Canllawiau Ariannu
Amddiffyn Plant
Mae’r Academi yn ceisio diogelu lles plant a phobl ifanc tra byddant yn mynychu neu’n cymryd rhan yng ngweithgareddau llenyddol. Mae’r Academi yn ymrwymedig i arferion da sy’n diogelu plant a phobl ifanc rhag niwed. At hynny, bydd yr Academi yn darparu canllawiau clir i’w phartneriaid a’i chleientiaid ar y camau y dylent eu cymryd, os oes ganddynt bryderon ynghylch diogelwch plant a phobl ifanc.Mae gan yr Academi ei Pholisi Amddiffyn Plant ei hun sy’n cydymffurfio â’r gofynion y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn eu gosod ar ei gleientiaid ledled Cymru. Mae copïau o’r Polisi hwn ar gael o wneud cais amdanynt. O safbwynt cynlluniau cyllido’r Academi yn arbennig, dyma’r prif bwyntiau:
- Pan fydd yr Academi yn anfon ei llythyr yn cadarnhau digwyddiad at lenorion, cynhwysir darn yn tynnu sylw llenorion at y ffaith y gall trefnwyr ofyn am gynnal gwiriadau ffurfiol gan yr heddlu ar eu haddasrwydd ar gyfer prosiectau a digwyddiadau arbennig.
- Mae gwaith papur y cynllun yn gofyn i drefnwyr lofnodi cytundeb sydd, ymhlith materion eraill, yn cadarnhau eu bod yn fodlon bod y llenor y maent wedi ei archebu yn ddewis priodol os yw’r digwyddiad yn cynnwys plant neu bobl ifanc.
Rhaid i drefnwyr gofio, o dan delerau cynlluniau’r Academi, mai eiddo’r sefydliad sy’n ei drefnu yw’r digwyddiad ac mai eu cyfrifoldeb hwy yw gwneud yn siŵr mai dim ond llenorion priodol a gyflogir. Yn yr un modd, mae’r Academi yn cymryd cyfrifoldeb am y digwyddiadau y mae’n eu trefnu’n uniongyrchol ei hun


