Darlithoedd
Paratowyd y ddarlith hon gan Ian Rowlands ar gyfer Cinio Llenyddol yr Academi yng Ngwesty Portmeirion, 30 Medi 2007. Traddodwyd y ddarlith gan Richard Elfyn.
Pleser o’r radd fwyaf oedd cael fy ngwahodd i’ch annerch heddiw. Maddeuwch i mi am f’absenoldeb ond bellach, nid wyf yn feistr ar fy nhynged fy hun am fy mod bellach wedi gwerthu ’fennaid i’r teledu. Yr eironi yw i mi dderbyn y gwahoddiad i’ch annerch chi pan oeddwn i yn was i neb ac wrthi’n dirwyn Llwyfan Gogledd Cymru i ben wedi pedair blynedd, a phedair blynedd yn unig, o gynhyrchu.
Fues i’n cyfarwyddo yn y gogledd am bron i ddegawd. Dwi’n cofio ’nghyfaill Ed yn gofyn i mi toc wedi i mi gychwyn yn y North “Pam ddiawl o’t ti moyn gweithio yno?” Wel, atebais i ddim mohonot ti ar y pryd, Ed. Felly, ger dy fron di, a ger eich bron chi, yr Academi, fe hoffwn i esbonio fy rheswm dros ymgartrefi’n broffesiynol yn y gogledd a’r rhesymeg tu ôl i ’ngwaith yno gyda’r cwmnïau fues i ynghlwm â nhw yno.
Ar ddiwedd y nawdegau bu bron i Theatr Bara Caws ddiflannu i ebargofiant. Y consensws barn, o fewn Cyngor y Celfyddydau, oedd bod gwaith y cwmni yn is-safonol, a doedd gan y cwmni ddim gweledigaeth artistig. Fe geision nhw hysbysebu am rywun i lywio’r cwmni; rhyw ‘gydlynydd artistig’ - cydlynydd yn hytrach na chyfarwyddwr (oherwydd ethos cydweithredol y cwmni), ond ofer bu eu hymdrechion. O ganlyniad, fe roddwyd wltimatwm i’r cwmni gan Gyngor y Celfyddydau. Naill ai ei bod yn derbyn ‘rhywun o ddewis y Cyngor’ i’w llywio neu byddai’r cwmni yn colli ei grant. Cefais fy mharasiwtio i mewn i Bara Caws yn ôl ym 1998 - fath ag Alun Michael - i gynnig arweiniad a chreu ffocws. Duw a wyr beth oedd argraff y cwmni ohona i, hwntw llawn syniadau dinesig, ond fe dderbyniais i groeso gwresog ganddynt. Ga’ i ddiolch yn enwedig i’r diweddar Eurig Wyn am ei gefnogaeth hael.
Ond, er fy mod i wastad wedi bod yn ddiolchgar o’r cyfleodd dderbyniais i yn y gogledd, weithiau wy’n meddwl i mi fy hun, wnes i gam â’r theatr yng Nghymru trwy dderbyn yr apwyntiad. Efallai y dylwn i fod wedi gwrthod y cynnig a gadael i’r hen gi drengi. Buasai hynny wedi gwagio’r llwyfan er mwyn i ni ei hail osod ar gyfer act newydd yn y ddrama a elwir ‘Y Theatr Gymraeg’! Trwy farwolaeth Bara Caws buasai’r llinyn theatrig hwnnw a oedd yn ymestyn yn ôl i Gwmni Theatr Cymru yn cael ei dorri. Dyma yw’r continuum sydd wedi, ac sy’n dal i angori gwerthoedd y theatr bresennol at werthoedd yr oes a fu! Cwmni Theatr Cymru ddoe a Theatr Genedlaethol Cymru heddiw; y naill yn etifedd y llall, y naill yn cyfreithloni’r llall; fel petai Cymru heddiw a Chymru Fydd ’run fath a Chymru a fu!
Heb deyrngarwch i oes Wilbert, waeth pa mor anrhydeddus oedd hi, fe geisiais i wthio’r cwmni i gyfeiriadau newydd trwy dorri tir newydd, codi safonau cynhyrchu a chymryd y cwmni dramor gan ei orfodi i ddeialogi â diwylliannau eraill. Tristwch personol, wedi i mi adael, oedd gweld y cwmni yn llithro yn ôl i’w hen rigol. Ond, erbyn hynny roedd y creisis o ffydd yng ngwaith y cwmni drosodd, a chriw newydd yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn meddu ar agenda newydd. O ganlyniad, mae Bara Caws wedi cael rhwydd hynt i ffynnu yn ôl ei hen fympwy gan brofi nad un wennol a wna Wanwyn!
