Darlithoedd
Darlith gan Helen Eirlys Jones ar waith yr awdur Basgeg, Bernardo Atxaga. Traddodwyd y ddarlith hon mewn ysgol nos ar lenyddiaeth Sbaen, a drefnwyd gan yr Academi, ym Mhontypridd ym mis Ionawr 2004.
Cynrychiolydd yr Unigolyn?
Helen Eirlys Jones
Yn ystod fy nghyfweliad â’r awdur Bernardo Atxaga ym mis Ionawr 2003, dyma sut yr atebodd fy nghwestiwn am ei rôl fel awdur sydd yn ysgrifennu mewn iaith leiafrifol – yn ei achos ef, Euskara, yr iaith Fasgeg:
"Mae grwˆp lleiafrifol y mae arno angen pobl i siarad drosto yn rhoi pwysau abnormal ar dy ysgwyddau. Mewn geiriau eraill, nid yw’n bwysau y dylai awdur orfod cymryd arno’i hun . . . mewn gwirionedd, does dim un awdur o Loegr, o Sweden nac o Frasil yn gorfod cymryd y pwysau hyn."
Dywedodd wrthyf ei fod, fel awdur o Wlad y Basg, bob amser wedi teimlo rhywfaint o bwysau i warchod yr iaith a’r diwylliant. Felly roedd ysgrifennu yn fodd i foddhau ei anghenion artistig personol ond roedd hefyd yn gosod arno’r cyfrifoldeb o warchod a magu gobeithion y Basgiaid fel grwˆp yn y sffêr cyhoeddus ar ôl y Transición i ddemocratiaeth a gafwyd yn Sbaen wedi marwolaeth Franco yn 1975.
Ers diwedd unbennaeth Franco a dyfodiad y system ddemocrataidd, cefnogwyd diwylliant Gwlad y Basg gan nifer o strategaethau hybu cynnyrch diwylliannol, datblygiad a normaleiddio ieithyddol a lledaeniad cenedlaethol a rhyngwladol llenyddiaeth a ffilm. Mae natur diwylliant yng Ngwlad y Basg wedi newid. Roedd prosiectau’r 1960au a’r 1970au wedi’u hysbrydoli gan wrthsafiad cymdeithasol a gwleidyddol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llenyddiaeth yng Ngwlad y Basg wedi datblygu a’r llenorion yn cynhyrchu gweithiau sy’n cynnwys syniadau hollol wahanol, a’r rheiny wedi’u hysgrifennu yn Euskara ac yn Sbaeneg. O ganlyniad i’r rhyddid newydd yma, mae’r awdur fel unigolyn wedi gallu symud yn greadigol oddi wrth y grwˆp cymdeithasol clir a oedd yn bodoli o dan Franquismo.
Yng Ngwlad y Basg mae’r unigolyn yn aelod o gymdeithas ac iddi hunaniaeth wahanol i rannau arall o Sbaen. Mae’r unigolyn, felly, yn aelod o gymdeithas gyfalafol, orllewinol, ond yn derbyn, hefyd, y cyfrifoldeb ychwanegol o warchod a hybu hunaniaeth a gafodd ei hanwybyddu a’i gorthrymu yn y gorffennol. Fel y dywedodd Atxaga, mae’r awdur yng Ngwlad y Basg yn unigolyn sydd yn aml wedi gorfod cymryd cyfrifoldeb am gynrychioli’r Basgiaid trwy gyfrwng ei waith; mae hyn yn anochel yn creu gwrthdaro rhwng dyheadau personol yr awdur a gobeithion y grwˆp.
Darn o waith sy’n adlewyrchu dilema’r unigolyn a’i rôl wrth gynrychioli hunaniaeth grwˆp yw erthygl a gyhoeddwyd yn 1963 gan Irvine Howe yn y cylchgrawn Dissent. Yn yr erthygl mae Howe yn canmol gwaith y nofelydd (Affro-Americanaidd) Richard Wright, gan gynnig bod natur bywyd awdur Affro-Americanaidd yn ’rhoi pwysau cyson ar ei waith, ac nid mewn ffordd sy’n arferol i bob math o awdur, ond â phoen [. . .] na ellir ei wared.’ Mae Howe yn tanlinellu angst yr awdur Affro-Americanaidd gan ei fod yn gyfrifol am gynrychioli’r hil gyfan.
