Bardd Plant Cymru
Rhan o swydd y Bardd Plant yw ysgrifennu cerddi comisiwn ar amryw destunau. Isod gellir darllen y cerddi a ysgrifennwyd hyd yn hyn gan Feirdd Plant Cymru y gorffennol.
Ifor ap Glyn - Bardd Plant Cymru 2008/09
Duffydil
(enwyd math newydd o gennin Pedr ar ôl y gantores wych o Nefyn)
Hi yw’r petalau melyn cwta,
yn siglo’n awgrymog
uwch coesyn siapus;
un ddiniwed o wyllt;
ac yn goron ar y cyfan,
gorn o lais a chyfoeth o liw;
y llais â graean chwarel Gwylwyr,
y llais â llif ac angerdd
dyfnderoedd Porthdinllaen…
* * *
Hi yw blodyn unigrwydd
crac mewn pafin
Warwick Avenue…
yn flodyn unigryw,
mor debyg i’r lliaws,
ond y hi sy’n lleisio’u hing,
yn cyffwrdd miloedd
â melyn ei symlrwydd,
ag aur ei hathrylith…
* * *
Achos hi yw’r gwytnwch ddaw i’r golwg
yn wylaidd wedi’r hirlwm;
a hi yw’r gân annisgwyl
ddaw â’r gwanwyn yn ei sgil…
Golau yn y gwyll
(i T. Llew Jones, bardd plant cyntaf a mwyaf Cymru)
Gwelsom cyn hyn ganhwyllau’r rhai hŷn,
fel tyllau llachar yn nhywyllwch y llan
yn gwâdd goleuni mewn o’r tu draw.
A gwelsom y rhai iau mewn cyngerdd hwyr
yn eglwysig gyda’u leitars,
yn patrymu’r nos a’u hangerdd
Ond heno yn lloftydd plant ein gwlad
gwelwn ddillad gwely’n fryniau dirgel
A gwawl od yn dianc dan y plancedi
Pe mentrem i grombil
y siambrau arallfydol hyn,
caem ymhob un
blentyn yng nghroth dychymyg;
bennau gliniau dan ei ên
a thortsh wrth ei drwyn
wedi ymgolli’n llwyr
yn llyfr T. Llew.
Ym Mhontgarreg,
mae ffenest y meistr yn dywyll mwy;
ond yn llofftydd Cymru heno
mae defod anfwriadol y plant
yn dyst i’w barhâd,
ac mae goleuni eu Gwydion
yn dal i ffrydio mewn
o’r tu draw…
Caryl Parry Jones - Bardd Plant Cymru 2007/08
Cwpan Rygbi’r Byd
Mae ‘na rywbeth yn digwydd, mae yn y gwynt,
Mae pob calon yn curo’n gynt a chynt,
Baneri pob gwlad yn chwifio fry
A phedwar ban yn uno’n y gri
I annog yr arwyr i faes y gad
I ymladd yn ddewr dros bobl eu gwlad…
Mae nhw’n gwisgo’u crysau â balchder pur,
Wedi ymdrech y drin dros y misoedd hir,
A nawr mae pob cyhyr, pob asgwrn, pob gewyn
Pob dropyn o chwys, pob anadl, pob ystum
Yn barod i wynebu’r her sydd o’u blaen,
Mae’r byddinoedd o bymtheg yn symud ‘mlaen.
Ac wrth iddynt redeg i wres y pair,
Ac angerdd a dagrau yn llenwi bob gair
O galonnau’r anthemau sy’n fôr o gefnogaeth
Cyn ymchwydd y bonllef sy’n sgrechian anogaeth,
Llonyddu wna’r Ddaear, does dim troi ar y rhod
Ac mae’r byd y tu allan yn peidio â bod.
A chyda phob cic, pob tacl, pob rhediad,
Pob sgrym a phob sgarmes, pob cais a phob trosiad,
Pob pwynt, pob dyfarniad, pob mantias, pob chwiban,
Pob pas a phob lein, pob cwrs a gôl adlam,
Mae curiad pob calon o amgylch y byd
Yn dyrnu eu ffydd yn y bechgyn i gyd.
Ac ar feysydd Ffrainc bydd y cyrff yn cyfarfod,
Bydd y rhyfel yn para nes i’r ymladd ddarfod,
Ac ar ddiwedd y cyfan, dim ond un tim fydd
Yn codi’r aur gwpan, yn ennill y dydd,
On tan ddaw hynny bydd y byd yn uno
Dan faner y gamp a’i harwyr diflino.


