Bardd Plant Cymru
Dewi Pws Morris, Bardd Plant Cymru
2010-11

Cychwynnodd Dewi ar ei daith o amgylch yr ysgolion ddydd Mercher 6 Hydref. Mae ganddo 50 ysgol ar ei amserlen! Ewch at waelod y dudalen am fwy o wybodaeth.
Ar ddiwedd y cystadlu dydd Mercher 2 Mehefin 2010 mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, cyhoeddodd Twm Morys, Bardd Plant Cymru 2009-2010 mai Bardd Plant Cymru 2010-2011 yw’r bardd lleol, Dewi Pws Morris.
Yn wreiddiol o Dreboeth ger Abertawe, mae Dewi yn enwog am ei dynnu coes, ei ffwlbri a’i bryfocio, ond mae’n enwocach fyth fel actor, canwr, bardd, awdur a chyflwynydd teledu.
Cychwynnodd Dewi ei yrfa fel athro yn Splot, Caerdydd, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, datblygodd ei ddiddordeb ym myd actio yn swydd llawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru. Mae wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu ar S4C, gan gynnwys ei bortread o Wayne Harris yn Pobol y Cwm, Hapus Dyrfa, Torri Gwynt, y gyfres deithiol Byd Pws, cyfres ddrama i bobl ifanc Rownd a Rownd ac yn ddiweddar Golffio i S4C.
Cychwynnodd ei yrfa gerddorol yn nechrau’r saithdegau, pan ddaeth yn aelod o fand y Tebot Piws, ac yn ddiweddarach y siwpyr grŵp Cymraeg cyntaf, Edward H Dafis. Mae bellach yn aelod o fand lleol o Geredigion, Sesh Bach.
Mae talent greadigol Dewi’n parhau fel awdur a bardd ac mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau. Yn eu mysg mae ei hunangofiant Theleri Thŵp, Hiwmor Pws, Fo a Fi (a hi) a llyfrau plant megis Dewi, Dwpsi a’r Dreigie.
Mae bellach yn byw yn Nhresaith, Ceredigion gyda’i wraig, Rhiannon. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Crannog ac mae’n mwynhau pysgota, golffio a mynd ar wyliau yn ei fan deithiol.
Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Academi, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r Urdd yw Bardd Plant Cymru. Yn ogystal â Twm, y beirdd sydd wedi derbyn yr anrhydedd yn y gorffennol yw Ifor ap Glyn, Caryl Parry-Jones, Gwyneth Glyn, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Menna Elfyn, Mei Mac a Myrddin ap Dafydd.
Meddai Dewi:
“Wy'n teimlo'n lwcus iawn i gael fy newis i fod yn Fardd Plant Cymru, ond yn becso bydd y plant yn lot fwy clyfar na fi! Wy’n edrych ymlaen yn fawr i weithio 'da plant dros Gymru gyfan, achos wy'n ystyried y'n hunan fel math o Peter Pan (plant sy'n fy nghadw i'n ifanc!) - ac ar ôl blwyddyn yn y jobyn 'ma falle bydda i wedi tyfu nôl i fod yn ddeuddeg oed unweth 'to!
Diolch am yr anrhydedd,
Y clod, y mawl a'r bri,
'dwi ishe te a brechdan wy
Os ddwai i'ch ysgol chi!”
Mae’r gweithdai wedi eu llenwi. Rydym yn cadw rhestr o ysgolion sydd wedi holi er pan hynny fodd bynnag, rhag ofn y bydd modd i Dewi Pws gynnal rhagor o weithdai. Os hoffech fod ar y rhestr hon, cysylltwch â barddplant@academi.org


