Bardd Plant Cymru

Ifor ap Glyn - Bardd Plant Cymru 2008/09

Isod gellir darllen y gwaith a grewyd gan amryw o blant ledled Cymru mewn gweithdai gyda Bardd Plant Cymru 2008/09, Ifor ap Glyn

Enbyd!

Pry copyn dewr ar y creigiau garw
Yn plethu ei we i gyrraedd y brig.

Swn mwrthwl yn taro wrth ddyrnu’r llechi;
Swn drilio’r cerrig fel cnocell y graig.

Llosgi’r gannwyll i gynnau’r gwreichion;
Dyn yn gweiddi nerth esgyrn ei ben!

Ffrwydriad ffyrnig a’r graig yn wenfflam -
Ffrwydriad enfawr yn hollti’r nen!

Cerrig llwyd yn tasgu’n bendramwnwgl,
            Dynion yn rhuthro fel sgwarnogod chwim.

Ogle tagu ar y llwch, ogle drwg twll y mwg;
Daw canol y ddaear enbyd yn nes ac yn nes!

Teimlo’n flinedig rôl diwrnod trwm,
Gwerthu’r graig am fywyd teg.

Disgyblion blwyddyn 3 i 6, Ysgol Pant Pastynog
      24 /11/08


Cerdd Ysgol Pen Barras

Fel orang utan yn araf a hen
Yn cerdded i fyny’r graig hefo’i ddril
Yn teimlo llawn ofn wrth ddringo’r rhaff.

Mae’r dril yn curo fel cnocell y coed
Yn tyllu’r graig i fwydo’i blant
A’i law’n crynu er nad yw’n oer.

Mae’r neidr beryglus yn y graig
A’r fflam yn llosgi’r powdwr du
Ofnus nerfus cyn daeargryn

Bloeddio “Enbyd! Enbyd! Enbyd!”
Dianc fel pry copyn yn disgyn o’i we
Llithro lawr rhaff a’i galon yn ei wddw

Pobl yn dianc fel morgrug
Cerrig yn disgyn ar hyd y llawr
Cerrig bach a cherrig mawr
Cerrig fel cenllusg a’r ffrwydrad fel tân gwyllt

Disgyblion Ysgol Pen Barras


Cerdd Ysgol Pentreuchaf

Tri pheth sydd yn fy ngwylltio
Y ffuret a fi yn paffio,
Cwnigen sy isio bod yn faer
A sgodyn aur sy’n smocio

Un rhyfedd iawn yw ‘mrawd i, Rhys;
Un diwrnod, ‘wnaeth o fwyta’i grys,
Ac yna’i drowsus am fod o ar frys
Cyn llyncu’i sgidia heb godi chwys
A bresys plismon…a brathu’i fys!
A rwan mae Rhys ar ei ffordd i’r llys!

Rhai rhyfedd iawn yw pobl ‘Ffôr
Mond un a hanner sy’n y côr
A rheini’n ‘marfer dan y môr

Rhyfeddach fyth yw criw Rhosfawr
Yn plannu’i gilydd dan y llawr
Yno maen nhw’n cysgu nawr

Disgyblion blwyddyn 3 a 4, Ysgol Pentreuchaf


Chwarelwr

Chwarelwr yn straffaglu i fyny’r llethr
A’i dwmffat yn siglo.
Symud fel cranc ar wyneb y graig
Fel pry cop yn adeiladu ei we.
Clinddarach dril cyn clec y morthwyl,
Mwg yn arnofio fel huddug,
Clywed can adar cyn taran y ffrwydriad,
Gwasgarant fel y tri mochyn bach.
Rhedeg i ffwrdd yn ofnus a’r ffiws yn byrhau
Pawb yn ffoi fel haig o bysgod,
Ei law yn gwpan am ei lais,
Mae ENBYD yn rhybudd rhag siarc y chwarel.
A fydd o’n dianc?

Disgyblion blwyddyn 5 a 6, Ysgol Pentreuchaf


Cerdd Ysgol Tremadog

Tri pheth sydd yn fy ngwylltio;
Colli pan dwi’n cwffio,
Colli’n ffordd ynghanol dydd
A’r trydydd? Methu cofio.

