Bardd y Brifddinas

Gillian Clarke, Caerdydd 2005

Gillian ClarkeCyhoeddwyd Bardd y Brifddinas gan Ddinas Caerdydd a’r Academi – y penodiad cyntaf o’i fath yng Nghymru. Gillian Clarke cafodd y gwaith o ddefnyddio barddoniaeth i ddathlu, coffáu a gwneud sylwadau ar ddathliadau Caerdydd 2005.

Cafodd Gillian Clarke ei geni a’i haddysgu yng Nghaerdydd, ac mae wedi magu ei theulu ei hun yn y Ddinas. Meddai, “Caerdydd yw fy ninas i. Rwy’n perthyn iddi a hithau i minnau. Yr hen Gaerdydd a roddodd fod i mi, ond mae’r Gaerdydd newydd yn fy nghyffroi hefyd. Mae ’na newid a chynnwrf yma, ond o dan wyneb y ddinas newydd, soffistigedig mae ysbrydion yr hen Gaerdydd. Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i helpu i gofnodi blwyddyn fawr Caerdydd.”

Bydd swyddogaeth y bardd yn cynnwys mynd gyda’r Arglwydd Faer i ddigwyddiadau cyhoeddus, fel trosglwyddo dyletswyddau’r Maer ym mis Mai, a chofnodi digwyddiadau a newyddion fel y byddant yn digwydd. Bydd Gillian hefyd yn gweithio gyda’r cyhoedd mewn ysgolion a chymunedau i’w cael nhw i ysgrifennu.

Ariennir y swydd gan Ddinas Caerdydd gydol Rhaglen Ddiwylliannol 2005. Mae’n cael ei noddi gan y Loteri Genedlaethol, ac yn cael ei rhedeg gan yr Academi, yr Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol sydd â swyddfeydd yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Gobaith y Cyngor a’r Academi yw y bydd penodi Gillian yn dod â barddoniaeth i fywydau pobl Caerdydd i ddathlu canmlwyddiant y ddinas.

Meddai Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi:

“Mae’r Academi wrth ei bodd gyda phenodiad Gillian Clarke yn Fardd y Brifddinas cyntaf Cymru. Gan y bydd Bardd y Brifddinas yn llysgennad dros Gaerdydd a’n llenyddiaethau, mae’n fendigedig cael rhywun o statws Gillian i wneud y gwaith yma.  Ac fel arweinydd gweithdai profiadol, bydd yn ysbrydoliaeth i gannoedd o drigolion Caerdydd sy’n awyddus i ddechrau ysgrifennu i ddathlu canmlwyddiant eu dinas.” 

Meddai Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Jacqui Gasson: “Rwy’n falch iawn bod Gillian Clarke wedi ei dewis yn Fardd y Brifddinas. Bydd yn crisialu cyffro’r flwyddyn allweddol hon i Gaerdydd ac yn annog eraill i geisio rhoi grym geiriau i’w teimladau am eu dinas.”   

Caerdydd 2005Ariennir Bardd y Brifddinas gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd fel rhan o Raglen Ddiwylliannol 2005, gyda chymorth y Loteri Genedlaethol.