 Howe yn ei flaen i gondemnio’r amharch a ddangosir gan James Baldwin a Ralph Ellison tuag at y diwylliant Affro-Americanaidd. Ar y pryd, nid oedd y naill na’r llall o’r awduron hyn yn cytuno â’r cyfrifoldeb a osodwyd arnynt fel awduron croenddu yn yr Unol Daleithiau. Yn hytrach, maent yn ymateb i’w hanghenion personol trwy adrodd eu straeon personol, eu fersiynau personol, o’r profiad o fod yn berson croenddu yn yr Unol Daleithiau, heb fyth addo gallu cynrychioli pob person croenddu yn y wlad.
Felly creodd Baldwin ac Ellison gymeriadau unigol ac annibynnol, er mwyn tanlinellu’r diffyg annibyniaeth a oedd gan unigolion croenddu yn America yn ystod yr 1950au. Wrth gwestiynu swyddogaeth yr awdur Affro-Americanaidd fel ’llais’ i’r bobl, mae Baldwin ac Ellison yn hybu amrywioldeb o fewn i’w hunaniaeth hiliol. Dywed Ellison:
"Wedi’r cyfan, dim ond aelod bach wyf fi, nid y llwyth i gyd; mewn gwirionedd, dyw’r rhan fwyaf o Negros ddim yn gwybod pwy wyf i. Gallwn ysgwyd y genedl am sbel fach trwy ryw drosedd neu stori anweddus, ond mae fy malchder i yn gorwedd yn y ffaith imi ennill yr hawl i alw fy hun yn ’awdur’."
Mae Baldwin yn ategu hyn:
"Mae’r awdur croenddu yn UDA] yn cael ei orfodi i gynrychioli rhyw dair miliwn ar ddeg o bobl. Mae’n gyfrifoldeb ffals (gan nad gwleidyddion yw awduron) ac yn amhosib ei wireddu. Mae’r bugail anlwcus yn canfod yn gyflym, yn ogystal â’r ffaith ei fod wedi peidio gallu bwydo’r defaid awchus, ei fod hefyd wedi colli’r adnoddau i’w fwydo’i hun: gan nad yw wedi gallu ail-greu ei brofiad ei hun, mor drwm oedd ei bwysau, mor bresennol ei gynulleidfa."
Nid yw arwahanrwydd y Basgiaid mor gorfforol amlwg ag arwahanrwydd yr Affro-Americaniaid. Er hynny, yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhoddwyd sail i genedlaetholdeb Basgaidd gan Sabino Arana Goiri a oedd yn galw am gydnabyddiaeth o arwahanrwydd y Basgiaid oddi wrth eu cymdogion yn Sbaen. Fe’i hysbrydolwyd gan y bygythiad i hunaniaeth y Basgiaid gan y mewnfudo yn sgil y chwyldro diwydiannol ym Milbao a’r cyffiniau ar y pryd. Er mwyn creu hunaniaeth wahanol, dyfeisiodd Arana ddulliau o fesur pa mor Fasgaidd yr oedd pobl. Roedd yr hawl i berthyn i’r pueblo vasco (y Bobl) a pheidio â chael eich diffinio fel ’estron’ yn cael ei ddiffinio, felly, gan gyfenw, hanes teuluol, iaith ac urddas eich cymeriad. Er mwyn i’r Basgiaid gael llais gwleidyddol sylfaenodd Arana y Partido nacionalista vasco ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cyn y Rhyfel Cartref, derbyniodd Gwlad y Basg hunanlywodraeth gymharol gan lywodraeth y Weriniaeth, ond erbyn 1939, roedd llywodraeth Gwlad y Basg wedi ffoi i Baris, a’r ardal wedi ildio i luoedd Franco. Fel pob talaith arall, fe’i rheolwyd o Fadrid heb unrhyw gydnabyddiaeth o’r gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol a oedd yn bodoli yno.
Yn ystod yr 1950au, mewn ymateb i unffurfiaeth Franco, sefydlodd carfan o fyfyrwyr y mudiad EKIN. Eu bwriad oedd newid amgylchiadau Gwlad y Basg er mwyn hybu ffyniant yr iaith a’r diwylliant. Wrth i rwystredigaeth yr aelodau gynyddu, a hwythau’n cael eu hysbrydoli fwyfwy gan theorïau Marcsaidd, penderfynodd rhai ffurfio mudiad newydd, ETA, a fyddai’n gweithio tuag at ryddhau’r pueblo vasco rhag llywodraeth Sbaen a chyfalafiaeth. Penderfynwyd defnyddio trais er mwyn tynnu sylw at eu hachos. Mae ymgyrchoedd ETA yn parhau hyd heddiw.