Rhai rhyfedd iawn yw criw Rhyd-ddu
Mae pob un hefo tair mamgu
A phawb yn hoff o fwyta plu
Gan feddwl fod o’n wneud nhw’n gry

Disgyblion Ysgol y Gorlan, Tremadog


Siafio

Sebon siafio’n wyn fel eira
s?n gwenynen y siafiwr
A’r tyweli’n damp yn y fasged

Tap yn rhedeg mewn i’r sinc
Blew’n disgyn fel plu eira du
A’r d?r yn troelli’n wyn

Haws trin rasal na geiriau
Tap poeth ymlaen a’r lle’n stemio’n sydyn
S?n tynnu plwg fel atalnod llawn

Disgyblion Ysgol y Gorlan, Tremadog



Cerdd Ysgol Maelgwn

Mae carw yn Llandrillo yn Rhos
Sy’n meddwl mai fo ‘di Santa Clos
Mae ganddo farf a siaced dlos
Sydd o’r un lliw â thomato sos
A Sion Corn druan yn disgyn i’r ffos
‘rôl gorfod tynnu’r sled drwy’r nos!

Disgyblion blwyddyn 3 i 6, Ysgol Maelgwn, Llandudno


Maelgwn Gwynedd

Ar draeth Deganwy un diwrnod, daeth tyrfa fawr gerbron,
I ddewis brenin Gwynedd drwy’r gystadleuaeth hon:
Sef aros am yr hira’ ar gadair yn y lli,
A’r un heb ffoi na boddi a fyddai’n mynd â hi

Roedd un â chadair sgleiniog, un arall ag un b?l,
Ac un â gorsedd drudfawr, yn meddwl fod o’n c?l!
Cadeiriau trwm, ac ysgafn, rhai llydan a rhai cul;
Ac un ‘di dod â soffa, a’i chludo ar gefn mul.

Arglwyddi a brenhinoedd o bedwar ban y byd
Ac yn eu plith roedd Maelgwn oedd am eu curo i gyd.
Roedd ganddo was reit gyfrwys – a Maeldaf Ffals oedd o-
Ddyfeisiodd gadair ryfedd, yr orau ers cyn co’.

Adenydd pren oedd arni, a’r rheini’n aur i gyd.
Arnofiai ar y tonnau fel tasai’n gadair hud.
Roedd Maelgwn dal i eistedd, yr olaf ar y môr;
“Y fo ‘di’r brenin gora!” meddai’r lleill i gyd fel côr.

Doedd o ddim bob tro’n garedig; fe allai fod yn gas,
Ond roedd yn wir ddiolchgar fod ganddo gystal gwas.
A heno mae’na barti, mae pawb yn gallu mynd,
Y tlawd a’r cyfoethogion, pob un yn dod â ffrind.

Ar y Fardre yn Neganwy, bydd pawb yn dod ynghŷd
I ganmol Maelgwn Gwynedd sef brenin gorau’r byd!
A rhaid i bawb roi pennill er mwyn yr hwyl a’r sbri,
A dyna yw’r llinellau hyn a ganaf nawr i chi!

Disgyblion blwyddyn 3 i 6, Ysgol Maelgwn, Llandudno


Cerdd Disgyblion Ysbyty Ifan

Un ddigri iawn yw’n ffrind i Non
Yn rhoi sos goch ar gefn ei sgon
Tra’n waldio’i hunan hefo ffon   
- hynny sy’n gwneud iddi deimlo’n llon.

Mae pawb yn nabod Sali Mali
Yn gyrru tractor yn y rali;
Hefo crempog mae’n parasiwtio,
Yn syrffio’r don ar ben bwrdd smwddio.

Disgyblion blwyddyn 3 i 6, Ysgol Ysbyty Ifan


Saith mewn gorsaf

Symud drwy’r dorf fel gwthio drwy’r rhedyn
Gan chwilio’n ofer am blatfform gywir;
Trenau’n rhuo, plant yn ffraeo,
Gwadnau’n clopian, sodlau’n clecian
Traed yn t’rannu, rhuthro a thuchan.

Dyma’r saith swnllyd fel ynys o liw,
A’u bagiau fel ‘tasen nhw’n symud i fyw.
S?n cacwn yn llais yr uchelseinydd,
A’r rhain fel gwiwerod yn neidio i’r cerbyd;
Yr athro’n eu cyfri rhag colli’r un plentyn,
Chwiban y giard,
Mae’r trên yn cychwyn.

