Gwasanaethau i Awduron
Gwasanaeth Beirniadu
Mae Gwasanaeth Beirniadu Llenyddiaeth Cymru yn galluogi ymgeiswyr i gael eu gwaith wedi’i ddarllen a’i asesu gan awdur profiadol. Er bod ffrindiau a pherthnasau yn aml yn gefnogol, gall barn fwy gwrthrychol helpu awduron i wella eu gwaith. Bydd y darllenydd yn ysgrifennu adroddiad o tua 1,000 o eiriau a fydd yn feirniadol, yn ystyr gorau’r gair. Bydd y darllenydd ond yn ymdrin ag ansawdd llenyddol y gwaith a gyflwynir. Ni fydd yr ymgeisydd yn gwybod pwy yw’r darllenydd, nac fel arall.
Barn bersonol y darllenydd a roddir ac ni fydd yn cynrychioli barn Llenyddiaeth Cymru mewn unrhyw fodd. Cadwn yr hawl i ddychwelyd gwaith na fyddai’n debygol o fanteisio ar y Gwasanaeth Beirniadu ar hyn o bryd.
Cymhwyster
Mae Gwasanaeth Beirniadu Llenyddiaeth Cymru ar gael yn unig i awduron sy’n byw yng Nghymru neu awduron sy’n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg.
Sut mae’r Gwasanaeth Beirniadu yn gweithio?
- Cwblhewch y ffurflen gan amgáu sampl fer o’r gwaith.
- Ni ddylai’r sampl fod yn fwy na 200 llinell o farddoniaeth neu 3,000 gair o ryddiaith.
- Rhaid teipio’r gwaith ar un ochr y tudalen yn unig, a rhifo pob tudalen.
- Gofynnir i chi beidio rhoi’ch enw ar y teipysgrif.
- Cadwch gopi o’r hyn a anfonwch bob tro: ni all Llenyddiaeth Cymru fod yn gyfrifol am destunau gwreiddiol a gollir.
- Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau, a’r dogfennau atodedig, ynghyd â’r taliad at Llenyddiaeth Cymru (cyfeiriad isod).
- Mae’r gwasanaeth ar gael gydol y flwyddyn. Gellir defnyddio’r gwasanaeth un waith mewn cyfnod o ddeuddeng mis.
Y Gost
£10 yw’r ffi ar gyfer pob sampl fer. Gellir cael adroddiad mwy cynhwysfawr ar waith hwy neu waith gorffenedig. Y ffi ar gyfer nofel, hunangofiant neu fywgraffiad llawn yw £25 am 200 o dudalennau neu lai a £10 am bob 100 tudalen wedi hynny. Dylid gwneud sieciau ac archebion post yn daladwy i: Llenyddiaeth Cymru.
Pryd a ddychwelir yr adroddiad?
I gael derbynneb am y gwaith, bydd angen ichi amgáu amlen â’ch cyfeiriad a stamp arni. Anfonir yr adroddiad atoch o fewn 12 wythnos. Gofynnwn i chi beidio â ffonio i holi am y gwaith yn ystod y cyfnod hwn.
Cliciwch yma i ddadlwytho ffurflen gais
Gwasanaeth Beirniadu Llenyddiaeth Cymru ar gyfer Awduron
Llenyddiaeth Cymru
Prif Weithredwr Gweithredol: Lleucu Siencyn
Tŷ Mount Stuart
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266
ffacs: 029 2049 2930
I gael ffurflen gais e-bostiwch ni: post@llenyddiaethcymru.org gan nodi eich cyfeiriad post.
Llenyddiaeth Cymru yw'r cwmni cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Mae'r Academi Gymreig, sef Cymdeithas Llenorion Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Ty Newydd yn perthyn i Llenyddiaeth Cymru. Rhif Elusen Gofrestredig 506402. Cefnogir Llenyddiaeth Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
|
|
Critical Service Guidelines 2012 | 758.43KB |
|
|
Critical Service Application Form 2012 | 685.07KB |
|
|
Ffurflen Gais Gwasanaeth Beirniadu 2012 | 714.60KB |
|
|
Canllawiau Gwasanaeth Beirniadu | 758.65KB |