Ond, os ystyriwn gwestiwn Ed eto - Pam? Pam es i’r gogledd? Pan gychwynnais i gyda Bara Caws, yr hyn yr oeddwn i’n ymwybodol ohono oedd bwriad Cyngor Celfyddydau Cymru i greu Theatr Genedlaethol; un a oedd yn seiliedig ar fodel o uno Bara Caws a Chwmni Theatr Gwynedd fel man cychwyn. Doed gan Cwmni Theatr Gwynedd ddim arweiniad artistig ar y pryd, roedd gwagle i’w llenwi - roedd gen i ‘eye to the main chance’. Dyma oedd wrth wraidd fy mharodrwydd i ymgymryd â’r swydd gyda Bara Caws; i fod ynghlwm â chwmni eiconig Cymraeg mewn cyfnod o newid, a thrwy hynny weithio at fod yn rhan annatod o’r drafodaeth parthed y Theatr Genedlaethol arfaethedig. Ac felly Ed, f’ateb yn gryno, sawl blwyddyn wedi i ti ofyn y cwestiwn ‘Pam?’ yw, yn syml, ‘Pam lai?’
Roedd yna is-destun i ’ngwaith gyda Bara Caws, Cwmni Theatr Gwynedd ac ar ddiwedd fy nghyfnod yn y gogledd, gyda Llwyfan Gogledd Cymru. Roed f’ymdrechion naill ai yn weithred tuag at wireddu Theatr Genedlaethol neu yn adweithiad i realaeth y ddelfryd a drodd yn siomedigaeth i mi ac i lawer un.
Nawr, gwn gall gosodiad o’r fath fod yn ddadleuol am ei fod yn oddrychol! Ond, am fy mod bellach wedi camu mas o’r Theatr Gymraeg, hawliaf y rhyddid i siarad heb flewyn ar dafod ger eich bron chi heddiw mewn ysbryd os nad mewn corff! Er mai dim ond diddordeb lleyg sydd gen i bellach yn y maes, mae dal gen i ddaliadau cryf parthed gwerth a chryfder theatr ‘which can make one feel, for a second, that one is closer to the truth’ ys dywedodd Peter Brook, ond sydd gan amlaf yng Nghymru, yn gelwydd noeth!
I mi, mae Theatr Genedlaethol Cymru, neu’n hytrach Theatr Genedlaethol y Cymry – mae rhaid diffinio’n glir –wedi profi, hyd yn hyn, i fod yn gyfle coll – a purveyor of mis-truths! Disgwyliais wirionedd, safon a gweledigaeth gan y cwmni newydd – ofer bu fy nisgwyliadau i. Droeon fe’m siomwyd gan waith y cwmni, ac eto mae gen i ffydd yn natur elfennol y delfryd.
Yn ystod fy nghyfnod gyda Bara Caws, fe anerchais i mewn sawl cynhadledd ar bwysigrwydd sefydlu theatr genedlaethol a fyddai’n goron ar holl weithgaredd y theatr yng Nghymru; model integreiddiedig. Prin yw’r cyd-weithio a fu, ac sydd o hyd yn y theatr Gymraeg. Gan amlaf, theatr sy’n cael ei chreu gan unbennaeth sydd yn y wlad hon, does fawr ddim o ystyriaeth o’r greater good; fawr ddim o gyd-ddyheu.
Mae fy siom yn y cwmni sydd ohoni yn tarddu o’r ffaith ei fod yn barhad o’r hen drefn ynysig a phlwyfol. Mae yna gred ddofn ynof i, o bwrpas a rôl Theatr Genedlaethol mewn cenedl wâr; theatr sy’n llwyfannu gwirioneddau’r unigolyn mewn cymuned o gymunedau. Gwastraff unrhyw genedl yw cynnal cwmni cenedlaethol nad yw’n adlewyrchiad o ddyhead gwlad.
Cytunaf â’r Almaenwr, Schiller, pan ysgrifennodd ‘Does ’na ddim modd osgoi’r effaith sylweddol all theatr genedlaethol sefydlog o safon gael ar ysbryd cenedl.’ Yr allweddair yw safon. Yn anffodus, fel yr ysgrifennodd George Bernard Shaw ganrif yn ddiweddarach, ‘If Wales will not have the best Wales can produce, she will get the worst that the capitals of Europe can produce, and it will serve her right’.