Disgyblion blwyddyn 3 i 6, Ysgol Ysbyty Ifan


Ysgol Llanbrynmair

Tri pheth wna imi bwdu
Y Saeson yn ei trechu,
Gorfod byta brechdan spam
A mam yn diffodd teledu

Tri pheth sydd yn fy llonni
Gweld tim fy mrawd yn colli
Stwffio’i wyneb yn ei ginio
A’i luchio allan drwy’r llenni

Mae pobol od yn Llanbrynmair
Sy’n cyfarth ac yn bwyta gwair
A’r hwyaid plastig ddaeth o’r ffair.

Rhyfeddach fyth yw rhai Dolfach
Aeth Santa yno gyda’i sach
A chael ei rewi gan hen wrach

Disgyblion Ysgol Llanbrynmair


Ffoi yn Rwsia

Edrych i fyny ar gawr o ddyn
Sy’n gwarchod ei bobl ar ddechrau’r daith.

Mae’r trenau’n chwysu’n dawel,
Newydd gyrraedd o Siberia bell
Ag eira ar eu brig.

Dwi’n dal wynebau estron hefo’r camera,
Wynebau syth a’r cegau’n gweiddi
A s?n gwahanol ieithoedd
Yn ddwndwr yn fy mhen.

‘Dan ni’n dianc o’r gyfraith,
mae’r bagiau’n drwm,
ond mae plentyn ar goll!

Cysurwn ein gilydd
Wrth golli’r trên

Disgyblion Ysgol Llanbrynmair


Llifogydd

Mellt yn fflachio’n felyn gloyw
A s?n y glaw fel dwylo ar ddrwm
Yn stido fel traed yn stampio
A’r d?r yn llifo i lawr y cwm.

Pigiad y mellt yn chwyddo’r afon
Yn newid ei lliw yn frown a du
A’r dyfroedd yn berwi yn wyllt fel cacwn,
A’r mwd yn corddi, yn llygru’r lli.

Mae’r afon fel brwsh yn mynd lawr y cwm
Yn sgubo canghennau, caniau a chlai,
Y cyfan yn mynd yn llanast i’r môr
A’r pysgod yn crio wrth adael eu tai.

Rasio’n gyflymach gyflymach mae’r afon,
yn bwrw’i hysgwydd drwy ddrysau’r glennydd
cyn gorwedd mewn caeau, wedi ymlâdd,
a’r ffermwr yn achub ei ddefaid o’r dolydd

Rhai dyddiau distaw yn ddiweddarach
A’r afon bellach yn dawel a dof
Mae marciau ochor bath ar y coed
Yn dangos lle mae’r d?r wedi bod,

Lle bu’r brigau’n trochi fel dwylo’n y lli
Gan gipio’r gwair a mwd ar ei hynt
Sy’n hongian nawr fel gwymon yn sychu
Ac yn siglo fel rhybudd yn y gwynt.

Disgyblion blwyddyn 5 a 6, Ysgol Terrig, Treuddyn


 

Dathlu’r Pasg yn Sir y Fflint

Mae’na estrys frown yng Ngwespyr
Sy’n pori mewn cae hud
A ffens Kit Kat o’i chwmpas
I’w gwarchod rhag y byd.

Mae’n gallu dodwy wyau
A rheini’n flasus iawn
Achos siocled yw y plisgyn –
Wel, dyna ichi ddawn!

Ac ymhob wy mae Smarties,
Rhai oren, pinc a glas
(nid estrys fechan fflwffi)
-mae’n brysur iawn bob Pasg!

Ac maen nhw’n cloddio’r papur metel
O hen waith Parlwr Du,
A’i lapio am yr wyau –
Mae’n sgleiniog ac yn gry’.

A draw ym mhentre Gronant
Yn tyfu ar y coed
Mae bocsus dal wy siocled
Mor lliwgar ag erioed.

A dyna pam mai sir y Fflint
Yw’r gorau yn y byd,
Pob clod i estrys Gwespyr
Sy’n dodwy’r wyau’i gyd.

Ond peidiwch trio’u dwyn nhw
A’u cuddio yn eich freezers
-daw plant y Mornant ar eich ôl
a’ch saethu â Maltesers!

