Digwyddiadau

Iau 20 Mehefin 13

Noson 4a6 yng nghwmni Eurig Salisbury. Cerddoriaeth i'w gadarnhau. 8 p.m. Clwb Canol Dre, 1 Stryd y Farchnad, Caernarfon. £5 / £4 i aelodau. Tocynnau ar werth yn Palas Print: 01286 674631 Noddir gan Llenyddiaeth Cymru.



Gwener 21 Mehefin 13
Lansiad Môntage. Mae hwn yn gasgliad unigryw o waith gan awduron cyfoes Ynys Môn, gyda darluniau gan artist lleol, ac mae’n cynnwys cofiannau, straeon ysbrydion, hanes a barddoniaeth. Mae’n cynnwys gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg ill dau. Cyhoeddir y flodeugerdd gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru trwy Ŵyl Gwanwyn, a drefnir gan Age Cymru. Neuadd y Dref, Llangefni.7.00 pm. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Montage Writers: montagewriters@gmail.com / www.montagewriters.co.uk


Sadwrn 22 Mehefin 13
Guto’r Glyn, Y Llwybr i Fôn gydag Eurig Salisbury. 1.00 pm – 5.30 pm. Man Cychwyn/Gorffen: Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT. Pris tocyn: £12.50 (£10.50 – gostyngiad). Mae archebu o flaen llaw yn angenrheidiol. Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 029 2047 2266. Mae’r digwyddiad hwn yn ffurfio rhan o Raglen Digwyddiadau Twrisitaeth Lenyddol 2013 Llenyddiaeth Cymru.


Iau 27 Mehefin 13
Lansio Beirdd Bro'r Eisteddfod. Mae Cyhoeddiadau Barddas yn lansio'r gyfrol Beirdd Bro'r Eisteddfod a hynny yng nghwmni golygydd y gyfrol, John Glyn Jones a rhai o feirdd Sir Ddinbych a'r cyffiniau. Llyfrgell Dinbych, Dibych. 7.30 pm. Mynediad am ddim; derbyniad gwin. Croeso cynnes i bawb! Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chyhoeddiadau Barddas: 01970 625659 / www.barddas.com


Sadwrn 29 Mehefin 13
Theatr Genedlaethol Cymru: Vangst / Rhwydo. Cyflwynir gan Pontio. Theatr gorfforol drochol, wedi’i haddasu o’r Iseldireg gwreiddiol a’i pherfformio mewn tair iaith. Dydd Mercher 26 – 7pm, Dydd Iau 27 – 2pm a 7pm, Dydd Gwener 28 – 2pm a 7pm a Dydd Sadwrn 29 – 11am a 2pm. Hen Lawnt Fowlio, Bangor. Tocynnau: £9 / £7. Gallwch brynu tocynnau trwy’r wefan www.pontio.co.uk neu’r swyddfa docynnau ar 01248 382828 neu siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor. Cewch unrhyw wybodaeth arall trwy ffonio tîm marchnata Pontio ar 01248 388421.


Sadwrn 29 Mehefin 13
Crwydro Creigiau Aberdaron: Damian Walford Davies yn Dilyn Llwybrau RS Thomas. 10.30 am – 3.00 pm. Man Cychwyn/Gorffen: Maes Parcio Aberdaron, Aberdaron, Gwynedd, LL53 8BE. Pris tocyn: £7 (£6 gostyngiad). Archebu o flaen llaw yn angenrheidiol. Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 029 2047 2266. Mae’r digwyddiad hwn yn ffurfio rhan o Raglen Digwyddiadau Twrisitaeth Lenyddol 2013 Llenyddiaeth Cymru. Mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd.
 


