Gwasanaethau i Awduron

Ysgoloriaethau

Dyfernir ysgoloriaethau er mwyn cefnogi awduron sy’n creu gwaith newydd yn y genres canlynol: nofelau, straeon byrion, barddoniaeth, beirniadaeth lenyddol a rhyddiaith ffeithiol o werth llenyddol. Gellir ystyried gwaith nad yw’n gorwedd yn dwt yn y categorïau hyn hefyd. Nid yw dramâu yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn. Ni ddyfernir ysgoloriaethau i gefnogi gwaith ar draethawd ymchwil nac unrhyw fath arall o ymchwil academaidd ffurfiol. Gellir gwneud ceisiadau mewn mwy nag un categori.

Mae 5 math o ysgoloriaeth ar gael, mewn dau gategori:

Ysgoloriaethau Prynu Amser:

1. Ysgoloriaethau Awduron Newydd: mae’r rhain yn cael eu dyfarnu i awduron nad ydynt wedi cyhoeddi cyfrol o’u gwaith eto. Rhaid cyflwyno o leiaf 10,000 o eiriau o waith ar y gweill gyda’r cais. Os ydych wedi cyhoeddi gwaith mewn blodeugerdd neu gyfnodolyn, anfonwch samplau gyda’ch cais - un copi o bob darn.
Uchafswm y dyfarniad: £10,000

2. Ysgoloriaethau Awduron Cyhoeddedig: mae’r rhain ar gyfer awduron sydd eisoes wedi cyhoeddi cyfrol neu fwy o’u gwaith. Rhaid cyflwyno o leiaf 4,000 o eiriau NEU 8 cerdd o waith ar y gweill gyda’r cais. Anfonwch un copi o gyfrol sampl gyda’ch cais. Gallwn ddychwelyd y rhain os oes angen.
Uchafswm y dyfarniad: £10,000

3. Ysgoloriaeth Awdur Plant: Fe’i hanelir at awduron sy’n ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifainc yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Llenyddiaeth Cymru yn awyddus i annog y canlynol yn enwedig:
i. Awduron yn yr iaith Saesneg sydd â chefndir Cymreig i’w gwaith
ii. Awduron sy’n ysgrifennu nofelau hirach yn yr iaith Gymraeg.
Dylai ymgeiswyr ddarparu detholiad cynrychiadol o’r gwaith sydd ar y gweill.
Nid yw deunydd addysgiadol, llyfrau lluniau a llyfrau fffeithiol yn gymwys.
Uchafswm y dyfarniad: £10,000

Ysgoloriaethau Galluogi:

4. Y Gronfa Amryfal: cynigir cymorth ar raddfa fechan mewn materion sy’n berthnasol i brosiectau ysgrifennu penodol. Er enghraifft, gall gynnwys costau teithio, gwaith ymchwil, gwaith mewn ieithoedd eraill, gofal plant, rhentu man tawel i ysgrifennu ac eitemau eraill. Nid oes grantiau cyfalaf (megis prynu cyfrifiaduron) ar gael dan amodau’r ysgoloriaeth hon.
Uchafswm y dyfarniad: £2,000

5. Ysgoloriaeth  i brynu cyfarpar arbenigol (ar gyfer Awduron Anabl yn unig): caiff y rhain eu dyfarnu i roi cymorth i awduron anabl. Gallant gynnwys cymorth ar gyfer y canlynol, er enghraifft:
i. i brynu cyfarpar arbenigol
ii. i helpu â chostau teithio penodol
iii. tuag at gymorth ysgrifenyddol megis gwaith golygyddol, teipio, argraffu ayb.
iv. ar gyfer cyfleoedd hyfforddi sy’n berthnasol i’ch ysgrifennu
Gall Llenyddiaeth Cymru hefyd ystyried ceisiadau am gymorth mewn materion eraill sy’n effeithio ar awduron anabl.
Uchafswm y dyfarniad: £2,000

Cymhwyster

Dyfernir Ysgoloriaethau yn bennaf ar gyfer gwaith o’r radd flaenaf. Oherwydd natur cystadleuol y cynllun, fe all y Panel Ysgoloriaethau flaenoriaethu’r ceisiadau sy’n cyrraedd y safon hwn yn ôl yr angen.

