Cyrsiau
Cyrsiau Tŷ Newydd 2013
.jpg)
I weld rhestr lawn o gyrsiau Saesneg Tŷ Newydd 2013 cliciwch yma.
4-9 Mawrth: Cwrs 10 Mewn Bws. Cwrs arbennig sy’n rhan o brosiect estynedig TRAC Cymru.
9 Mawrth: Hanes Bro a Bywyd gyda John Davies a Jon Gower
14-16 Mawrth: Cwrs arbennig i bobl o Wynedd sy’n ddi-waith ar hyn o bryd
Bethan Gwanas (tiwtor Cymraeg), Paul Henry (tiwtor Saesneg). Cwrs dwyieithog. AM DDIM!
12-14 Ebrill: Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Ysgrifennu Therapiwtig** gyda Trish Bartley a Jill Teague WEDI LLENWI
11-19 Mai: Gŵyl Wil Sam. Gŵyl wythnos o hyd i ddathlu bywyd a gwaith y diweddar W.S. Jones.
24-26 Mai: Ysgrifennu Creadigol a Dementia ** gyda Karen Hayes a John Killick
18 Mehefin: 'Rhof donc ar fy nhelyn' - noson yng nghwmni Arfon Gwilym a Sioned Webb
13 Gorffennaf: Magu Hyder gyda Ceri Wyn Jones
1-3 Tachwedd: Cwrs i Enillwyr yr Urdd gyda Bethan Gwanas ac Ifor ap Glyn
9-10 Tachwedd: Magu Hyder (Preswyl) gyda Ceri Wyn Jones (+ Gwestai arbennig)
16 Tachwedd: Ysgrifennu i Blant gydag Angharad Tomos
22-24 Tachwedd: Gŵyl Gynganeddu 2013. Gweithdai, darlithoedd, adloniant a llu o sesiynau difyr yng nghwmni rhai o feirdd blaenllaw Cymru.
25-30 Tachwedd: Ysgrifennu Mewn Iechyd a Gofal ** gyda Victoria Field a Graham Hartill
Bydd rhagor o gyrsiau undydd Cymraeg yn cael eu trefnu fel yr â’r flwyddyn yn ei blaen, felly cadwch lygaid barcud ar y dudalen hon.
** Cyrsiau Ysgrifennu Creadigol Mewn Iechyd a Gofal
Er bod y cyrsiau hyn yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg, rydym yn awyddus i ragor o Gymry Cymraeg fynychu’r cyrsiau fel ein bod yn medru datblygu’r maes trwy gyfrwng y Gymraeg. Y gobaith yw y gallwn gynnig cyrsiau o’r fath yn y Gymraeg yn y dyfodol.