Sadwrn 6 Gorffennaf 13
Y Stafell Ddirgel, O Fryn Mawr i Fryn Mawr gyda Haf Llewelyn a Huw Meilir Edwards. 11.00 am – 5.00 pm. Man Cychwyn/Gorffen: Canolfan Groeso Tŷ Meirion, Y Sgwâr, Dolgellau, LL40 1PU. Pris tocyn: £5 (£4 gostyngiad). Archebu o flaen llaw yn angenrheidiol. Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 029 2047 2266. Mae’r digwyddiad hwn yn ffurfio rhan o Raglen Digwyddiadau Twrisitaeth Lenyddol 2013 Llenyddiaeth Cymru. Mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri.


Sadwrn 13 Gorffennaf 13
Gŵyl Storïwr Ifanc Cymru 2013. Cynhelir yr ŵyl yn ystod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen fel rhan o Ddiwrnod Teulu. Dyma’r saithfed dathliad blynyddol i storïwyr ifanc rhwng 8 a 18 oed yma yng Nghymru. Llangollen, LL20 8TG. 2.30 pm. Manylion llawn a ffurflenni cais ar gael gan: fiona.storyteller@btinternet.com Cefnogir gan Ŵyl Beyond the Border, Courtyard Books, Llenyddiaeth Cymru, The Traditional Arts Team a Venue Cymru. 


Sul 4 Awst 13 - Iau 8 Awst 13
Gweithdy Geiriau Celfyddyd: Celfyddyd Geiriau. Mae Lle Celf yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal gweithdy yng nghwmni’r Prifardd a’r Prif Lenor, Mererid Hopwood. Y nod yw symbylu llenorion o bob oedran i ysgrifennu am gelf neu ddefnyddio celf fel man cychwyn i’w hysgrifau neu gerddi. Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013. Prynhawn Sul 4 Awst a bore Iau 8 Awst. Lle i hyd at 20 o gyfranogwyr. Cofrestrwch drwy gysylltu â’r Swyddog Celfyddydau Gweledol, Robyn Tomos: robyn@eisteddfod.org.uk / 0845 4090 300. Gwireddir gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru.


Gwener 23 Awst 13

Bwyd-len. Gwledd liwgar o fwyd a geiriau ar thema 'Môr a Mynydd'. Bydd y beirdd Geriant Løvgreen, Twm Morys a Rhys Iorwerth yn eich tywys fesul cwrs gyda cherddi dethol, ambell anecdot a chân, yn ogystal â phryd 3 chwrs. Yng ngeiriau un cyfranogwr: "Lle arall gewch chi bryd o fwyd tri chwrs ac adloniant safonol am £18?" Bar Doc, Galeri, Caernarfon. Swyddfa docynnau: 01286 685222. Noddir gan Llenyddiaeth Cymru.



Gwener 27 Medi 13

Waldo Williams - dyn digri.  Sgwrs gan Gareth Miles. Ysgol Botwnnog, Pwllheli, 7.30 p.m.Trefnir gan Gymdeithas Waldo. Cyswllt: Alun Ifans 01437 532603 alunifans@hotmail.com Noddir gan Llenyddiaeth Cymru.



Llun 7 Hydref 13

Eisteddfodau Cenedlaethol Môn. Darlith gan Vaughan Hughes. 7.30 p.m. Y Faenol Fawr, Bodelwyddan, Sir Ddinbych. Trefnir y noson gan Gylch Llenyddol Y Faenol Fawr. Cyswllt: Mr Meurig Owen 01745 582 531 meurig.owen@ssesurf.co.uk Noddir gan Llenyddiaeth Cymru.



Gwener 22 Tachwedd 13 - Sul 24 Tachwedd 13
Gŵyl Gynganeddu. Dyma'r unig ŵyl o'i math sy'n gyfle i wylio a gwrando ar rai o feirdd blaenllaw Cymru yn trafod eu gwaith, yn arwain sesiynau amrywiol, yn cynnig cymorth a diddanu'r dorf. Uchafbwynt yr ŵyl yw'r Ornest a gynhelir ar y nos Sadwrn. Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth. Am ragor o wybodaeth cysyllter â Tŷ Newydd: 01766 522811/ tynewydd@llenyddiaethcymru.org