Cymynroddion

Mae pob un o brif elusennau Prydain yn dibynnu'n drwm ar roddion elusennol a chymynroddion gan eu cefnogwyr. Gall y rhain fod yn gyfraniadau cymharol fychan i waith cyffredinol y sefydliad neu'n rhoddion ariannol sylweddol fel bod modd anrhydeddu'r rhoddwr yn barhaol fel un o brif gefnogwyr yr elusen.

Mae gadael rhodd i'r Academi yn eich ewyllys yn ffordd bwerus o helpu i sicrhau bod hyrwyddo llenyddiaeth Cymru yn parhau. Bydd rhoddion yn helpu'r Academi i ddiogelu ei rhaglen o ddarlleniadau a darlithoedd, cynadleddau, ysgolion undydd a chiniawau llenyddol ynghyd â’r Sgwadiau Sgwennu i'r Ifanc a fydd yn cynhyrchu llenorion Cymru yn y dyfodol.

Os nad ydych hyd yma wedi gwneud ewyllys, yna bydd cyfreithiwr [neu eich banc] yn eich helpu i wneud y trefniadau angenrheidiol. Os ydych eisoes wedi gwneud eich trefniadau ar gyfer y dyfodol, yna gellir cynnwys yr Academi naill ai fel ychwanegiad [codisil] neu fel rhan o unrhyw ddiwygio cyffredinol a wnewch o bryd i'w gilydd.

Os ydych yn dymuno cynnwys yr Academi yn eich ewyllys, mae dwy ffordd yn fras o wneud hynny:

• Neilltuo swm penodol tuag at waith yr Academi – [cymynrodd ariannol]
• Neilltuo canran o'ch darpariaeth i'r Academi – [cymynrodd weddillol]

Os teimlwch eich bod mewn sefyllfa i neilltuo cymynrodd sylweddol i'r Academi, efallai yr hoffech ein ffonio i drefnu trafodaeth gyfrinachol ynghylch sut yr hoffech i'ch cyfraniad gael ei neilltuo. Mae'n bosibl y gellid cynnwys eich enw ochr yn ochr â rhan reolaidd o raglen waith yr Academi. Mae enwau ffigurau blaenllaw fel Glyn Jones, John Tripp, Rhys Davies a Gwyn Jones eisoes wedi eu cynnwys yn barhaol yn ein rhaglenni gwaith blynyddol.

Mae'r rhain yn faterion sensitif wrth natur. Byddem wrth ein bodd i glywed gennych os penderfynwch gefnogi'r Academi yn y ffordd hon, ond gwyddom ei bod yn well gan lawer o bobl gadw eu cynlluniau yn gyfrinachol.

Os hoffech drafod unrhyw rai o'r syniadau a nodir yma yn gyfrinachol, cysylltwch os gwelwch yn dda â Phrif Weithredwr yr Academi, Peter Finch a fydd yn trefnu i'ch cynlluniau gael eu trafod yn ddi-oed.

Cysylltwch â'r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org