Disgyblion blwyddyn 5 i 6, Ysgol y Mornant, Picton


Pobl od

Mae pobl od ym Mhenylan
Yn towio pedwar carafan
Yn bwyta’r ffa heb agor y can –
Dwi’n meddwl bod nhw’n hanner pan!

Dosbarth Sion Williams, Ysgol y Berllan Deg, Llanedeyrn


Coed Berllan Deg

Y Berllan Deg, Caerdydd yw’r berllan decaf un
ac os na fuoch yno, fe dynna’i ichi lun.

Mae yno ellyg blasus yn hongian ar y coed,
eirin llyfn ac eirin gwlanog mor felys ag erioed;

bricyll a cheirios sgleiniog ac afal i bawb o’r criw
– ond yn y berllan yma, cewch ffrwythau o bob lliw.

Mae ciwi a chnau coco yn tyfu yng Nghaerdydd;
lemwn leim, banana a grawnffrwyth coch ei sudd;

mae oren, ffrwyth y seren ac hefyd ffrwyth y ddraig
(peth addas iawn i’w dyfu mewn perllan mor Gymraeg!)

Ond y plant yw’r ffwythau gorau, yn dod o wreiddiau cedyrn,
yn mynd â’r iaith yn ôl i’w tai, i dyfu yn Llanedyrn.

Dosbarth Ms. Rhianwen Davies , Ysgol y Berllan Deg, Llanedeyrn 


Plismon Od

Mae plismon od yn byw yn Sblot
Sydd byth yn tynnu’i het na’i got;
Gyda’i bastwn mae’n malu cnau
a bwydo gwiwerod bob mis Mai

Pan ddaw galwad ar ei radio
Fydd y plismon byth yn gwrando –
Bydd e’n siarad gyda’i ffrind –
?ps! Mae’r lleidr wedi mynd!

Aeth â’i gyffion draw i’r Rhâth
Ac yno, fe arestiodd gath;
Un noson wedyn yn Nhreganna,
Bwytodd ei bastwn yn lle banana!

Bellach symudodd i Gyncoed
Ond mae dal mor wirion ag erioed!

Ysgol Bro Eirwg, Llanrhymni


Traed Moch

Un diwrnod tra’n cerdded yn Nhremorfa,
Fe weles i fochyn yn prynu soffa.
Roedd e isie cael un yn ei dŷ
“Paid wasto dy arian,” medde fi

“Ond dwi isie cyfle i ishte yn glyd
– dwi wedi blino ar sefyll o hyd,”
y gwichiodd y mochyn. Atebais fel hyn:
“Der nôl i’n tŷ ni; mae ‘na soffa gwyn;
gei di drial e mâs tra’n gwylio TV!”
A dyna’n union a wnaethon ni.

Eisteddon ni lawr i weld gêm y Gleision;
Gas e botel o Coke a phaced o greision.
Fe gollon ni friwsion a phop hyd y lle
wrth neidio i’r awyr a gweiddi “hwrê!”,
a dawnsio ar soffa i ddathlu y cais!
(Mae wastad yn braf i gael curo y Sais)
Ond roedd traed yr hen fochyn yn fwdlyd i gyd,
Traed drewllyd, traed gwlyb, y rhai butra’n y byd!
A phan ddaeth fy Mam yn ei hôl i’r tŷ
Roedd y soffa gwyn wedi troi yn ddu!
Ac wrth iddi ddweud y drefn yn groch
Y deallais o’r diwedd wir ystyr “traed moch”!

Ysgol Bro Eirwg, Llanrhymni


Cerdd Coleg Sir Gâr 

Tri pheth sydd yn fy siomi
Cael gormod o sbageti
Losin flewog yn fy mhoced
A siocled wedi toddi

Tri pheth rwy’n gorfod gwisgo
Sodle uchel er  mwyn dawnsio
Ffrog fach binc a siaced las
Cyn mynd mâs, lawr i’r disgo

Myfyrwyr ail iaith Bl.12, Coleg Sir Gâr


Penillion Ysgol Cross Hands

Mae menyw ryfedd yn Cross Hands
Yn gyrru car â rubber bands
A gas ei wneud o bren gan saer
Ac mae y teiars oll yn sgwâr.

Mae pobol ddoniol yng Ngorslas
Sydd ond yn bwyta tato glas
A moron pinc a mefus gwyrdd
Ac weithiau’n sugno Mistar Urdd!