Erbyn canol yr 1960au, wrth i athroniaeth Ffrengig a newyddion am brotestiadau ym Mharis a chwyldroadau yng Nghiwba a Tsiecoslofacia gyrraedd y wlad, roedd yr hinsawdd wleidyddol yn Sbaen yn newid. Roedd y newidiadau yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc yn Sbaen gyfan, ond yn enwedig yng Ngwlad y Basg.
Tra oedd y bobl ifanc yn eu mynegi eu hunain yn wleidyddol, defnyddiodd y bardd Gabriel Aresti ei waith i ysbrydoli’r Basgiaid yn ddiwylliannol. Defnyddiai ddelweddau yn ymwneud â cherrig (mae Harri, y gair Euskara am ’garreg’ yn debyg i’r gair am ’bobl’, sef Herri) er mwyn cynnig model newydd o gymdeithas Fasgeg, cymdeithas a fyddai’n canolbwyntio ar werthoedd sosialaidd. Dyma farddoniaeth gymdeithasol gan fardd a geisiai ysbrydoli’r Basgiaid yn eu hiaith eu hunain.
Ar yr un pryd, newidiodd natur y nofel yn Euskara wrth i genhedlaeth newydd o Fasgiaid megis Jon Mirande a José Luis Álvarez de Enparantza (Txillaredgi), a oedd wedi cael addysg brifysgol ac wedi teithio dramor, ddechrau mynegi eu consy´rn am yr iaith, y diwylliant a’r gymdeithas.
Ar ôl marwolaeth Franco yn 1975 cafwyd Transición i system ddemocrataidd a newidiodd natur cynnyrch diwylliannol Gwlad y Basg. Bellach, gellid defnyddio’r iaith yn gyhoeddus, ynghyd â chynllunio ar gyfer adfer hunanlywodraeth gymharol yng Ngwlad y Basg.
Â’u bryd ar symud i ffwrdd oddi wrth farddoniaeth gymdeithasol yr 1960au, ffurfiodd nifer o Fasgiaid ifainc - gan gynnwys Bernardo Atxaga, y bardd Jon Juaristi, y cerddor Ruper Ordorika a’r awdur ac ymgyrchydd Joseba Sarrionaindia - y grwˆp diwylliannol Pott Banda. Roedd eu gwaith, a gyhoeddwyd mewn cylchgrawn o’r un enw, yn tanlinellu’r cymysgedd rhwng byd trefol Bilbao eu hieuenctid a phrofiadau gwledig eu plentyndod. Roedd yr holl aelodau yn siarad Euskara ac wedi dioddef y cyfyngu ar ei siarad hi’n gyhoeddus yn ystod blynyddoedd yr unbennaeth. Ond o dan y drefn ddemocrataidd, gwelsant y cyfle i fanteisio ar y cyfleon i’w mynegi eu hunain yn gyhoeddus, gan fynnu mynd ati, ar yr un pryd, i ddatod y cysylltiad rhwng eu gwaith a’r delweddau traddodiadol wledig a berthynai i genedlaetholdeb rhamantus Sabino Arana. Ond canfu’r awduron hyn eu bod yn byw mewn gwagle o ganlyniad i sefyllfa’r iaith ar yr pryd.
Normaleiddiwyd Euskara yn yr 1960au gan ieithyddwyr fel Koldo Mitxelena, a’i galw’n Euskara batua (Basgeg unedol). Ymdrech i uno’r iaith yn wyneb yr holl dafodieithoedd lleol oedd Euskara batua. Ond roedd ysgrifennu yn Euskara yn fater cymhleth: roedd yr awduron ifanc yn dymuno ysgrifennu yn Euskara gan mai dyma oedd eu modd naturiol o’u mynegi eu hunain, ond hefyd roedd rhaid iddyn nhw ysgrifennu yn Euskara er mwyn cefnogi iaith a orthrymwyd yn y gorffennol. Ys dywed Jesús María Lasagabaster:
"Mae’r gwasanaeth amhrisiadwy a buddiol a roddodd llenyddiaeth Fasgeg i’w hiaith leiafrifol [. . .] wedi ei thrawsnewid i fod yn fath o gaethwasanaeth sy’n diddymu’r unigolrwydd y dylai pob llenyddiaeth ysgrifenedig ei gael a’i droi’n ddiben ieithyddol, gan ddistrywio annibyniaeth y llenyddiaeth, annibyniaeth a ddylai fynd ymhellach na’r iaith sy’n ei gwasanaethu o ran cynnig cefnogaeth a modd o fynegiant."
