Darlithoedd
Traddodwyd y ddarlith hon gan Yr Athro Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, yng Nghinio Llenyddol yr Academi yng Ngwesty Portmeirion ddydd Sul 17 Medi 2006.
CYFLWYNO BARDDONIAETH gan yr Athro Gwyn Thomas
Y mae yna fwy nag un ffordd o ddod at gerddi:
1. Fe allwn ni i gyd ddarllen yr hyn a sgrifennodd y bardd – allwn ni ddim sôn am hynny yma, gan mai mater i bob un ohonom ni ar ei ben ei hun ydi o;
2. Fe allwn ni wrando ar gerdd yn cael ei darllen, gan y bardd, neu gan rywun arall – y mae hyn yn cynnwys gwrando ar gerdd yn cael ei ’hadrodd’ neu ei ’llefaru’ mewn eisteddfodau;
3. Fe allwn ni weld a gwrando ar gyflwyniad o gerdd ar gyfrwng gweledol, ar ffilm neu fideo neu deledu.
Os trown ni at ein hen draddodiad barddol ni ein hunain, y ffordd o gyflwyno cerdd oedd i’r bardd neu rywun arall (Datgeiniad) lefaru nau lafarganu’r gerdd i gyfeiliant telyn neu, os nad oedd telyn ar gael, i gyfeiliant ffon neu bastwn. Y mae yna un llawysgrif yn sôn am ddatgan cerddi’r hen feirdd, Llawysgrif Ab Huw (tua phedair canrif yn ôl), ond yn anffodus fe ddefnyddiodd o nodiant cerddorol anarferol a phenblethol. Ond, mae amryw wedi ceisio gweithio ei nodiant o i system hen nodiant. Y mae yna arweiniad i gyflwyniad o gerdd mewn cynghanedd yn y gynghanedd ei hun; y mae yna acenion mewn llinell o gynghanedd, ac os oedd hi’n bosib i gyfeilio cyflwyniad efo ffon, y mae’n rhaid mai taro’r acenion oedd sylfaen y datganiad. Fe glywais fwy nag un yn ceisio dynwared sut yr oedd Syr John Morris-Jones, awdur y llyfr Cerdd Dafod, yn darllen cerddi cynganeddol – yr oedd o’n gallu cyfareddu cynulleidfaoedd, a’i ddosbarthiadau coleg
(peth sy’n dweud cryn dipyn) gyda’i ddarlleniadau, yn ôl amryw o dystiolaethau. Dywedodd un cyn-fyfyriwr wrthyf mai fel hyn y byddai o’n datgan y cwpled enwog hwn [Gwyn Thomas yn llefaru’r cwpled gan ddynwared y cyn-fyfyriwr]:
Os marw hon yn Is-Conwy,
Ni ddylai Mai ddeilio mwy
Y mae’r darlleniad yna’n codi neu ddangos y gynghanedd a’i gwneud hi’n amlwg i bwy bynnag y mae ganddo fo grap ar y system.
Fe lwyddais i gael gafael ar recordiad o lais Syr John yn darllen pwt o gywydd gan Goronwy Owen, a dyma fo – braidd yn wantan y mae arnaf ofn. Yna fe glywn ni ddynwarediad W. H. Roberts o JM-J yn darllen darn o awdl meuryn “Min y Môr”.
[chwarae recordiadau sain]
Am gyfnod maith yn hanes llenyddiaeth, datganiadau neu ddarlleniadau cyhoeddus fel hyn oedd barddoniaeth: fe fyddai’r bardd mawr o’r Eidal, Dante, yn mynd i lawr i sgwâr y farchnad ac yn darllen ei gerddi’n uchel yno – dyna un rheswm pam y bu iddo gyfansoddi ei gerddi mewn iaith frodorol yn hytrach na Lladin; roedd o am i nifer mor sylweddol ag oedd bosib ddeall ei waith. Efallai nad ydym ni ddim yn llawn sylweddoli bob amser mor llafar oedd llenyddiaeth yn yr Oesoedd Canol; hyd yn oed os oedd gwaith wedi ei ysgrifennu mewn llawysgrif, nid gweithred o ddatrys yr hyn oedd wedi ei ysgrifennu oedd darllen i’r rhan fwyaf o bobol hynny oedd yn llythrennog; nid ein darllen distaw ni oedd darllen. Yr hyn oedd yn digwydd gan amlaf oedd fod y darllenwr yn dweud y geiriau’n uchel, hynny ydi roedd o’n trawsnewid llenyddiaeth ysgrifenedig yn llenyddiaeth lafar: dyna oedd darllen. Felly fuasech chwi ddim haws o roi rhybudd DISTAWRWYDD mewn llyfrgell mewn mynachlog: mi
fyddai’r lle yn hymian gan leisiau darllenwyr. Gyda llaw, dydym ni ddim bob amser yn ystyried mor gyffredin oedd y darllen uchel hwn am hir iawn: hyd yn oed yn yr ail ganrif ar bymtheg, y mae yna anogiadau mewn llyfrau crefyddol i feistr y tw ddarllen y gwaith i’w deulu a’i wasanaethyddion.
