Bardd Plant Cymru
Cerdd i Gyfarch Dewi Pws Morris
Fel hyn y dywedodd yr hen Dwm ffôl
Pan glywodd pwy oedd yn dod ar ei ôl:
“Mae tri enw ar y dyn,
A chwbwl gelwyddog yw pob un.
Mae’r cynta’… (DEWI!)* ...yn enw Sant,
Ond un drwg a direidus yw e, blant.
Enw i alw cath... (PWS!)* ...sydd wedyn:
Ond welsoch chi gath heb run blewyn?
A’r trydydd enw... (MORRIS!)* ...wel,
Enw yw hwnnw ar brifardd del!”
Felly dywedodd yr hen Dwm ffôl
Pan glywodd pwy oedd yn dod ar ei ôl...
Ond rhoi croeso i’r dyn â thri enw a wnawn:
Mae e’n hen ac yn foel, ond mae’n ddigri iawn iawn.
DEWI PWS MORRIS, dere mewn, mêt.
Naw wfft i’r prifeirdd: digrifeirdd sy’n grêt!
Twm Morys, Bardd Plant Cymru 2009-2010