Ychwanegodd yr Arglwydd de Walden– sefydlwr egin Theatr Genedlaethol ar gychwyn yr ugeinfed ganrif, ‘The nation should undertake a thorough process of self analysis and ultimately self-criticism that would enable it to grapple with the many contradictions with which its sense of identity is riddled.’ Hynny yw, roedd angen dybryd arnom ni fel cenedl i feithrin gwrthrycholdeb a gonestrwydd os oeddem ni am greu Theatr Genedlaethol o safon, o werth, ac o berthnasedd i’r genedl gyfan. Rhyw deimlo ydw i, bu nifer yn wrthrychol eu barn cyn i Theatr Genedlaethol y Cymry gael ei sefydlu. Ond, mae’n ymddangos i mi, mai prin oedd gwrthrycholdeb y criw dethol â’u siarsiwyd i sefydlu’r corff. Efallai, am ein bod ni dal heb ddiosg mantell Wilbert yn llwyr, a oedd modd disgwyl unrhyw beth gwahanol?
Wedi’r fait acccompli, bellach mae’n ddyletswydd arnom ni, gynulleidfa’r Gymru newydd, werthuso’r cwmni yn wrthrychol, a hynny’n gyson, am fod theatr unrhyw wlad yn fesur o iechyd cenedl. Rhaid i ni asesu gweledigaeth y cwmni a mesur ei gynnyrch yn ôl safonau’r gorau yn Ewrop. Rhaid i’r cwestiynau anodd fynnu atebion, mynnu gonestrwydd os y’n ni am osgoi’r ‘gwaetha all Ewrop gynnig’
Sylwadau un sydd bellach ar y tu fas, efallai? Efallai’n wir. Ond cynnig gonestrwydd yw fy mwriad i; cynnig gonestrwydd yn ôl gofynion de Walden, er mwyn ategu at y drafodaeth agored a gonest sydd angen ei chynnal yng Nghymru. Cytunaf mai goddrychol yw’n sylwadau, ond ymddiheura’ i ddim am hynny, ysgrifennu o’r galon ydw i; o’r man angerddol lle tardda theatr. Efallai fy mod i bellach ar y tu fas, ond mae nghalon i dal yn driw i’r theatr Gymraeg ac i barhad y ffurf ar gelfyddyd trwy gyfrwng iaith y nefoedd. Serch hynny, nid yr iaith yw pob dim i mi.
Fy mwriad i, o’r cychwyn, oedd cyfathrebu; creu cwmni a allai weithredu fel pont tu fewn a thu fas i Gymru. Nid cyd-ddigwyddiad oedd llwyfannu Branwen gyda Llwyfan Gogledd Cymru! Fy nyhead oedd cyfreithloni’r theatr Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol. Gwn fod Ed ac ambell i ddramodydd Cymreig wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn rhyngwladol, a da o beth yw hynny. Ond, roedd fy nghrwsâd arbennig i dros gyfreithloni’r profiad Cymraeg ei iaith; yr hyn sy’n gudd i’r di-Gymraeg a thramorwyr ill ddau. Fy nyhead oedd normaleiddio’n hiaith a’n diwylliant trwy ddiosg ei symbolaeth a’i gosod mewn cyd-destun ehangach; ei thrin hi fel iaith yn unig a thrwy hynny gychwyn deialog rhwng yr anweledig a’r anwybodol. Yn y bôn - cyfathrebu.
Ar ddiwedd y nawdegau, fe agorais i New South Wales, drama o’m heiddo i, yng Nghaeredin. Daeth y parchus adolygydd Owen Dudley Edwards i’w adolygu. Hen ffrind i mi oedd Owen ac felly wedi i’w adolygiad hael ond cytbwys - mond tair seren - ymddangos yn y Scotsman, fe es i i’w weld er mwyn trafod ei feirniadaeth.
‘You see’ medde fi wrtho fe ‘ I don’t believe that man can truly communicate with man. Man is an island, Blake lied! We merely sign through the walls. I have tried to portray this through my direction of the play’ Wedi eiliadau o ddistawrwydd, drodd ata i ‘What is the purpose of theatre, dear boy?’ ‘To communicate’ medde fi. ‘ Exactly. If you do not believe in the ability of man to communicate with man, do not corrupt the stage with your autism’. Mewn eiliad o ddealltwriaeth sylweddolais y cam gwag wnes i â’r ddrama. Wedi ychydig o ail-gyfarwyddo, fe aeth hi ymlaen i dderbyn pum seren yn Nulyn a theithio’n llwyddiannus! Mae geiriau Owen Dudley Edwards wedi atseinio gyda mi byth ers hynny. Os nad yw theatr yn cyfathrebu, yna does dim gwerth iddi.