Mewn barddoniaeth ar gynghanedd neu fesurau set y mae yna arweiniad go dda i’r datgeiniad. Ychwanegwch at hyn atalnodi ac fe ddylai darllenydd fedru dilyn siâp y sun a glywodd y bardd – er fe ddylid dweud mai mympwyol iawn oedd atalnodi barddoniaeth mewn hen lawysgrifau, os oedd o yno o gwbwl. Gyda cherddi yn y wers rydd y mae yna ychydig mwy o gymhlethdodau er, yn fy marn i, fe ddylai y rhythm roi arweiniad. Ond dydi pethau ddim mor hawdd ac uniongyrchol â hyn’na. Fe ystryriwn ni eiriau, cyfarwydd am `wn i, wedi eu hysgrifennu a’u golygu, sef araith gan Mark Anthony o ddrama Shakespeare Julius Caesar. Y mae Mark Anthony yn sefyll, ar ei ben ei hun, wrth gorff Caesar a hwnnw wedi cael ei ladd ychydig ynghynt. Y mae Mark Anthony wedi gorfod cymryd arno ymddwyn mewn ffordd arbennig o flaen y llofruddion. Yn awr y mae o’n mynegi ei wir deimlad. Efallai y carech chwi fwrw golwg dros y geiriau a meddwl sut y byddech chwi’n eu darllen.
Yn awr, dyma fersiwn o ddechrau’r ganrif ddiwethaf o ddarllenaid actor Herbert Beerbohm Tree o ddarn o’r araith yna (1906).
[chwarae recordiad sain]
Ac yn awr, dyma fel y traddododd Marlon Brando yr araith mewn ffilm a wnaethpwyd o’r ddrama.
[chwarae recordiad fideo]
O ran cyflwyno dramâu y mae’r ddau ddatganiad yna’n dangos inni fod yna’r fath beth â ffasiwn o gyflwyno geiriau. Gyda llaw, y mae’n hawdd i ni heddiw wfftio at hen ffyrdd o actio, lle y mae yna – i ni – or-wneud ystumiau a gor-ddweud y geiriau: ond rydw i’n dal i gofio geiriau a ddywedodd yr actor nodedig hwnnw Charles Williams wrthyf fi, “Os oeddech chwi’n perfformio drama mewn neuadd fawr heb help unrhyw dechnegau clywed, a chan gofio y byddai’r rhai oedd yn y cefn beth pellter oddi wrth llwyfan, roedd yn rhai ichwi or-wneud.” Hynny ydi, fe all amgylchiadau datganiad gael effaith ar y dull o ddatgan.
Yr ydym ni yng Nghymru’n gyfarwydd â gwahanol fathau o bobol yn cyflwyno cerddi o lwyfannau, dyna ydi’n traddodiad eisteddfodol ni: yn Lloegr, actorion sy’n gwneud y gwaith hwn amlaf. Bron yn ddi-feth – fy marn i ydi hyn – y mae’r actorion hyn yn chwilio am deimlad y gwaith. I’r bardd ei hun, efallai nad hynny ydi’r peth pwysicaf. Mi roddwn ni gyfle i ambell fardd roi inni ei ddarlleniad ei hun o’i gerddi ei hun, achos rydw i’n meddwl mai dyna ydi’r fersiwn iawn o unrhyw gerdd – hyd yn oed os ydi’r darlleniad yn un digon ciami. Flynyddoedd yn ôl roedd Cyngor Celfyddydau Cymru am gyhoeddi detholiad o gerddi’r bardd Pwylaidd Zbigniew Herbert ac roeddwn i a Nesta Wyn Jones i fod i gydweithio efo John Elwyn Jones, a fedrai Bwyleg, i greu fersiynau Cymraeg o gerddi Herbert. Gofynnais i Tony Bianchi, swyddog y Cyngor a oedd yn mynd i weld y bardd yng ngwlad Pwyl, ddod â thâp o
ddarlleniadau’r bardd mewn Pwyleg yn ôl imi. Fe wnaeth Tony hynny, gyda chryn ofal am fod pethau’n gaeth iawn yng ngwlad Pwyl yr adeg honno. Dyma finnau’n gwrando ar y bardd, ac yn cael syndod: roedd o’n darllen y cyfan fel trên, yn stribynnau o sun. Ychydig iawn o help oedd y cyfan i mi, ond dyna oedd fersiynau’n bardd ei hun o’i gerddi. Y mae yna’r fath beth â ffasiwn mewn darlleniadau beirdd o’u cerddi eu hunain hefyd. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ddeunawfed yr oedd yna ddatgan a oedd yn cael ei alw yn `vatic’ (o air a arferid gan ysgrifenwyr Clasurol am un dosbarth o wwr dylanwadol y Celtiaid `vates’ y daw hwn: roedd y vates yn weledyddion, yn fath o broffwydi, felly datgan megis proffwyd oedd y dull hwn o gyflwyno cerddi – gyda llaw, y mae’r dull yn dweud rhywbeth am y ffordd yr oedd beirdd yn synied amdanynt eu hunain, a sut yr oedd rhai pobol yn ymateb iddynt: yr oedd yna syniad
fod ganddyn nhw rywbeth o bwys i’w ddweud.)
