc, sef Y Twr ar Ymyl y Byd ac Yr Ardd ar Ymyl y Byd. Bydd y ddwy yn ddilyniant i’r Ddinas ar Ymyl y Byd, ac yn cwblhau’r drioleg.
Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Emily Hinshelwood, Robert Minhinnick, Rachel Trezise, Cynan Jones, Susie Wild, Tia Jones, Lorraine Jenkin, ac Angharad Penrhyn Jones.
Meddai Katie Gramich, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru: “Mae ansawdd llenyddol peth o’r gwaith sydd ar y gweill rydym yn gallu ei noddi yn arbennig iawn ac fe ddengys bod Cymru’n parhau i gynhyrchu talent llenyddol o’r radd flaenaf.”
Meddai Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Ysgoloriaethau’n fwyfwy pwysig mewn cyfnodau ariannol anodd. Dydy Cymru erioed wedi cynhyrchu cymaint o awduron o’r radd flaenaf. Mae galluogi’r awduron i barhau i greu yn ganolog i waith Llenyddiaeth Cymru. Mae ein cynllun Ysgoloriaethau, sy’n prynu amser i’r awduron o’u gwaith beunyddiol er mwyn ysgrifennu, yn taro’r hoelen honno ar ei phen.”
[Diwedd]
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Llenyddiaeth Cymru, Prif Weithredwr: Peter Finch,
Ty Mount Stuart, Sgwar Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
www.llenyddiaethcymru.org
Nodiadau i’r golygyddion:
• Ffurfiwyd Llenyddiaeth Cymru yn Ebrill 2011. Y Prif Weithredwr yw Peter Finch. Mae’r Academi Gymreig, y Gymdeithas Llenorion, a Chanolfan Ysgrifennu Ty Newydd wedi uno i greu Llenyddiaeth Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am nifer o weithgareddau a phrosiectau, gan gynnwys: Llyfr y Flwyddyn; Bardd Cenedlaethol Cymru a Bardd Plant Cymru; cynllun nawdd Awduron ar Daith; cyrsiau ysgrifennu creadigol yn Nhy Newydd; Ty Cyfieithu; cyngor a nawdd i awduron; prosiectau ysgrifennu creadigol mewn carchardai ac ym maes iechyd a gofal; Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc; gweithwyr maes yn y gogledd a Chymoedd y De.
• Mae Llenyddiaeth Cymru yn un o chwe chwmni cenedlaethol Cymru a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu celfyddyd benodol.
• Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
• Sefydlwyd yr Academi Gymreig yn 1959 yn dilyn sgyrsiau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams. Sefydlwyd Canolfan Ysgrifennu Ty Newydd yn 1990. Gillian Clarke, y Bardd Cenedlaethol cyfredol, yw Llywydd Ty Newydd,
• Mae Llenyddiaeth Cymru yn un o gwmnïau preswyl Canolfan Mileniwm Cymru.
Ysgoloriaethau:
• Dyfernir Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn flynyddol. Am ragor o fanylion ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
• Ceir rhestr o enillwyr ysgoloriaethau isod.
Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru 2010-11:
Katie Gramich (Cadeirydd), Catrin Beard, Carolyn Jess-Cooke, Catherine Fisher, Amanda Hopkinson, Idris Reynolds.
Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru 2011
| Enw | Iaith y gwaith arfaethedig | Ysgoloriaeth | Swm a ddyfarnwyd |
| Rachel Trezise | Saesneg | Cyhoeddedig | £4,000 |
| Karl Drinkwater | Saesneg | Newydd | £2,000 |
| Cynan Jones | Saesneg | Cyhoeddedig | £4,000 |
| Meic Stephens | Cymraeg | Cyhoeddedig | £4,000 |
| Carol Swain | Saesneg | Cyhoeddedig | £4,000 |
| Lorraine Jenkin | Saesneg | Cyhoeddedig | £1,560 |
| Tia Jones | Saesneg | Cyhoeddedig | £4,000 |
| Arwel Vittle | Cymraeg | Cyhoeddedig – Awdur Plant | £6,000 |
| Christine Harrison | Saesneg | Cyhoeddedig – Awdur Plant | £4,000 |
| Alan Llwyd | Cymraeg | Cyhoeddedig | £6,000 |
| Aled Jones-Williams | Cymraeg | Cyhoeddedig | £6,000 |
| Emily Hinshelwood | Saesneg | Y Gronfa Amryfal | £939.00 |
| Gwyneth Lewis | Cymraeg | Cyhoeddedig | £5,000 |
| Robert Minhinnick | Saesneg | Cyhoeddedig | £6,000 |
| Romy Thomas (yn ysgrifennu fel Romy Wood) | Saesneg | Cyhoeddedig | £700.00 |
| Julia Crompton (yn ysgrifennu fel Julia Forster) | Saesneg | Cyhoeddedig | £1,197 |
| Angharad Penrhyn Jones | Saesneg | Newydd | £3,000 |
| Tudur Hallam | Cymraeg | Cyhoeddedig | £5,000 |
| Mari Lisa | Cymraeg | Newydd | £3,000 |
| Jonathan Edwards | Saesneg | Newydd | £4,000 |
| Richard Roberts | Saesneg | Newydd – Awdur Plant | £1,604 |
| Huw Aaron | Saesneg a Chymraeg | Newydd | £5,000 |
| Susie Wild | Saesneg | Cyhoeddedig | £5,000 |
| Cyfanswm | £86,000 |