Genre:
Nid yw dramâu, sgriptiau ffilm na sgriptiau teledu yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Nid yw deunyddiau addysgiadol yn gymwys.
Nid yw llyfrau cyfeiriol cyffredinol yn gymwys, onibai eu bod yn llenyddol.
Ni ddyfernir ysgoloriaethau i gefnogi gwaith ar draethawd ymchwil nac unrhyw fath arall o ymchwil academaidd ffurfiol.

Preswylfa:
Derbynnir ceisiadau gan awduron sy’n gweithio mewn unrhyw iaith, sy’n preswylio yng Nghymru tra’n gwneud eu cais ac a fydd yn parhau i fyw yng Nghymru drwy gydol cyfnod yr Ysgoloriaeth [ni fydd cyfnodau i ffwrdd yn ystod ysgoloriaeth deithio yn effeithio ar hyn].

Ysgoloriaethau blaenorol:
Os ydych wedi derbyn Ysgoloriaeth i Awduron yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (2010 neu 2011), ni chaniateir i chi ymgeisio eleni.

Grantiau comisiwn:
Os ydych wedi derbyn grant gomisiwn gan Gyngor Llyfrau Cymru nid ydych yn gymwys i gael eich hariannu dan gynllun Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru.

Nid oes grantiau cyfalaf ar gael dan y cynllun hwn, ac eithrio ar gyfer awduron anabl.

Gwybodaeth ychwanegol

Cyflogaeth: Ar gyfer ysgoloriaethau a anelir at brynu amser, rhaid i ymgeiswyr sicrhau y gallant gymryd yr amser hwnnw os byddant yn llwyddiannus. Bydd angen i chi wirio’r sefyllfa gyda’ch cyflogwr cyn gwneud cais, a sicrhau y byddai eich cyflogwr yn caniatau eich rhyddhau o'r gwaith dros dro er mwyn derbyn yr ysgoloriaeth, pe baech yn llwyddiannus.

Taliadau: Dyfernir ysgoloriaethau i awduron unigol ac mae'r ysgoloriaeth yn daladwy i'r unigolyn. Ni ellir talu'r ysgoloriaeth o dan unrhyw amgylchiadau i gyflogwr, cymdeithas na sefydliad addysg.

Dyddiadau: Y dyddiad cynharaf y gall ysgoloriaethau 2012 gychwyn yw 1 Ebrill 2012.  Rhaid cwblhau’r ysgoloriaethau erbyn 31 Mawrth 2013. Bydd cyfnodau ysgoloriaethau yn cychwyn ar ddiwrnod cyntaf y mis.

Ysgoloriaethau Prynu Amser:
Ar gyfer ysgoloriaethau a anelir at brynu amser, mae’r swm a ddyfernir yn rhannol gysylltiedig â cholled incwm yn ystod cyfnod yr ysgoloriaeth, pa un a yw’r ymgeisydd yn gyflogedig ai peidio. Mae’r cais yn gofyn i chi roi amcangyfrif o’r swm hwn.
Cyflogedig: Mae'r ffigwr ar gyfer incwm blynyddol yn berthnasol i'ch incwm presennol a'ch cyflogwr presennol yn unig.
Hunan-gyflogedig / llawrydd: Dylech amcangyfrif cyfartaledd eich incwm blynyddol dros y 2 flynedd diwethaf, ac yna amcangyfrif eich incwm arfaethedig, pro rata, ar gyfer cyfnod yr ysgoloriaeth.
Bydd angen datganiad incwm wedi ei gadarnhau arnom os bydd eich cais yn llwyddiannus. Cyfnod arferol ysgoloriaeth yw rhwng 1 a 6 mis.

Bydd angen i chi gadarnhau â Chyllid y Wlad yn unrhyw oblygiadau treth personol yn sgil derbyn ysgoloriaeth. Dylai ymgeiswyr ofyn am gyngor proffesiynol ar y mater hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am awduron a threth incwm yn yr erthyglau canlynol:
Settling Accounts gan Ian Spring, yn y gyfrol The Writer's Handbook 2010 (Macmillan)
Income Tax gan Peter Vaines, yn y gyfrol The Writers' and Artists' Yearbook 2010 (A & C Black)

Ar gyfer ysgoloriaethau a anelir at bryniannau cyfalaf (ar gyfer awduron anabl), ymchwil, teithio, ayb, mae Cyllid y Wlad yn debygol o gyfrifo atebolrwydd treth.  Eto, dylai ymgeiswyr ofyn am gyngor proffesiynol ar y mater hwn.