Disgyblion blwyddyn 4, Ysgol Cross Hands


Hunangofiant tŷ

Diwrnod fy ngeni rôn i’n llefen brics,
Sgramo’n hun â hoelion,
 sgip fel cewyn i ‘nghadw i’n lân

Ar ôl i’m waliau dyfu’n gadarn,
Cribais fy llechi i’r steil ddiweddara,
Cyn i’r teulu cynta symud i mewn.
Dros ganrif a hanner, bûm yn ail ddilladu
 charped, paent a phapur
Er mwyn symud gyda’r oes;
Cefais estyniad fel bola canol oed

Ond yn fy henaint cefais sgaffaldie,
fel ffyn baglau,
a minnau’n simsanu;

roedd plaster fy wyneb yn gracie i gyd;
collais lechi fel gwallt o’r to
- a’r simdde yn stopo anadlu.

Yn awr, dwi’n adfeilio, fy walie’n cwympo,
Fy mhren yn pydru,
Nes bydd dim ond brics fel esgyrn ar ôl.

Disgyblion Blwyddyn 5, Ysgol Cross Hands


Pobl Od
 

Mae pobl od yn Aberteifi
Yn bwyta coco pops a grefi.

Rhyfeddach fyth yw criw Cwmcych
Yn hoff o grensian sirial sych.

Ond gwell yw cadw draw o Lambed
Yn fanno maen nhw’n sugno’r carped.

Un rhyfedd iawn yw Wncwl Sam
Sy’n hoff o smocio brechdan jam.

Disgyblion blwyddyn 6, Ysgol y Ddwylan, Castell Newydd Emlyn


Bagiau Plastig

Mewn tomen daclus wrth y cownter
Maen nhw’n ein denu gyda’u sglein a’u lliw
Mae’u crwyn yn llyfn, dryloyw, oer
A’u dolenni fel clustiau cyfeillgar.

Ac ar ôl llyncu ein nwyddau
A’u boliau’n dynn
Awn gartre gyda’n gilydd.

Ond yna mae’r berthynas yn chwalu
 - mae’r bagiau’n hedfan bant
Yn parasiwtio mewn i’r coed
Yn hongian yno fel dillad rhacs ar lein
Fel baner annibendod

Maen nhw’n suddo yn araf ac yn slei i’r môr
Fel slefrod peryglus
yn barod i lapio‘u hunain
Yn sgarff am wddf crwban
Neu’n facyn i forlo
Cyn eu crogi a’u tagu.

Rhaid cefnu ar y fath ffrindiau ffals
Y plastig diflas dieflig;
A cheisio cyfeillion amgenach
Mae cotwm yn fwy caredig!

Ysgol y Ddwylan, Castell Newydd Emlyn


Y Beic Amser

Un diwrnod yn y gwanwyn
tra’n mynd â’r ci am dro,
mi welais feic mewn coeden
– dringais fyny ato fo.

Roedd yn hen a hir a rhydlyd
a mwd ar hyd y tsiaen
a doeddwn i ‘rioed ‘di gweld
beic ‘run fath o’r blaen.

Wrth y gloch roedd cyfrifiadur
ac mewn bag bach dan y sêt
roedd llyfr cyfarwyddiadau.
Beic amser oedd o ! Grêt!

Padlo mlaen oedd rhaid ei wneud
i weld y byd a ddaw;
Ond padlo nôl wnes innau
i’r flwyddyn pump saith naw.

Gwelais Dewi yn yr ysgol
yn cwffio hefo’r plant
ac yn cega hefo’i athro
– roedd heb eto ddod yn sant!

Ac oes y deinosoriaid
oedd nesa ar y daith
cyn iddyn nhw farw allan,
a dyma ichi ffaith –

nid comet wnaeth eu lladd nhw,
ond mynd i’r Ysgol Sul;
rôn nhw’n methu cofio adnod –
wnaeth pob un lyncu mul.

Yn olaf wnes i badlo
i fil naw cant un dau
a gweld y llong Titanic
yn hwylio dros y bae.

Ond wrth fynd yn nes i’r llong
mi’i thrawais hefo clec
a suddo wnaeth oherwydd
y twll wnes dan ei dec.

Rôn i’n teimlo’n euog wedyn,
mi ês â’r beic yn ôl
a’i guddio’n ‘twll dan grisiau
ar ôl ‘mi fod mor ffôl.

