Canolfan Mileniwm Cymru

Llenyddiaeth Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
 
Mae Llenyddiaeth Cymru yn un ymhlith nifer o gymdeithasau a sefydliadau celfyddydol sydd iddynt gartref parhaol yn y ganolfan newydd, Canolfan Mileniwm Cymru, ym Mae Caerdydd. Ynghyd â’r Cwmni Opera Cenedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Cwmni Dawns Diversions, Ty Cerdd / Canolfan Wybodaeth Cerddoriaeth Amatur yng Nghymru, Cwmni Theatr Hijinx ac Ymddiriedolaeth Touch, cartref Llenyddiaeth Cymru yw’r adeilad trawiadol hwn gan Bartneriaeth Percy Thomas, y drws nesaf i adeilad newydd y Cynulliad, a fydd yn codi ben ac ysgwydd uwch adeiladau eraill glannau Bae Caerdydd.

Mae’r adeilad yn dod â delweddau o dirwedd Cymru i’r meddwl, ac o draddodiadau diwydiannol a diwylliannol ein gwlad. Fe’i hadeiladwyd o ddeunyddiau Cymreig gan gynnwys clytiau llechi wedi’u hailgylchu o chwareli Gogledd Cymru; dur arbennig o Went, a phren caled cynhenid o Ganolbarth Cymru. Mae’r adeilad yn adlewyrchu haenau creigiau Arfordir Treftadaeth Morgannwg ac mae’r colofnau sy’n cynnal yr orielau y tu mewn ar ffurf y coedredyn a ffynnai yn yr ardal gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl ac sydd bellach i’w gweld ar ffurf ffosilau yn y gwythiennau glo.

Mae’r gerddi pen to yn cyfleu coedydd a gweirydd arfordir digysgod Ceredigion. Bu Adran Gwydr Pensaernïol Athrofa Abertawe yn gweithio gyda dylunwyr i osod ’agennau’ o wydr ym muriau llechfaen y Ganolfan.



Un o nodweddion amlycaf yr adeilad yw’r arysgrif enfawr dros y brif fynedfa – adlais o un o arferion pensaernïaeth Rufeinig yng Nghymru gynt. Naddwyd yr arysgrif hon yn syth trwy furiau’r theatr. Llanwyd pob llythyren â gwydr clir, gan alluogi’r bobl ar y tu mewn i weld allan a chaniatáu i oleuni o’r theatr ffrydio allan i’r cwrt o flaen y Ganolfan. Yr Academi oedd â’r cyfrifoldeb o ddewis y geiriau, a lansiwyd cystadleuaeth i ddod o hyd i’r arysgrif. Datblygodd Gwyneth Lewis y syniad buddugol a’r geiriau a ddewiswyd yw: CREU GWIR FEL GWYDR O FFWRNAIS AWEN / IN THESE STONES HORIZONS SING.



Y tu mewn, mae gan Ganolfan Mileniwm Cymru fannau pwrpasol ar gyfer theatr, opera, arddangos a pherfformio ynghyd ag amryw o fariau, bwytai a mannau cyfarfod. Yn ogystal â pherfformiadau llenyddol mae’r Ganolfan yn cyflwyno sioeau cerdd o’r West End, operâu rhyngwladol, dawns a gweithgareddau ieuenctid yn ogystal â bod yn ganolfan ar gyfer addysg ac ymchwil i’r celfyddydau.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn brosiect £92m sydd wedi creu gwaith ar gyfer dros 350 o bobl - gan gynnwys 250 o swyddi newydd. Dechrewyd y gwaith o adeiladu campwaith y pensaer Jonathan Adams yn 2002 ac agorwyd y drysau ym mis Tachwedd 2004. Noddir y project gan Gomisiwn y Mileniwm, Cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, y sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd â ffynonellau Ewropeaidd.