Cystadlaethau llenyddol eraill

CYSTADLEUAETH STORI FER 2011
Cymdeithas Ddathlu Allen Raine

Dyma bedwaredd flwyddyn y gystadleuaeth stori fer a sefydlwyd gan Gymdeithas Ddathlu Allen Raine yn 2008.

Ffurfiwyd Cymdeithas Ddathlu Allen Raine i gofio bywyd a gwaith yr awdures o Gastell Newydd Emlyn, Anne Adaliza Evans, a anwyd ym 1836. Daeth yn enwog am werthiant byd-eang ei llyfrau poblogaidd cyn ei marwolaeth ym 1908. Dadorchuddiwyd cofeb iddi ar fur Bank House, Castell Newydd Emlyn ym mis Mai llynedd ac mae'r Gymdeithas wedi adfer ei bedd ym mynwent Eglwys Mihangel Sant, Penbryn.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb. Rhaid i bob cais gyrraedd y gweinyddydd erbyn dydd Gwener, 12 Awst 2011. Cyhoeddir enwau'r ennillwyr yng Ngŵyl Lyfrau Penfro, i'w gynnal yn Rhodygilwen ger Aberteifi ar ddydd Sul, Medi 18 2011.

"Mae'r dair gystadleuaeth flaenorol wedi bod yn llwyddiannus iawn," meddai gweinyddydd y gystadleuaeth, David Heal, "a gobeithiwn bydd nifer y cystadleuwyr yn dal i gynyddu."

 

Manylion cystadlu:

• Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb. Rhaid i bob stori fod yn wreiddiol a heb ei chyhoeddi. Gall y stori fod ar unrhyw bwnc neu mewn unrhyw genre ond rhaid i’w gosod yng Nghymru.

• Gellir ysgrifennu yn Gymraeg neu yn Saesneg: dylai pob stori fod rhwng tua 1,000 o leiaf ac nid mwy na 7,500 o eiriau. Gofynnir i bob llawysgrif gael ei theipio mewn ffont sydd yn hawdd i’w darllen a sydd dim llai na maint 12.

• Dylai’r llawysgrif ddangos ffugenw yr awdur yn unig.

• Rhoddir gwobr gyntaf o £200 am y stori orau yn Gymraeg a chasgliad o lyfrau Gwasg Gomer i’r ail.

• Codir tâl o £5 am bob cais: £2 i fyfyrwyr a rhai di-gyflog. Disgwylir i ysgolion gydlynnu eu ceisiadau a thalu drwy siec, yn daliadwy i ARCS ( Cymdeithas Ddathlu Allen Raine.)

• Dylid anfon pob cais gyda siec neu archeb post a ffurflen gystadlu wedi ei arwyddo gan yr awdur. Ysgrifennwch enw yr awdur, teitl y stori a manylion cyswllt mewn amlen wedi ei gau a nodwch y ffugenw a teitl y stori ar y tuallan.

• Eiddo yr awdur bydd hawlfraint y stori ond fe fydd gan y Gymdeithas yr hawl i gyhoeddi unrhyw stori neu ran o storiau er mwyn hyrwyddo y Gymdeithas a’r gystadleuaeth.

• Dylid ysgrifennu “ Cystadleuaeth Stori Fer ARCS” ar bob cais a’i hanfon at: David Heal, Gweinyddydd y Gystadleuaeth, College, Tanglwst, Castell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin SA38 9NJ erbyn dydd Gwener, Awst 12ed. 2011 ar yr hwyraf.

• Ni fydd unrhyw ohebiaeth oddiwrth y beirniaid na’r trefnwyr ynglyn a’r gystadleuaeth.

• Cyhoeddir enwau’r ennillwyr yng Ngŵyl Lyfrau PENfro Rhosygilwen ar ddydd Sul, Medi 18ed., pan wahoddir ennillwyr i dderbyn eu gwobrau.

• NODDIR Y GYSTADLEUAETH HON GAN WASG PARTHIAN A GWASG GOMER