Dyma ichwi enghraifft o’r darllen Vatic yma, neb llai na W.B. Yeats yn datgan ei gerdd “The Lake Isle of Innisfree”.
[chwarae recordiad sain]
Y mae un dyn, Francis Berry, wedi honni fod pob bardd yn cyfansoddi ar gyfer y llais go-iawn sydd yn ei wddw fo’i hun. Sail ei ddamcaniaeth ydi fod gwrando ar recordiadau o feirdd yn darllen eu gweithiau eu hunain yn ennyn ymateb fel, “Ie wir, dyna’r llais sy’n ffitio ei farddoniaeth i’r dim”. Ar y sail dra simsan hon aeth i ddyfalu pa fath lais oedd gan Chaucer, a pha fath lais oedd gan Shelley. Y mae yna gofnodion am lais Shelley gan ddyn o’r enw T.J. Hogg: “intolerably shrill, harsh and discordant, of the most cruel intension” meddai; ac meddai Berry: “yr union fath o lais ar gyfer yr angerdd a’r ehediadau mynych sydd ym marddoniaeth Shelley.”
Mae’n sôn am Tennyson hefyd – a chyda llaw fe ddaethpwyd o hyd i recordiad o’i lais o: yr union beth a ddisgrifir gan ei gyfeillion, a’r union lais i un a gyfansoddodd “The Passing of Arthur” ac yn y blaen: “A deep mellow chest-voice”; “Sometimes a swell of sound like a deep organ”.
Wel, ie wir. Ond pa un a ydych chwi’n rhoi unrhyw goel ar Berry ai peidio, y mae llais y bardd o bwys mawr, yn fy marn i. Pam? Rydw i wedi dweud pam yn barod: am mai fo neu hi sydd yn gwybod beth ydi siâp y sun sydd yn ei gerdd i fod.
Dyma ichwi ddau ddarlleniad o’r un gerdd, sef “Yr Alarch” gan Euros Bowen. Darlleniad Siân Phillips ydi’r cyntaf, a darlleniad y bardd ei hun ydi’r ail.
[chwarae recordiadau sain]
Dyna ni wedi sôn tipyn am gyflwyniadau llafar o farddoniaeth; yn awr fe symudwn ni at gyflwyniadau gweledol o farddoniaeth. Y ffordd symlaf un o wneud hyn ydi dangos y bardd ei hun yn darllen ei gerdd – ac efallai mai dyna’r ffordd fwyaf effeithiol, eithr fe soniwn ni am ffyrdd eraill. O bob peth, y ddelwedd symudol – roedd delweddau llonydd, lluniau, yn bod lawer iawn cyn hwn, wrth gwrs – y ddelwedd symudol ydi ffordd fwyaf nodweddiadol yr ugeinfed ganrif o ddifyrru; fe ellir hawlio, hefyd, mai trwy’r cyfrwng gweledol y mae llawer o waith `llenyddol’ yr ugeinfed ganrif wedi cael ei gyflwyno; fe elwais i hyn yn ’llunyddiaeth’ ac rydw i’n meddwl fod y term cystal ag unrhyw un am wneud i’r ddelwedd symudol gyflwyno defnydd llenyddol. Fe alwodd un wraig, Margaret Kennedy, awen y ffilm yn “mechanized muse”. Roedd hi’n pwysleisio mai y cyfanwaith a ddangosir ar y sgrîn ydi’r peth pwysig; nid peth i’w darllen ydi sgript ffilm, meddai, “Dydi hi ddim yn llenyddiaeth mwy nag ydi risêt ar gyfer pwdin”. Mae’n siur gen i na fyddai yna’r un bardd yn hoffi clywed cyferio at ei waith fel “risêt bwdin”. Y mae’n debyg y gallai barddoniaeth sydd wedi ei bwriadu ar gyfer y sgrîn gael ei darllen ar ei phen ei hun, ond os ydi hi’n wir yn farddoniaeth ar gyfer y sgrîn, yna ar y sgrîn y mae hi’n gyflawn. Rydw i’n tueddu i ddweud, yn gyffredinol, fod geiriau cerdd deledu neu gerdd ffilm yn un elfen, bod y lluniau (a’r pethau sy’n cyd-fynd â nhw, seiniau, cerddoriaeth ac yn y blaen) yn ail elfen; a bod y cyfuniad yn drydydd peth. Rydw i’n pwysleisio mai yn gyffredinol yr ydw i’n synied fel hyn, y mae yna achosion lle y mae dyblygu trwy sôn am ddur, dyweder, a dangos dur yn gallu gweithio. Yr enghraifft sy’n dod i’m meddwl i o’r brif egwyddor ar waith ydi rhywbeth tebyg i hyn: bod yna lun o bobol yn newynu yn Affrica ar y sgrîn a bod geiriau’n hysbysebu bwyd cun a chathod yn cael eu clywed. Byddai’r geiriau’n taro’n hollol groes i’r lluniau ac yn creu sylw eironig ddychanol ar ddwy ffordd o fyw.