Ond dim ond hanner y gamp yw cyfathrebu / diddanu. Mae sioeau clybiau Bara Caws er enghraifft yn cyfathrebu, maen nhw’n boblogaidd, ond at ba bwrpas? Heb neges i’w cyfathrebu, heb yr angen ysol i drafod y stad ddynol, mae’r un man aros yn fud! Gwirionedd ‘coals to Newcastle’ efallai yw datgan hynny ger bron yr Academi, maddeuwch i mi. Ond yng nghyd-destun y theatr Gymraeg, nid yw hi mor ‘coals to Newcastle’ â hynny! Beth yw pwrpas y Theatr Gymraeg a’i chynnyrch yn yr oes sydd ohoni? Pwy sydd wir yn trafod hyn? Ym mhle mae’r weledigaeth theatrig sy’n gosod theatr ym man canol enaid y genedl - y man priodol lle ddylai fod?
Y cwestiwn mawr i mi yw, sut all y Theatr Gymraeg lywio cwrs cenedl yn ôl canllawiau Schiller; cenedl sy’n ddrwgdybus o werth theatr broffesiynol ac sydd bellach wedi israddio’r ddrama yn y Brifwyl oherwydd diffyg safon cyson - pryd welwyd drama’r fedal aur wedi ei llwyfannu diwethaf?
Sbaddu gallu theatr i lywio cwrs cenedl yw cyflwyno sioeau lleddfol sydd wedi anelu at y gynulleidfa draddodiadol am mai nhw yw’r gynulleidfa craidd. Ym mhle mae’r her yn hynny? Gwn fod bums on seats yn galluogi i unrhyw gwmni a Chyngor Celfyddydau Cymru ticio’u blychau ac felly sicrhau cefnogaeth philistinaidd y Cynulliad. Ond, at ba bwrpas theatr felly? Ysgogi, cyffroi, anesmwytho yw hud a lledrith y theatr nid mwytho rhagfarnau’r dall a’r byddar!
Nawr, er i mi ladd ar Fara Caws. Fe ddysgais gryn dipyn am natur y gymuned a’r gynulleidfa Gymraeg tra bues i yn rhan o’r cwmni hwnnw. ‘Mae Cymru yn gymuned o gymunedau’ ysgrifennais yn ystod y cyfnod, ‘dyma yw ei chryfder a hefyd ei gwendid’. Yr hyn a’n synnodd i mi, ar gychwyn f’ymrwymiad i’r gogledd, oedd amharodrwydd y cymunedau tu fas i ambell i dref neu’r ddinas i dderbyn unrhyw her yn eu theatr. Yn sgil profiad helaeth, mae’n ymddangos i mi fod yna uchafswm o ryw 100 o bobl ymhob ganolfan sydd am fentro i weld dramâu heriol - dramâu sy’n gofyn cwestiynau o’r gynulleidfa. Allwch chi ddyblu’r nifer hwnnw ar gyfer dramâu goddefol sy’n gofyn dim ac mae’n amlwg ei threblu ar gyfer budred ar lwyfan sy’n gofyn i chi adael eich brên mewn bwced cyn i chi fynychu’r sioe!
Er i mi ymrwymo i’r gogledd, un o’r de ydw i; Dai bach o’r cwm glo efallai, ond un sydd wastad wedi meddu ar chwaeth theatrig dinesig - bourgeois os mynnoch chi. Am gyffesiad i’w wneud ger bron diwylliant sy’n eilun addoli’r werin bobl / ein ‘hogiau ni’! Ond dydw i ddim am ymddiheuro amdano. Bourgeois bu fy nyheadau theatrig erioed. Bourgeois yw’r cant hynny o gynulleidfa sy’n mentro i weld sioeau heriol ym mha bynnag ganolfan, Bourgeois yw pob cynulleidfa sydd yn chwilio am gwestiynau yn ei theatr! Y bourgeoisie sy’n cynnal y gwagle hwnnw yn y theatr sy’n fforwm drafod unrhyw genedl wâr!
Gwn fy mod yn cyffredinoli braidd, ac fe allwch chi fy nghyhuddo o fod yn ‘classist’ - ond dydw i ddim - mater o semanteg yw hyn! Y ffaith yw, y bourgeoisie yw’r to hwnnw (boed yn hanesyddol neu’n gyfredol) yng nghymunedau’r byd, sydd wedi, ac sydd yn meddu ar yr arian, yr amser a’r hawl i feddwl - er pwysleisiaf, nid yw’r gallu i feddwl yn ecsgliwsif i’r dosbarth hwnnw, mond bod eu moethusrwydd yn caniatáu mwy o amser iddyn nhw wneud hynny!
