Dydd y Farn: Adran Adolygiadau

 Dydd y Farn

Dydd y Farn: Adran Adolygiadau

Yn dilyn ysgol undydd yr Academi ar sefyllfa beirniadaeth yng Nghymru, Dydd y Farn, a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar 6 Mawrth 2010, penderfynwyd creu adran adolygiadau newydd ar wefan yr Academi.

Yn yr adran hon cyhoeddir rhai o gyfraniadau'r diwrnod, gan gynnwys darlith Gareth Miles ac adolygiadau Kate Woodward, Sioned Williams a Dafydd Morgan Lewis.

Ond yn bwysicach, penderfynwyd estyn gwahoddiad i'r gynulliedfa anfon eu hadolygiadau hwy ar unrhyw gynhyrchiad neu gyhoeddiad yn ymwneud â llenyddiaeth neu'r celfyddydau. Mae croeso i chi anfon eich adolygiad at post@academi.org. Caiff rhain eu cyhoeddi yn yr adran hon, gyda chyfle i eraill ymateb, gan obeithio datblygu fforwm i drafod beirniadaethau'r celfyddydau.

Bwriedir cynnal cyfarfod yn stondin Academi ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol i drafod y datblygiadau yn y drafodaeth hon. Cyhoeddir rhagor o fanylion maes o law.

Ewch i dudalen facebook Dydd y Farn yma