Dwy enghraifft yn unig yr ydw i am eu cynnig ar gyfuno geiriau efo lluniau.
Yn yr enghraifft gyntaf fe glwyn ni lais RS Thomas yn darllen ei gerdd “In Church”, ac fe gawn ni’r hyn a ffilmiodd y dyn-camera Gareth Owen ar gyfer rhaglen ar y bardd a wnaethpwyd gan Ffilmiau’r Bont.
[chwarae recordiad fideo]
Yn y gerdd y mae yna eiriau arwyddocaol iawn: silences, God hides, listen, body that our prayers have failed to animate, shadows, light, emptiness, a’r geiriau ar ddiwedd y gerdd: nailing his questions/ One by one to an untenenated cross. Ac eto y mae’r ymchwil ei hun am y Duw cuddiedig yn rhyw fath o weithred o gredo. Y mae camera Gareth Owen yn cynnig awgrymiadau pellach i eiriau RS Thomas, y mae’r eglwys ei hun yn troi yn hanfodion hen ffydd – y mae’r camera’n codi patrwm o golofnau sy’n awgrymu croes, er enghraifft; ac, ar y diwedd, y mae yna groes wag. Y mae croes wag yn eithriadol i rymus, y mae’n gallu awgrymu nad oes yna ddim Crist, ond y mae’n gallu awgrymu hefyd ei fod o wedi atgyfodi: “nid yw Efe yma” yn farw. Ac y mae yna ryw oleuni rhyfeddol yn yr eglwys.
Y mae’n berffaith amlwg i bawb, heb fod rhaid pwysleisio hynny, nad ydi pob darn o farddoniaeth yn mynd i fod yn addas ar gyfer ei luneiddio. Pe baech chwi’n gofyn i mi pa gerdd enwog na fuasai’n addas o gwbwl ar gyfer hyn byddai’n demtasiwn enfawr imi nodi La Divina Commedia [Y Gomedi Ddwyfol] Dante fyddai honno. Y mae diwinyddiaeth, athroniaeth, moesoldeb, heb sôn am hanesyddoldeb y gerdd yn gymhlethdod mawr. Wn i ddim a osododd Peter Greenaway y dasg o greu credd deledu ohoni yn dasg iddo’i hun neu a heriwyd ef i wneud hynny.
Sut bynnag, dyma enghraifft o’i gynnig o i luneiddio rhan o gerdd Dante.
[chwarae recordiad fideo]
Unwaith eto, y mae’n rhaid i chwi farnu drosoch chwi eich hun a oedd hyn’na’n llwyddiant ai peidio. Yr ydw i, yn bersonol, yn meddwl fod y ffordd y daeth Greenaway â throed-nodiadau i esbonio pethau tywyll ac anhysbys y gerdd i’r cyflwyniad yn dra dyfeisgar.
I gloi, a gaf fi ddweud mor anffodus ydi hi nad oes yna fawr ddim cyfle i feirdd luneiddio cerddi ar gyfer y cyfryngau Cymraeg bellach. Ond efallai mai dyma sydd i’w ddisgwyl yn “this twittering world”, chwedl Eliot. Fy hun, fe hoffwn i’n fawr gael y cyfle o gael gafael ar bethau gwir bwysig sydd i’w cael mewn ffilmio Newyddion trwy’r ganrif ddiwethaf; y mae ynddyn nhw wirioneddau y mae eisio eu hail-gyflwyno inni i gyd. Efallai, hefyd, ac offer fideo mor rhad a hawdd ei drin ar ryw lefel y gallai beirdd fynd ati eu hunain i luneiddio cerddi.