O ganlyniad, ar gyfer y bourgeoisie delfrydoledig / idealized yr oeddwn i am anelu fy ngwaith; gosod cwestiynau ger eu bron; cwestiynau am natur y byd a Chymru sydd ohoni, cwestiynau anghyfforddus am ein hunaniaeth a’n dynoliaeth. Doedd gen i ddim atebion, hubris o’r radd hyllaf oedd meddu ar rheiny. Cynnig cwestiynau yn unig oedd fy mwriad gan ddisgwyl i’r gynulleidfa fy ngoleuo i.
Er mai at y cant hwnnw yr oeddwn i am anelu fy ngwaith, y pleser mwyaf oedd gweld sioe yn tyfu nes ei bod yn denu cynulleidfa sylweddol mwy na’r cant arferol. Nes bod y ‘werin’ os mynnwch chi, yn mynychu ac yn mwynhau theatr ‘anodd’ a’i thrafod hi wedi’r perfformiad fel tase theatr, am unwaith yn galon eu bywydau! Yn ideolegol, byswn i wrth fy modd petai Cymru gyfan yn bourgeois yn ôl ei chwaeth theatrig, a theatr ei hun yn fforwm drafod y genedl, yn hytrach na bod yn ddatganiad o ‘Da ni yma o hyd!’ - mond bod hi’n Gymraeg! Nid theatr yw theatr o’r fath; defod y llwfr yw hynny!
Law yn llaw â ’ngwaith yng Nghymru, fe gychwynnais i deithio’r gwaith tramor; i’r Iwerddon, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd er mwyn gosod ein profiad cynhenid Cymreig mewn cyd-destun ehangach; gosod ein diwylliant cymunedol ni yng ngwead cymunedau Ewrop. Er bod ein breuddwydion a’n dyheadau ni yng Nghymru yn gyffredin i bobloedd bedwar ban y byd, yn hanesyddol, oherwydd natur y ‘Gymraeg’, dyw’n mynegiannau diwylliannol ddim wedi bod yn weledol tu fas i Gymru. Gwaeth fyth, maent wedi tueddu aros o fewn ffiniau’r filltir sgwâr, dwi ddim hyd yn oed yn sôn o fewn ffiniau’n gwlad, ond o fewn y fro Gymraeg! Prin bu’r ddeialog rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg erioed; prinnach fyth ’da phobl tu hwn i’r clawdd. Ddeallaf mai caer yw’r iaith, amddiffyniad rhag gorthrwm hanesyddol. Deallaf yr hanes sydd wedi amddifadu’r gynulleidfa ddi-Gymraeg o ambell i athrylith, ond os ydym am feddiannu’r dyfodol, efallai y dylen ni ail feddwl holl bwrpas y Gymraeg.
Ai iaith ynteu arf yw hi? Pan fo ambell i fardd yn gwrthod cynnal cyfweliadau yn Saesneg yn ystod y Brifwyl neu ein nofelwyr yn caniatáu cyfieithiadau o’u gwaith i unrhyw iaith ‘heblaw am yr iaith fain’, arf ydy hi. Ond arf at ba bwrpas - i ladd ar ein hunain ac i ladd ein hunain? Onid ein gwir arfau yw’n gweledigaeth a’n dynoliaeth, nid yr iaith ei hun sydd ond yn gerbyd i’n dyheadau a’n breuddwydion?
Os mai arf yn unig yw’r Gymraeg, nid yw fawr gwell na drama sydd wedi ei chyfarwyddo’n wael er mwyn profi pwynt na ddylai iaith ei hun orfod ei brofi. Pwrpas iaith yw cyfathrebu nid ynysu. Mae yna angen dybryd yn y byd sydd ohoni i ni estyn allan er mwyn cyfreithloni’r Gymraeg yng Nghymru a Chymru tramor; i normaleiddio’r profiad Cymreig yn ddomestig ac ar lwyfan rhyngwladol… normaleiddio… mae normaleiddio yn derm oll bwysig. Unwaith i rywbeth normaleiddio / gwreiddio mae’n rhan annatod. Trwy osod y Gymraeg yn anffurfiol ochr yn ochr ag ieithoedd eraill mewn dramâu megis Ta ra Teresa (Aled Jones Williams), Frongoch a Branwen (Ifor ap Glyn) heb ymddiheuro am symbolaeth hynny, sylweddolais fod modd rhoi gwerth hafal iddi. Dyma hefyd oedd ymateb y Gwyddelod fues i’n cyd-weithio â hwy ar Frongoch a Branwen. Pan welsant eu hiaith hwythau wedi ei gosod ochr yn ochr ag ieithoedd eraill, fel iaith yn unig, heb lestair ei symbolaeth hanesyddol, teimladau o ryddhad a hyder oedd eu teimladau hwy. Roedd gweld degau o bobl ddi-Gymraeg a thramorwyr yn heidio i weld Branwen neu Frongoch yn wefreiddiol - nid yn unig i mi, ond i’r actorion. Roedd y ddrama Gymraeg, am unwaith, yn cyfathrebu, a’r gwneuthurwyr Cymraeg yn teimlo, yn haeddiannol, eu bod nhw ar lwyfan rhyngwladol o’r diwedd; yn cyfathrebu ’da phobl heblaw am Mrs Jones, Llanrug!