Wedi’r Estatuto de autonomía (Deddf hunanlywodraeth) yn 1980, cychwynnodd llywodraeth newydd Gwlad y Basg ar strategaeth ddiwylliannol - er enghraifft, sefydlu gwobrau llenyddol er mwyn annog ysgrifenwyr ifainc - a fyddai’n hybu celf, llenyddiaeth a ffilm. Datblygodd y strategaeth hon i fod yn rhan bwysig o bolisi’r Partido Nacionalista Vasco wrth geisio ailadeiladu’r traddodiad llenyddol a orthrymwyd gan unbennaeth Franco. Roedd normaleiddio ieithyddol a datblygu system addysg gyhoeddus ddwyieithog yn golygu bod angen llyfrau i’w hastudio, felly gwelwyd cynnydd sydyn ym maes llenyddiaeth plant. Ond roedd angen gwaith diffiniol ar Euskara o hyd, gwaith a fyddai’n galluogi’r Basgiaid i gadarnhau ymdrechion biwrocratiaeth ac i sefydlu eu hiaith fel offeryn ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain.
Yn 1988, cyhoeddwyd Obabakoak gan Bernardo Atxaga, llyfr a gyfunai nodweddion bywyd yng Ngwlad y Basg, gan gynnwys y gwrthdaro rhwng y wlad a’r dref, yr ymwybod o hunaniaeth a bod yn rhan o grwˆp cymdeithasol a’r cyfrifoldeb o warchod iaith leiafrifol, a’r cyfan mewn ieithwedd a chwyldrôdd Euskara fodern. Mae’r straeon yn y casgliad yn amrywiol iawn: bachgen sy’n trawsnewid i fod yn dwrch; athrawes ysgol unig sy’n herio’r ffordd o fyw ym mhentref ceidwadol Obaba; dyn sy’n gwallgofi o ganlyniad i’w ddealltwriaeth o straeon plant; a myfyrdodau am swyddogaeth y gair ysgrifenedig a’i bwysigrwydd wrth adrodd hanesion gwahanol hunaniaethau oddi mewn i’r gymdeithas Fasgeg.
Yn 1989 derbyniodd Atxaga y Premio Nacional de Literatura, Gwobr Genedlaethol Sbaen am lenyddiaeth. Obabakoak oedd y darn cyntaf o waith yn Euskara i ennill y wobr, a beirniadwyd Atxaga gan rai cenedlaetholwyr am dderbyn gwobr ’estron’. Fel rhan o’r wobr, cyfieithwyd Obabakoak i’r Sbaeneg, ac o ganlyniad fe’i darllenwyd gan gynulleidfa oedd â syniadau a chefndir dadansoddiadol gwahanol. Yn ogystal â’r Sbaeneg, cyfieithwyd Obabakoak i dros ugain iaith arall, ac er bod Atxaga wedi ennill nifer o wobrwyon a oedd wedi ei alluogi i’w ariannu ei hun fel awdur proffesiynol, newidiodd y Premio Nacional ei yrfa am byth.
Mae Atxaga yn enghraifft dda o’r gwrthdaro rhwng yr unigolyn a’r grwˆp yn niwylliant Gwlad y Basg. Fe’i ganwyd yn 1951, a phan oedd yn ddeunaw oed fe’i hanogwyd gan Gabriel Aresti i ddechrau ysgrifennu yn Euskara. Mae ei waith yn bwysig yng nghyd-destun cynnyrch llenyddol Gwlad y Basg ar ôl dyfodiad democratiaeth, a hynny nid yn unig o ganlyniad i’r steil ieithyddol ond hefyd y cynnwys thematig. Ysgrifenna am gymeriadau ar ffiniau cymdeithas, am gymdeithas drefol, a gellir mesur ei wybodaeth lenyddol mewn termau bydol. Daeth yn awdur adnabyddus, ond yn sgil hynny, cymerodd ar ei ysgwyddau y cyfrifoldeb dros gynrychioli gobeithion y grwˆp. Yng Ngwlad y Basg ac yn Sbaen, yn aml iawn ef yw cynrychiolydd y diwylliant Basgeg. Rhoddodd ei waith iddo’r boddhad o allu ysgrifennu am y diwylliant hwnnw ar gyfer pobl Gwlad y Basg, ond golygodd hefyd iddo orfod dod i delerau â’r cyfrifoldeb o fod yn arweinydd diwylliannol.
