Gwasanaethau i Awduron
DATGANIAD I’R WASG
10 Mawrth 2010
Ysgoloriaethau’r Academi ar gyfer Awduron 2010
Amser i’r Awen
Bydd 17 o awduron yn derbyn cyfran o £95,000 o bunnoedd gan yr Academi i’w hysgogi i ysgrifennu. Yn ogystal â llenorion cyhoeddedig Cymru, bydd tri awdur newydd ymhlith y rhai sy’n derbyn ysgoloriaeth i brynu amser o’u dyletswyddau bob dydd. Bydd yr ysgoloriaethau’n esgor ar nofelau a straeon byrion, barddoniaeth a rhyddiaith greadigol.
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae ysgrifennu’n ffynnu yn ystod dirwasgiad economaidd. Mae cynllun ysgoloriaethau’r Academi’n gynllun poblogaidd sy’n cynorthwyo awduron i ffeindio ffordd trwy gyfnod sy’n anodd yn ariannol. Mae ysgoloriaethau eleni wedi eu dyfarnu i awduron proffesiynol ac awduron newydd, nofelwyr a beirdd, awduron straeon byrion a beirniaid. Bydd y gweithiau llenyddol newydd mae’r ysgoloriaethau’n prynu yn gwneud byd o wahaniaeth i’n diwylliant.”
Bydd y bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen yn canolbwyntio ar greu cyfres estynedig o gerddi, wedi ei seilio ar themau mathemategol sy’n mynd i’r afael â materion emosiynol a moesol y cyfnod hwn. Bydd Dafydd John Pritchard yn cael amser i ffwrdd o’i waith i ganolbwyntio ar gasgliad o gerddi a fydd yn arwain at ail gyfrol.
Bydd ysgoloriaeth yn galluogi Robat Gruffudd i ganolbwyntio ar ysgrifennu nofel arall, am Gymro alltud sy’n dychwelyd i’w fro enedigol sef Abertawe, ac yn chwilio am Afallon yn y Gymru sydd ohoni. Nod Daniel Davies yw ysgrifennu nofel antur gomic. Bydd Dafydd Apolloni yn ysgrifennu casgliad o straeon byrion wedi’u gosod yng Nghymru a thramor. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn galluogi Eiry Miles i gymryd peth amser i ffwrdd o’i gwaith er mwyn cwblhau ei nofel gyntaf, am Gymraes sy’n blismones yn Llundain.
Bydd Euros Lewis yn astudio datblygiad Theatr Felinfach yng nghyd-destun hanes y ddrama Gymraeg yn gyffredinol.
Ymhlith yr awduron sy’n derbyn ysgoloriaethau i ysgrifennu’n Saesneg mae Damian Walford Davies, Tiffany Atkinson, Samantha Wynne Rhydderch, Ivy Alvarez, Christopher Lloyd, Ann McManus, Byron Rogers, Alex Keegan a Jane MacNamee.
Dywedodd Gwen Davies, Cadeirydd y Panel Ysgoloriaethau: “Rwy’n hynod falch bod blaenoriaethau eleni’n golygu na fu’n rhaid gosod uchasfwm a thocio’r ysgoloriaethau. Mae hyn wedi’n galluogi i ddyfarnu ysgoloriaethau sydd mor agos â phosib at anghenion yr awduron, a hyn i 17 ymgeisydd haeddiannol.”
[Diwedd]
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Academi, Prif Weithredwr: Peter Finch,
Ty Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Carerdydd, CF10 5FQ.
029 2047 2266 / post@academi.org
www.academi.org
Nodiadau ar gyfer golygyddion:
Yr Academi
• Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru. Sefydlwyd yr Academi Gymreig ym 1959 yn sgil trafodaethau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams.
• Ym 1998 ymgymerodd y gymdeithas â maes llafur helaethach o lawer pan enillodd gytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol.
• Mae’r Academi yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Ty Newydd yn Llanystumdwy. Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
• Mae’r Academi’n gyfrifol am drefnu gwobr Llyfr y Flwyddyn, digwyddiadau llenyddol (Maes C, cynadleddau, ciniawau, teithiau barddol, darlithoedd), ysgoloriaethau awduron, Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc, cynlluniau nawdd amrywiol.
• Mae’r Academi wedi ymuno â’r Urdd, Opera Cenedlaethol Cymru a sefydliadau eraill fel un o breswylwyr Canolfan Mileniwm Cymru.
• Mae’r Academi’n falch iawn o dderbyn Dyfarniad Cwmni Disglair 2008-10 gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Ysgoloriaethau:
Dyfernir Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron yn flynyddol gan yr Academi. Ceir manylion llawn ar ein gwefan www.academi.org.
Ceir rhestr isod o’r holl ymgeiswyr llwyddiannus.
Panel Ysgoloriaethau’r Academi 2009-10:
Gwen Davies (Cadeirydd), Carolyn Jess-Cooke, Catherine Fisher, Amanda Hopkinson ac Idris Reynolds.
Ysgoloriaethau i Awduron 2010
Enw / Iaith y gwaith arfaethedig / Ysgoloriaeth / Swm a ddyfarnwyd
Byron Rogers Saesneg Cyhoeddedig £10,000
Daniel Davies Cymraeg Cyhoeddedig £6,536
Jane MacNamee Saesneg Awdur Newydd £4,300
Dafydd Apolloni Cymraeg Cyhoeddedig £2,400
Tiffany Atkinson Saesneg Cyhoeddedig £3,849
Damian Walford Davies Saesneg Cyhoeddedig £3,044
Dafydd John Pritchard Cymraeg Cyhoeddedig £7,626
Samantha Wynne Rhydderch Saesneg Cyhoeddedig £5,040
Christopher Lloyd Saesneg Y Gronfa Amryfal £2,000
Jim Bowen Saesneg Cyhoeddedig £4,000
Eiry Miles Cymraeg Awdur Newydd £4,000
Ann McManus Saesneg Y Gronfa Amryfal £1,040
Robat Gruffudd Cymraeg Cyhoeddedig £9,000
Karen Owen Cymraeg Cyhoeddedig £10,000
Euros Lewis Cymraeg Cyhoeddedig £10,000
Alex Keegan Saesneg Cyhoeddedig £11,360
Ivy Alvarez Saesneg Y Gronfa Amryfal £805.00
Cyfanswm: £95,000
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Ty Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
www.academi.org post@academi.org
Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Ty Newydd.
Rhif elusen gofrestredig: 506402