O ystyried hyn, tristwch parhaol i mi oedd yr hen Sgript Cymru. Mae gen i obeithion mawr am y cwmni newydd yn y Sherman, ond roedd yr hen Sgript Cymru, yn gyfle coll arall - mae’n ymddangos ein bod yn ymffrostio mewn cyfleoedd coll yng Nghymru! Cwmni dwyieithog oedd Sgript Cymru, un a oedd wedi sefydlu i hyrwyddo dramâu newydd yn y ddwy iaith. Ac, a bod yn dechnegol gywir, dyna a wnaethpwyd, hyrwyddwyd y ddrama yn y ddwy iaith yng Nghymru; dramâu Cymraeg ar y naill law a dramâu Saesneg ar y llall. Ond welais i mo’r un arbrawf amlieithog wnaeth estyn ar draws y gagendor ieithyddol a diwylliannol; y gagendor a orweddai o fewn y cwmni ac sydd yma yn ein gwlad ni. Oedd, mi oedd yna is-deitlo, ond beth yw hynny heblaw am flwch i’w dicio! Gwlad amlieithog yw’r Gymru fodern, allen ni ddim fforddio i sectoreiddio mwyach; i gadw ieithoedd ar wahân yn eu ghettos. Un theatr yw’r theatr Gymreig - a’r theatr Saesneg ei hiaith a’r theatr Gymraeg ei hiaith yn rhannau ohoni!
Bellach, wedi sefydlu Theatr Genedlaethol y Cymry, mae’r Cyngor Celfyddydau dan bwysau i sefydlu National Theatre. Mae’r siwr eich bod chi’n ymwybodol fod y cyllid i asesu hyfywedd cwmni o’r fath wedi ei neilltuo, a’r papur drafft wedi ei lunio gan aelod dylanwadol o fewn y Cyngor. Ymhen dim fydd The National Theatre of Wales, neu’r Welsh National Theatre, beth bynnag fydd yr enw, yn endid. Pa effaith gaiff hwn ar y theatr Gymraeg tybed?
Gadewch i mi fod yn sinigaidd am eiliad, a gofyn ambell i gwestiwn anodd / angenrheidiol. Pa reswm, allen ni grybwyll, oedd wrth wraidd sefydlu Theatr Genedlaethol? A pha fantais oedd gwneud hynny cyn sefydlu National Theatre? I mi mae’r ateb i’w ddarganfod yn y rheswm dros sefydlu S4C gynt. I’n cadw’n fud, i’n ghettoeiddio, i gael gwared ohonom ni. Yn y pen draw, rhagwelaf gyllid sylweddol fwy yn mynd i’r National Theatre a gwaith o safon yn tarddu ohoni - safon - un o gonglfeini Schiller! Beth ddigwyddith pan fo safon gwaith un iaith yn tanlinellu diffyg safon gwaith mewn iaith arall? Mi all ddigwydd y ddwy ffordd wrth gwrs. Ond, yn sgil tystiolaeth y blynyddoedd diwethaf, siawns mai one way traffic fydd hi!
Caiff y cwmni arfaethedig Saesneg ei iaith bresenoldeb rhyngwladol, yn bennaf am ei fod yn Saesneg ei iaith. Gall unrhyw gwmni o’r fath ddenu o bwll ehangach o dalent a denu gwneuthurwyr o dramor i gyd-weithio gyda’r cwmni er mwyn ei chyfoethogi / ei chyfreithloni. Does gan y theatr Gymraeg mo’r gallu hyn. Ond, fel i mi ddweud ynghynt, gall Cymru’r unfed ganrif ar hugain ddim fforddio i ghettoeiddio’n ieithyddol na’n ddiwylliannol mwyach; Fortress Gwynedd ar y naill law a’r People’s Republic of Merthyr ar y llall - gyda’r City State Caerdydd yn endid yn ei hawl ei hun! Un genedl ydyn ni, law yn llaw awn ni tua’r dyfodol nid ar wahân. A ydym ni’n fodlon ar theatr dau drac; y tywysog a’r cardotyn? Tybiaf na. O ganlyniad, fe hoffwn i gynnig rhywbeth i chi gnoi cil drosto; rhyw after dinner mint meddyliol ar gyfer eich teithiau am adref.