Wedi digwyddiadau’r 1980au a’r Premio Nacional, yn ystod yr 1990au derbyniodd llenyddiaeth Fasgeg gydnabyddiaeth ryngwladol. Cyfieithwyd sawl nofel i’r Sbaeneg ac, o ganlyniad, i ieithoedd eraill. Mae darllenwyr llenyddiaeth Fasgeg y tu allan i Wlad y Basg yn niferus. Unwaith eto, Atxaga yw’r unigolyn sy’n cynrychioli orau y ffenomen yma, fel y tystia’i bresenoldeb mewn gwyliau llenyddol yn America ac Ewrop.
Yn ogystal â lledu’i adenydd fel hyn, magodd cynnyrch diwylliannol Basgeg fwy o annibyniaeth. Am y tro cyntaf gwelir awduron ac artistiaid yn symud i ffwrdd o’r cyfrifoldeb o orfod cynrychioli grwˆp. Tra bod y gwobrau llenyddol yn parhau, erbyn hyn mae awduron ac artistiaid proffesiynol a chyfarwyddwyr ffilm llwyddiannus yn ennill bywoliaeth yng Ngwlad y Basg. Cododd cenhedlaeth newydd a addysgwyd mewn ysgolion Euskara sy’n ymwybodol o gonsy´rn y cenedlaethau blaenorol ac a ddarllenodd eu gwaith; ond mae eu syniadau’n wahanol. Dyma a ddywed Unai Elorriaga, enillydd y Premio Nacional yn 2002:
"I ni, mae popeth wedi bod yn fwy naturiol, yn fwy normal. Ry’n ni wedi darllen eu gwaith [gwaith Atxaga, Ramón Saizarbitoria ac Anjel Lertxundi] a dy’n ni ddim yn gorfod meddwl gymaint am yr iaith rhagor. Y consy´rn nawr yw cynhyrchu llenyddiaeth dda."
Dymuna’r genhedlaeth newydd o awduron fod yn unigolion yn ogystal â bod yn Fasgiaid. Ond yn eironig ddigon, yn ystod yr 1990au, trodd Atxaga, y dyn anweladwy, arweinydd y grwˆp, ei olygon tuag at yr unigolyn hefyd. Mae ei nofelau El hombre solo, a gyhoeddwyd yn Sbaeneg yn 1994, ac Esos Cielos (1996), yn ddwy stori am gyn-derfysgwyr a gefnodd ar y mudiadau radical yr oeddynt yn aelodau ohonynt. Maen nhw bellach ynghlwm yn y ddilema o gael gwared o euogrwydd y gorffennol er mwyn canfod eu lle mewn cymdeithas ddemocrataidd. Yn ei fyfyrdodau ynglyˆn â’r unigolyn, mae Atxaga yn wynebu’r cenedlaetholdeb radical sy’n brwydro dros el pueblo vasco, ac yn portreadu unigrwydd yr unigolyn sy’n gaeth o fewn i hunaniaeth y grwˆp.
Yn wleidyddol, mae’r grwˆp pueblo vasco yn parhau i fodoli. Yn ddiwyllianol, mae yna genhedlaeth newydd o unigolion sy’n ceisio mynegi ei realiti personol. Nid yw’r genhedlaeth hon yn barod i fod yn anweledig; nid eu hiaith a’u cenedl yw’r unig ffactorau sy’n eu diffinio. Fel Ralph Ellison a James Baldwin, mae’r personas vascas wedi cefnu ar eu sefyllfa anweledig ymysg el pueblo vasco er mwyn mynegi eu realiti eu hunain. Maen nhw felly’n cyfrannu at adeiladu hunaniaeth fodern ar gyfer y Basgiaid, hunaniaeth sy’n dibynnu ar blwraliaeth ac amrywiaeth.


