Beth yw Sgwad?

Ewch i wefan newydd Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc:

alt

Tros y ddegawd a fu, mae Llenyddiaeth Cymru wedi datblygu nifer o Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc trwy gydweithrediad awdurdodau lleol ledled Cymru. Nod y Sgwadiau yw dod o hyd i ysgrifenwyr disglair ym mhob rhanbarth – boed hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg – a’u cyflwyno i rai o brif awduron a thiwtoriaid ysgrifennu creadigol Cymru. Fel rheol, gofynnir i brifathrawon yr awdurdod lleol i enwebu plant 9 i 10 oed sy’n dangos addewid yn eu gwaith creadigol, yna bydd ymgynghorwyr addysg yn gwneud y dewisiadau terfynol. Wedi dewis y Sgwad, bydd y plant yn cwrdd oddeutu dair neu bedair gwaith y flwyddyn, fel rheol ar ddydd Sadwrn, ac yn derbyn sesiynau hyfforddi gan lenorion sydd â’r sgiliau cyfathrebu anghenrheidiol i weithio gyda’r ifainc. Gobeithir wedyn cadw’r Sgwad hwnnw gyda’i gilydd hyd ddiwedd eu dyddiau ysgol.

Sefydlwyd y Sgwad cyntaf yng Ngwent yn 1996, ac fe’i dilynwyd wedi hynny gan Sgwadiau ar hyd a lled y wlad – weithiau ceir mwy nag un Sgwad mewn awdurdod lleol, a Sgwadiau Cymraeg a Saesneg ar wahân.  Mae’r Sgwadiau wedi tyfu i fod yn ran amlwg o sîn lenyddol Cymru, ac fe’u gwelir yn cymryd rhan mewn amryfal ddigwyddiadau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol neu gw^yl y Gelli. Bellach mae gan gorff o diwtoriad brofiad o weithio gyda’r plant talentog hyn, gan gynnwys Ceri Wyn Jones, Mererid Hopwood, Gillian Clarke, Francesca Kay, Robert Minhinnick a Jenny Sullivan. Mae’r Bardd Llawryfog, Andrew Motion, wedi gweithio gyda Sgwad Caerdydd ac mae Benjamin Zephaniah wedi ymweld â Sgwad Caerffili.

Gwobr Cwmni Disglair Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2007 y byddai cronfa o £4.5m yn cael ei chreu i’w ddefnyddio gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wobrwyo cwmnïau neu unigolion a ddangosai flaengarwch a rhagoriaeth ym myd y celfyddydau. Braint felly i’r Academi oedd derbyn Dyfarniad Cwmni Disglair a sicrhaodd nawdd i ddatblygu’r Sgwadiau Sgwennu.

Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’r Sgwadiau `Sgwennu yn meithrin y goreuon a’u cyflwyno i’r byd ysgrifennu, a nhwythau ond yn blant ifainc. Heb os, bydd sôn am aelodau’r Sgwadiau yn y dyfodol – maent yn haeddu pob anogaeth.”

Defnyddir yr arian hefyd i hybu’r cynllun Twristiaeth Lenyddol a fydd yn cynnwys gweibdeithiau llenyddol a gosod placiau i gofio awduron blaenllaw o Gymru. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn defnyddio’r arian i ddatblygu cynllun llwyddiannus y Bardd Cenedlaethol.

Gweithdy Sgwadiau yn Llên y Lli 2008

Gweithdy Sgwadiau, Gŵyl Llên y Lli 2008.
Hawlfraint: Llenyddiaeth Cymru / John Briggs