Canolfan Ysgrifennu Ty Newydd

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

  Photo by Touchstone

Tŷ Newydd yw'r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol ac ers 1990 mae wedi denu sgwenwyr o bob cwr o Gymru ac o bob rhan o'r byd i diwtora a mynychu cyrsiau.

Lleolir Tŷ Newydd yng nghanol llonyddwch Eifionydd. Mae'n dŷ hynafol mewn gerddi hardd gyda golygfeydd tuag at y môr, Penrhyn Llŷn a mynyddoedd Meirionnydd. Gellir dilyn llwybr o'r tŷ i'r traeth neu at lan afon Dwyfor.

Dyma gartref olaf David Lloyd George, cyn Brif Weinidog Prydain ac mae'n dŷ o ddiddordeb pensaernïol yn ogystal â hanesyddol. Mae'r tŷ gwreiddiol yn dyddio'n ôl i'r unfed ganrif ar bymtheg, a chafodd ei adnewyddu ym 40au'r ganrif ddiwethaf gan Syr Clough Williams-Ellis.

Mae'r Ganolfan yn cynnwys cyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer yr anabl a chyfleusterau gwych ar gyfer tiwtora a dysgu.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
01766 522811 / post@llenyddiaethcymru.org
www.tynewydd.org

Mae Tŷ Newydd yn rhan o Llenyddiaeth Cymru.