Gwasanaethau i Awduron
Ysgoloriaethau’r Academi ar gyfer Awduron 2009
Amser i’r Awen
Beirdd, nofelwyr, darlithwyr, ac yn eu plith newyddiadurwr ar gefn beic, a nofelydd Cymraeg yn troi at y Saesneg, - bydd 24 o awduron yn derbyn cyfran o £95,000 o bunnoedd gan yr Academi i’w hysgogi i ysgrifennu. Yn ogystal â llenorion cyhoeddedig Cymru, bydd pump o awduron newydd ymhlith y rhai sy’n derbyn ysgoloriaeth i brynu amser o’u dyletswyddau bob dydd.
Bydd y bardd a’r cyfieithydd Elin ap Hywel yn canolbwyntio ar greu casgliad o gerddi newydd. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn galluogi Llion Pryderi Roberts i gymryd amser i ffwrdd o’i waith fel darlithydd er mwyn cwblhau ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth.
Bydd Joanna Davies, awdur Ffreshars, yn cael amser i ffwrdd o’i gwaith i ysgrifennu ei hail nofel Mr Perffaith. Bydd ysgoloriaeth yn galluogi Tony Bianchi, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2007, i ganolbwyntio ar ysgrifennu nofel arall. Mae’n bwriadu newid cyfeiriad gyda’r gyfrol nesaf, gan ysgrifennu ei nofel Saesneg gyntaf. Nod Delyth George, awdur Gwe o Gelwyddau yw ysgrifennu nofel seicolegol dywyll ar gyfer yr arddegau.
Bydd yr awdur a’r newyddiadurwr Hefin Wyn yn ysgrifennu portread o Waldo Williams, gan ddilyn trywydd Waldo ar gefn beic. Bydd Robert Rhys yn ymchwilio i fywyd a gwaith y llenor D J Williams ar gyfer cofiant.
Bydd ysgoloriaethau 2009 yn esgor ar sawl nofel newydd yn Saesneg, cyfrolau o farddoniaeth a llenyddiaeth greadigol yn ogystal. Ymhlith yr awduron sy’n derbyn ysgoloriaethau i ysgrifennu’n Saesneg mae Tony Bianchi, Mary-Ann Constantine, Jeb Loy Nichols, David Llewellyn, Jo Mazelis, Imogen Herrad, Kelly Grovier, Meirion Jordan, John Williams a Robert Lewis.
Ymhlith yr awduron newydd dyfarfnwyd ysgoloriaeth i Euron Griffith, John Fraser Williams, Vanessa Savage a Keri Finlayson.
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae’r Ysgoloriaethau’n parhau i fod y dull mwyaf effeithiol o helpu awduron – maent yn prynu amser a lle mewn byd lle mae’r ddau beth hyn yn fwyfwy prin. Mewn dirwasgiad economaidd mae’r galw ar y celfyddydau bob amser yn cynyddu, gydag ysgrifennu’n amlwg. Yn yr Academi rydym yn ymfalchïo ein bod wedi darganfod rhychwant o ddeiliaid amrywiol sy’n llawn haeddu’r ysgoloriaethau. Hoffem pe gallem estyn mwy o gymorth.”
Dywedodd Kathryn Gray, aelod o’r Panel Ysgoloriaethau: Nododd Kathryn Gray, a gadeiriodd gyfarfod Panel Ysgoloriaethau 2009:
“Tra bod y Panel Ysgoloriaethau 2009 wedi llwyddo, er y cyfyngiadau ariannol, i gadw y ddisgl yn wastad rhwng anghenion awduron newydd ac awduron sefydliedig, mae’r pwysau ar y gyllideb yn amlwg: ni chafwyd unrhyw ysgoloriaethau mawr eleni. Mae Cynllun yr Ysgoloriaethau yn hollbwysig wrth hybu llenyddiaethau Cymru yn y tymor hir a’r tymor byr. Mae cryn bryder, fel y mae’r wasgfa economaidd yn dwysáu, bydd y galw am ysgoloriaethau yn cynyddu, tra bod y gyllideb yn aros yn ei hunfan– a allai effeithio ar effeithlonrwydd Cynllun yr Ysgoloriaethau wrth gefnogi datblygiad gwaith arbennig o Gymru, a rhoi proffil ehangach i awduron newydd yn arbennig.”
Nodiadau ar gyfer golygyddion:
Yr Academi
• Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru. Sefydlwyd yr Academi Gymreig ym 1959 yn sgil trafodaethau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams.
• Ym 1998 ymgymerodd y gymdeithas â maes llafur helaethach o lawer pan enillodd gytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol.
• Mae’r Academi yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy. Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
• Mae’r Academi’n gyfrifol am drefnu gwobr Llyfr y Flwyddyn, digwyddiadau llenyddol (Maes C, cynadleddau, ciniawau, teithiau barddol, darlithoedd), ysgoloriaethau awduron, Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc, cynlluniau nawdd amrywiol.
• Mae’r Academi wedi ymuno â’r Urdd, Opera Cenedlaethol Cymru a sefydliadau eraill fel un o breswylwyr Canolfan Mileniwm Cymru.
• Mae’r Academi’n falch iawn o dderbyn Dyfarniad Cwmni Disglair 2008-10 gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Ysgoloriaethau:
Dyfernir Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron yn flynyddol gan yr Academi. Ceir manylion llawn ar ein gwefan www.academi.org.
Ceir rhestr isod o’r holl ymgeiswyr llwyddiannus.
Panel Ysgoloriaethau’r Academi 2008-09:
Gwen Davies (Cadeirydd), Catherine Fisher, Kathryn Gray, Amanda Hopkinson ac Idris Reynolds.
YSGOLORIAETHAU I AWDURON 2009
Alex Barr - Awdur Cyhoeddedig £3,120
Joanna Davies - Awdur Cyhoeddedig £5,000
Euron Griffith - Awdur Newydd £4,000
Jo Mazelis - Awdur Cyhoeddedig £5,000
Jeb Loy Nichols - Awdur Cyhoeddedig £3,000
Tony Bianchi - Awdur Cyhoeddedig £5,000
Meirion Jordan - Awdur Cyhoeddedig £4,000
Anthony Reynolds - Awdur Cyhoeddedig £2,500
Caroline Ross - Awdur Cyhoeddedig £2,000
David Llewellyn - Awdur Cyhoeddedig £4,000
Keri Finlayson - Awdur Newydd £3,000
John Fraser Williams - Awdur Newydd £5,000
Llion Pryderi Roberts - Awdur Newydd £4,800
Delyth George - Awdur Cyhoeddedig £5,000
Imogen Herrad - Awdur Cyhoeddedig £3,000
Robert Rhys - Awdur Cyhoeddedig £5,000
Elin ap Hywel - Awdur Cyhoeddedig £4,320
Kelly Grovier - Awdur Cyhoeddedig £3,000
Robert Lewis - Awdur Cyhoeddedig £3,000
Jasmine Donahaye - Awdur Cyhoeddedig £5,000
John Williams - Awdur Cyhoeddedig £5,000
Hefin Wyn Awdur - Cyhoeddedig £5,000
Mary-Ann Constantine - Awdur Cyhoeddedig £3,260
Vanessa Savage - Awdur Newydd £3,000
Cyfanswm / Total: £95,000
23 Mawrth 2009
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
www.academi.org post@academi.org
Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Rhif elusen gofrestredig: 506402


