Darlithoedd

Traddodwyd y ddarlith hon gan Dylan Iorwerth yng nghynhadledd undydd yr Academi, ’Lle Mewn Llenyddiaeth’, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, 16 Mawrth 2006.
LLE DIARTH gan Dylan Iorwerth
Roedd yna dipyn o olygfa o’r tyˆ lle’r oedden ni’n byw yn Nolgellau, a minnau’n bump a chwech oed. O’r ffenest fawr, roedd hi’n bosib gweld cadwyn mynyddoedd Cadair Idris fel tonnau yn yr awyr. Ac eto, dim ond wyth mlynedd yn ôl y mentrais i ddringo’r grib.
Symud wedyn at droed Moel Eilio – lle y gosododd Kate Roberts un o’i straeon cyntaf anghyhoeddedig. Ond ro’n i wedi hen adael Waunfawr cyn y cerddais i gopa hwnnw, a’r Mynydd Mawr gyferbyn. Felly y byddwn ni, heb roi sylw i’r pethau cyfarwydd.
Pe bawn i’n sgrifennu am Waunfawr pan oeddwn i’n fachgen yno, am y bobl y byddwn i’n sôn, am y gwrthdaro rhwng teuluoedd, am droeon trwstan, am gampau’r Hogia yn yr hen dyllau chwarel, am y dens ar Glogwyn Cyrnant, am ymbalfalu dechrau caru yn Dudley Park, ac yn fwy na dim, am y Reilands. Yr ynysoedd oedd y rheini, yn cael eu hynganu gydag R fawr, fel Rysgol yn Un Nos Ola Leuad. A’r brif lythyren yn rhoi bodolaeth iddyn nhw oedd yn fwy nag enw lle.
Pe bawn i’n sgrifennu am Waunfawr heddiw, mynd â chi trwy’r twmpathau grug y byddwn, i dop Cefn Du (hoff fynydd Llion Iwan) er mwyn edrych i lawr ar y sgathriad hir o bentref ar felyn a rhwd y gweundir. Y toeau llechi’n sgleinio fel y môr yn Abermenai, a Lôn Wen Kate Roberts yn codi tros Allt Coed Mawr am y Cilgwyn a Chors y Bryniau. Ac mi faswn i’n fwriadol yn enwi pobman a mwytho enwau’r hen dyddynnod, sy’n dai haf ers cenedlaethau.
Doeddwn i ddim yn gweld y pethau hynny pan oeddwn i’n byw yno. Doedd dim rhaid i mi eu henwi nhw chwaith i gofio eu bod nhw’n bod.
Petaech yn gofyn i bobl enwi llenor lle, mae’n ddigon tebyg y byddai llawer yn sôn am D. J. Wedi’r cyfan, dyma awdur Y Filltir Sgwâr ac mae daearyddiaeth a daeareg yn enwau rhai o’i lyfrau enwocaf, yn straeon y tir amryliw. Ond cipiwch trwyddyn nhw, a does dim llawer o dir mewn gwirionedd. Pobl, nid daearyddiaeth, sy’n llenwi’r filltir sgwâr.
Yn yr ystyr hwnnw, mae Defi John Williams, Rhydcymerau, yn perthyn i’r John Williams arall hwnnw a sgrifennodd Five Pubs, Two Bars and a Nightclub. Go brin fod hen ardal y dociau yng Nghaerdydd yn filltir sgwâr, ond mae mwy o bobl yno nag yn ardal yr hen dyˆ ffarm. Er hynny, mae yna debygrwydd yn y straeon. Dal cymdeithas pobl y maen nhw, straeon sydd fel petaen nhw wedi codi o chwedlau bach lleol.
Dyna ‘Deio’r Swan’, y stori am Wil Bach Saer yn cael ei gau yn yr hers. A dyna Black Caesar’s, efo Kenny Ibadulla yn agor ei fosg a chael ei dwyllo gan griw o Birmingham. Mae’n hawdd credu fod rhyw ddigwyddiad go–iawn wedi tanio gwreichionen dychymyg. Mae’r John Williams dinesig yn defnyddio enwau adeiladau a llefydd penodol yn fframwaith hiraethus i’w straeon a Defi John Sir Gaerfyrddin yn britho’i waith ag enwau o’r Hen Ardal (â phrif lythrennau). Ond fedrech chi ddim creu map o waith y naill na’r llall.
Petaech chi’n rhoi cynnig arni, nid mapiau dau ddimensiwn fydden nhw, yn gorwedd yn fflat ar y bwrdd o’ch blaen. Mapiau dwfn fydden nhw, fel y rhai yr oedd yr artist Cliff McLucas yn gweithio arnynt – haenau o fapiau i ddangos daearyddiaeth diwylliant, yn iaith a chof, yn hanes ac ymwneud cymdeithasol.