Yn y papur am natur bosib a National Theatre of Wales a luniwyd gan aelod blaenllaw Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’n debyg roedd yna frawddeg a oedd yn gynwysedig yn un o’r drafftiau gwreiddiol; gosodiad sy’n ddifyr i’w ystyried. ‘One could forsee the conjoining of the two National Theatres by 2012’ (gwn i mi aralleirio yma). Nawr, yn ôl y dyn a luniodd y ddogfen honno, aeth ambell aelod o Theatr Genedlaethol y Cymry yn gandryll pan ddarllenon nhw’r frawddeg dan sylw. Wedi sefydlu eu maenoriaeth, ei fiefdom bach cyffyrddus, pwy all feio eu hysfa i amddiffyn ei Utopia Cymraeg - i guddio, unwaith yn rhagor, tu ôl i gaer yr iaith? Pwy all eu beio? Wel, fe hoffwn i!
Mae wythdeg y cant o Gymru yn ddi-Gymraeg. Mae’r Saesneg yn iaith ryngwladol, wleidyddol, ddylanwadol a hyn a hyn o arian fydd ar gael ar gyfer y theatr yng Nghymru. Beth all flaenoriaethau ariannu’r ddarpariaeth theatrig fod yn y dyfodol? Ai creu theatr o safon ar gyfer trwch y genedl gan normaleiddio eu profiad hwythau ar lwyfan rhyngwladol heb lestair ieithyddol? Sef ategiad at gyfreithloni Cymru’n rhyngwladol trwy ei fynegiannau diwylliannol (yn ôl modelau Quebec a Chatalyna). Ynteu ariannu profiad y lleiafrif sydd ond yn cyfathrebu gyda chanran o’r boblogaeth ac sydd, yn hanesyddol, yn gyndyn i adeiladu pontydd rhwng unrhyw garfan ddi-Gymraeg arall?
Rhagwelaf gall y theatr Gymraeg wywo yn yr unfed ganrif ar hugain ar sail y diffyg gweledigaeth bresennol. The poor aunt we don’t mention fydd hi oni bai ei bod yn codi ei safonau ac yn mynnu bod yn rhan o’r brif ffrwd. Os mai diwedd y gân yw’r geiniog ac uno’r darpariaethau fydd pen draw’r daith (yn ôl gweledigaeth Cyngor Celfyddydau Cymru), pa fantais sydd yna i aros ar y tu fas hyd nes i’r sefydliad eich amsugno maes o law? Os mai dyna yw’r agenda, onid yw hi’n ddoeth i ddylanwadu arni nawr ac i fynnu’r gorau er lles y ddarpariaeth theatr Cymraeg a Chymreig ill dwy? Hawlio’r gwagle er lles y ddarpariaeth a’r genedl.
Theatr o safon yw’r flaenoriaeth ym mha bynnag iaith. A ydym ni, yn fodlon ar safonau is yn y theatr Gymraeg er lles amddiffyn yr iaith? Petai’r corff theatr genedlaethol arfaethedig yn gorff sy’n hyrwyddo cynyrchiadau ym mha bynnag iaith (yn seiliedig ar fodel Albanaidd - corff comisiynu yn hytrach na chorff cynhyrchu), safon yn unig fyddai llinyn mesur hyrwyddo ac ariannu cynyrchiadau. Base rhaid i’r theatr Gymraeg godi ei gêm os oedd am gael ei ariannu. A fyddai hynny’n ddrwg o beth? Llai o gynnyrch ond gwell safon?
Wrth gwrs, buasai rhaid i unrhyw gorff o’r fath fod yn gorff amlieithog gydag ymrwymiad statudol i’r Gymraeg. Yn ogystal, byddai rhaid iddo weithredu strategaeth integreiddiedig ar gyfer holl ddarpariaethau theatrig Cymru gan osod safon a chyfathrebu wrth wraidd ei bolisi; un llais, sawl iaith.
