Cyhoeddiadau
|
|
|
Ar hyn o bryd mae'r Academi Gymreig yn cyhoeddi’r cylchgrawn llenyddol Taliesin.
Cyhoeddodd yr Academi Gymreig, a'r Academi amryw o gyfieithiadau a gweithiau llenyddol gwreiddiol yn y Gymraeg. Defnyddiodd yr Academi Wasg Prifysgol Cymru i gyhoeddi’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a Geiriadur yr Academi. Trwy gyfrwng Gwasg Prifysgol Rhydychen cyhoeddwyd The Oxford Companion to the Literature of Wales. Mae fersiwn diwygiedig o’r gwaith pwysig hwn ar gael bellach gan Wasg Prifysgol Cymru, cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg yn 1997 a'r fersiwn diwygiedig Saesneg yn 1998. Bu'r Academi yn cydweithio gyda’r BBC a Gwasg Prifysgol Cymru ar gynllun Gwyddoniadur Cymru/The Encyclopaedia of Wales. Cyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru / The Encyclopaedia of Wales yn 2008.