Petaech yn chwilio am lyfr Cymraeg sy’n consurio teimlad o le, mae’n siwˆ r mai at Cysgod y Cryman y byddech chi’n troi. Yno, mae’r defnydd o dir a golygfeydd yn gwbl fwriadol ac, yn ôl y sôn, yn adlewyrchu edmygedd Islwyn Ffowc Elis o John Steinbeck, a oedd yn anterth ei enwogrwydd pan ymrithiodd Lleifior i ganol ein byd Cymraeg. Mae penodau cynta’r nofel a sawl un o’r is-adrannau yn dechrau efo disgrifiadau manwl o’r wlad a thro’r tymhorau; efo’r tywydd a’r cnydau a oedd yn patrymu bywydau’r trigolion. Maen nhw’n cyfleu teimlad oesol a thymhorol yr un pryd ond, yn fwy na hynny, yn mynegi seicoleg gymdeithasol. Mae Islwyn Ffowc Elis yn archwilio hierarchiaeth cymdogaeth a oedd yn wahanol iawn i Ddyffryn Ceiriog ei fagu yntau. Tirwedd gymdeithasol yw hon a thirwedd sydd, fel yr oedd celfyddyd ganrifoedd yn ôl, yn cynnwys ystyron statws a defod:
"Cerddodd llygaid Harri o fferm i fferm ar hyd y dyffryn, a’u henwi un ac un. Castell Aram, Y Trawscoed, Y Garnedd, Lluest y Wennol, Hendre’r Abad, Hafod Encid a’r tri Chefn – yr Isaf, y Canol a’r Uchaf. A Lleifior. A’r mwyaf o’r rhai hyn oedd Lleifior."
Mae yna berchnogaeth tir a daear yn yr enwau a’r disgrifiadau daearyddol. Ond yn rhyfedd iawn, wrth fwrw i mewn i’r stori, ac yn fwy fyth yn Yn Ôl i Leifior, mae yna lai a llai o sgrifennu o’r fath. Pobl a digwyddiadau sy’n dechrau penodau’r dilyniant.
Mi fyddai amryw’n troi at waith Kate Roberts hefyd i chwilio am lenyddiaeth lle, a hithau’n enwog am gyfleu byd y chwareli bach ar weundiroedd Sir Gaernarfon. Mae yna ddisgrifiad daearyddol digon manwl tua dechrau Traed Mewn Cyffion o’r olygfa tuag at fy Allt Coed Mawr i, ond o’r cyfeiriad arall:
"Yr oedd yn ddiwrnod poeth yn niwedd Mehefin, a Jane a Geini’n croesi’r Waun Goch i gyfeiriad Allt Eilian i edrych am mam Geini, mam ei thad. Pigent eu ffordd hyd lwybrau defaid, rhwng eithin a grug. Weithiau cydiai conglau eu sgerti llaes mewn brigyn eithinen ac wrth iddynt godi eu sgerti, pigai’r eithin eu coesau. Dawnsiai’r gwres o flaen eu llygaid fel gwybed . . ."
Nid daearyddiaeth ddamweiniol mo hon. Mae’r disgrifiadau’n cyferbynnu efo helaethrwydd agored Pen Llyˆn, yr ardal y daeth Jane Gruffydd ohoni. Mae’r llwybrau defaid yn gul a brigau’r eithin yn rhwystr. Gallai’r un olygfa fod yn un nefolaidd, ond poendod sydd fan hyn yn nhirwedd seicolegol yr alltud anfodlon.
Fel yn achos Cysgod y Cryman, mae’r disgrifiadau’n fwy ysbeidiol wrth drafod digwyddiadau a phethau pob dydd, a manylder enwog Kate Roberts sy’n cario’r ystyr symbolaidd. Er mai o bell yr oedd hithau’n sgrifennu am ardaloedd y chwareli, nid ail-ymweld yr oedd hi, fel y bydda i yn Waunfawr. Ail-greu yr oedd Kate Roberts, mynd yn ôl i fyw yn Arfon ei phlentyndod.
Yn y gyfrol Cwm Cynon yng Nghyfres y Cymoedd, mae Mihangel Morgan yn trafod y cyfnod y gweithiai Kate Roberts yn Aberdâr tra’n sgrifennu am Sir Gaernarfon.
"‘Rhyw fath o Arfon’ oedd ganddi, ei hen Arfon newydd fytholegol, ei Rhosgadfan adluniedig . . . Arfon y gorffennol, Arfon ei mytholeg, nid Arfon fel yr oedd ar y pryd pan oedd hi’n gweithio fel athrawes yn y de… creadigaeth dychymyg hiraethus Kate Roberts . . . nid Arfon go iawn oedd yn newid fel pob man arall ar ôl y Rhyfel Mawr."
Nid ail-greu’r golygfeydd y mae hi, chwaith, ar y cyfan. Pobl a chymdeithas ydi daearyddiaeth Kate Roberts, a thirwedd seicolegol sydd ganddi; tirwedd emosiynol.
Ceir gweddill y ddarlith yn Taliesin 128: Haf 2006