Breuddwyd ffwl yw gobeithio am gwmni goleuedig o’r fath; un wnaiff fod yn llais i’r genedl gyfan. Ond, pan ofynnwyd i James Dean ‘Are you bisexual?’ ei ateb e oedd, ‘Why go through life with one arm tied behind your back?’Hynny ydy, os oes ganddoch chi dwy law neu dwy iaith, defnyddiwch nhw! Yn fy nhyb i, ni all Cymru fforddio i wynebu’r dyfodol gydag un llaw wedi ei chlymu tu ôl i’w chefn? O ganlyniad, cynigaf hypothetical ger eich bron, fodd i wireddu’r freuddwyd.
Petai Theatr Genedlaethol y Cymry yn meddu ar weledigaeth, cynigaf y gall fentro ar gwrs chwyldroadol; yn gelfyddydol ac yn gymdeithasol. Petai bwrdd Theatr Genedlaethol y Cymry yn pleidleisio i wrthod ei filiwn y flwyddyn, a mynnu bod yr arian a glustnodwyd ar gyfer y theatr Gymraeg, yn rhan annatod o ddarpariaeth integreiddiedig y theatr genedlaethol arfaethedig, gallai hynny sicrhau dyfodol hafal i’r mynegiant Cymraeg ochr yn ochr â’r mynegiant Saesneg. Mae’n rhy hawdd i ynysu’r Gymraeg, mae’r gyfundrefn yn hen law ar wneud hynny. Mewn undod mae nerth - cyd ddyheu a’i cododd hi!
Prysur farw mae Mrs Jones Llanrug a’i chyfoedion. Nid yw’r dyfodol yn eiddo iddynt hwy. Mae’r hen do yn haeddu ein parch ond yr ifanc piau’r dyfodol ac mae ganddyn nhw werthoedd gwahanol; disgwyliadau newydd o’i theatr.
Maent yn hyderus o’u hunaniaeth, yn estyn allan ac yn mynnu bod yn rhan o’r gymuned ehangach. Mae’r ysfa ynddynt i bontio a chyfathrebu. Cymru’r ifanc eu hysbryd yw Cymru heddiw ac fe ddylai theatr adlewyrchu hwnnw. Dyma yw rôl y theatr, i fod yn ddrych i’w chynulleidfa, i fod yn llwyfan i’w huchelgais; i gynnig llais i’w gobeithion, i fynnu byd gwell. Ysgrifennodd Alun Lewis ‘The world is much larger than just England, isn’t it? I’ll never be just English or Welsh again.’ Am yn rhy hir, mae’r byd wedi bod yn ddu a gwyn i’r Cymry. Mae’n hen bryd i’r genedl weld y sbectrwm cyfan; un theatr, sawl llais; un llais, sawl iaith...
A bod yn onest, dwi ddim yn disgwyl am eiliad i’r Theatr Gymraeg fentro ar gwrs beiddgar felly. Tra bod Mrs Jones a’i chriw yn bleidiol i’r hen ffordd Gymraeg a Chymreig o fyw, gwywo yn y wings wnaiff y theatr Gymraeg tra bydd y Theatr Gymreig yn hedfan!
Tristwch o’r radd flaenaf yw ystyried hyn, yn enwedig ar ôl i mi dreulio blynyddoedd hir yn estyn allan; gan geisio gofyn y cwestiynau anodd. Dydw i ddim yn weledydd, dim ond rhywun sydd ar dân; rhywun sydd yn anfodlon i Gymru gael ‘the worst that the capitals of Europe can produce’. Dwi am iddi gael y gorau; theatr gyhyrog, gyffrous, rywiog sy’n galon ac enaid i’r wlad.
Teithiais am y gogledd ddeng mlynedd yn ôl llawn gobeithion ar gyfer y theatr yr oeddwn i am greu, am y posibiliadau. Er fy mod bellach wedi gadael am adre ac am gyfrwng arall, dwi’n dal i gredu ym mhwer elfennol theatr; ei gallu i lywio a siapio cenedl mewn cyfnod allweddol yn hanes gwlad.
Breuddwydiaf am theatr o safon yng Nghymru; theatr sydd o berthnasedd i’r genedl gyfan ac i’r byd tu hwnt i ffiniau’n rhagfarnau hanesyddol; y culni hwnnw sy’n llesteirio datblygiad, nid yn unig y ffurf ar gelf, ond ein cenedl ni. Efallai mai aelod o’r gynulleidfa fydda i o hyn allan, ond fydda i’n dal i gwestiynu hyd nes iddi fod yn amser i mi gamu, gan obeithio unwaith yn rhagor, yn ôl ar lwyfan y theatr yng Nghymru.
Diolch am wrando.
Ian Rowlands
Medi 2007