Bydd gofyn i dderbynwyr ysgoloriaethau anfon adroddiad byr yng nghanol y cyfnod at Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal â sampl o’r gwaith sydd ar y gweill. Mae Llenyddiaeth Cymru yn deall y gall cynnydd fod yn araf. Fodd bynnag, mae angen i ni weld enghreifftiau o’r hyn y mae’r ysgoloriaeth yn ei brynu. Gwneir y taliad olaf ar ôl derbyn adroddiad ar ddiwedd y cyfnod. Ar y cam hwn byddwn yn gofyn am weld tystiolaeth o’r gwaith a gyflawnwyd, pa un a yw’n llwyddiannus ai peidio. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gofyn am gopïau cyfarch o unrhyw waith a gyhoeddir o ganlyniad i’r ysgoloriaeth.

Hoffai Llenyddiaeth Cymru i groesawu pob derbynnydd ysgoloriaeth i fod yn Gefnogwyr yr Academi Gymreig. Os nad yw eisoes yn aelod, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cofrestru’r derbynnydd ac yn tynnu’r tâl tanysgrifiad blynyddol o £15 o gyfanswm yr ysgoloriaeth. Mae manteision aelodaeth yn cynnwys amrywiaeth o ostyngiadau ar ddigwyddiadau a gwasanaethau yn ogystal â’r modd i gadw mewn cysylltiad â’r byd llenyddol yng Nghymru.

Rhaid i unrhyw waith a ddechreuir, a ddatblygir neu a gwblheir dan delerau’r dyfarniad ysgoloriaeth gydnabod Llenyddiaeth Cymru. Rhaid trafod yr union eiriau â Llenyddiaeth Cymru cyn cyhoeddi.


Grantiau cyhoeddi:
Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am grantiau cyhoeddi. Dylid cyfeirio ymholiadau yn y maes hwn at Gyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, SY23 2JB (01970 624151 www.wbc.org.uk neu e-bostiwch nhw ar cllc.grantiau@cllc.org.uk). Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw rhestr o gyhoeddwyr (www.llenyddiaethcymru.org)
Efallai byddwch am groesgyfeirio at Gynllun Mentora  Awduron Llenyddiaeth Cymru, y mae canllawiau annibynnol ar ei gyfer

Anfon eich cais:
Mae Llenyddiaeth Cymru yn croesawu ymholiadau ynglŷn ag unrhyw fater sy’n ymwneud â’ch cais. Os ydych yn cael trafferthion penodol wrth wneud cais, rhowch wybod i ni a gallwn drefnu ffordd arall ichi wneud cais am ysgoloriaeth.

Dylid anfon ceisiadau gyda'r post at Llenyddiaeth Cymru. Ni dderbynnir ceisiadau trwy ebost.

 


 CYHOEDDWYD ENILLWYR YSGOLORIAETHAU 2011 FIS MAWRTH 2011.
Cliciwch yma i weld pa awduron fu’n llwyddiannus yn 2011.


 Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Ysgoloriaethau 2012 wedi mynd heibio:
(Dydd Gwener 28 Hydref 2011)


Ysgoloriaethau 2013.
Bydd ffurflenni cais ar gyfer Ysgoloriaethau 2013 ar gael fis Awst 2012.
Dyddiad cau Ysgoloriaethau 2013:

Dydd Gwener 26 Hydref 2012

Gellir lawrlwytho'r canllawiau o'r dudalen hon: gweler y blwch ar waelod y dudalen ar gyfer y ddolen i'r dogfennau.

Mae’r amserlen ddyfarnu ar gyfer Ysgoloriaethau 2012 fel a ganlyn:
Bydd y Panel Ysgoloriaethau’n asesu’r ceisiadau yn y cyfnod Tachwedd 2011 - Ionawr 2012. Bydd y Panel Ysgoloriaethau’n cyfarfod fis Chwefror 2012. Caiff pob ymgeisydd ei hysbysu’n uniongyrchol trwy lythyr yn ystod mis Mawrth 2012. Cyhoeddir enwau'r ymgeiswyr llwyddiannus fis Mawrth 2012.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynglŷn ag aelodau'r Panel Ysgoloriaethau:

Ysgoloriaethau Awduron Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru
Prif Weithredwr: Lleucu Siencyn
Tŷ Mount Stuart
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266
ffacs: 029 2049 2930
post@llenyddiaethcymru.org


Llenyddiaeth Cymru yw'r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Mae'n cynnwys yr Academi Gymreig, cymdeithas llenorion Cymru, a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.  Rhif Elusen Gofrestredig 506402. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.