Tro nesa âf i arno
i’r dyfodol â’i am daith - 
rôl pasio fy mhrawf gyrru
a minnau’n un deg saith!

Disgyblion blwyddyn pedwar, Ysgol y Graig, Llangefni  
 


Ieir anhygoel Ianto


Ieir rhyfedd sydd gan Ianto,
maen nhw wrth eu bodd mewn glaw
a hyd yn oed mewn storom
fydd rhain byth yn cael braw.

Dŷn nhw ddim yn gwisgo welingtons
nac ambarels, bid siwr,
ond fedr neb ei wadu –
maen nhw’n hynod hoff o dd?r!

Maen nhw’n gallu dal eu gwynt am awr;
Os yw’n bwrw hen wragedd a ffyn,
maen nhw’n gwisgo’u snorcyls a fflipars
ac yn plymio i ganol y llyn!

Bydd un yn mynd yn ddyfn iawn,
Drwy fenthyg wyau’i chwaer,
a’u strapio ar ei gefn;
maen nhw’n gwneud fel tanciau aer.

Y ceiliog hwn yw Elvis
ac mae Brylcreem ar ei grib;
pan fo cân roc ar y radio
bydd yn rhuthro draw ar wib

gan droi y sain yn uwch ac uwch
wrth ddawnsio roc a rôl
neu glochdar ganu “Hound dog”
hefo’r defaid ar y ddol.

Fo yw’r ceiliog dandi tanddwr
a phan nad yw’n arwain côr,
mae’n gweithio ar rigs olew
a llongddrylliadau’r môr.

Mae’i chwiorydd ac yntau’n anhygoel,
ond y peth sy’n fy nigio i fwya’
bu rhaid imi ddysgu nofio’r un fath
er mwyn imi gasglu eu hwya’  !

Disgyblion blwyddyn 3 a 4, Ysgol Bro Aled, Llansannan, 


Hanes rhyfedd Cai

Dyma hanes fy nghefnder i, Cai:
tra bo eraill yn tyfu, mae o’n mynd yn llai.
mae’r oen yn troi’n ddafad, daw adar o’r nyth,
aiff ebol yn geffyl, ond Cai sy’n llai fyth!

Ca’dd ei eni’n chwe throedfedd ac yn bymtheg stôn,
roedd sgrech ei fam druan i’w chlywed ym Môn!

Roedd ei goets yn rhy fychan, cafodd lori yn lle.
A chyrtens fel clytiau! A rhaw yn llwy de!

Roedd ei fam yn gwaredu, yn dechrau colli ffydd,
nes trio “Para – shrink – amol” a “Llai – osyn” bob dydd.

Roedd yn ffisyg mor bwerus, aeth Cai yn llai dros nos,
collodd droedfedd ar ôl troedfedd, a stôn ar ôl pob dôs.

Ond pan stopiodd gael y moddion, roedd yn dal i fynd yn llai,
nes fod o’n llai na modfedd – bocs modrwy yw llofft Cai!

Mae’n chwarae pêl a physan, gwyniadur yw ei fath,
mae’n byw ar ben y dresal rhag ei fyta gan y gath.
 
Mae’n bwyta gyda chopsticks sydd wedi’u gwneud o flew;
mae’n hoffi cael stêc chwannen, ond aiff o byth yn dew.

Er mor fawr oedd Cai pan gafodd ei eni,
mae’n dipyn teneuach, a lot llai eleni!

Disgyblion blwyddyn 5 a 6, Ysgol Bro Aled, Llansannan

 
Wncwl Joe
 
A glywsoch am f’wncwl Joe?
Mae’r cr’adur wedi colli’i go’.
‘Di o’m yn gwybod lle mae’n byw,
yn galw’i hun yn “Tomos Puw”.
‘Dio’m yn cofio faint ‘di’i oed
ac felly bydd yn dringo coed
gan sgipio lawr y lôn i’r dre
gan ddweud wrth bawb, “dewch draw i de!”
Ac er ei fod o braidd yn hen
Mae Wncwl Joe bob tro yn glên.

 Disgyblion blwyddyn 5 a 6, Ysgol Llanfairpwll

 

Penmon

Yng ngwesty gwag yr adar
Lle bu cysgod rhag gwynt main y môr
Clywaf atsain pedair canrif
Fel siffrwd adenydd

Yma bu’r ceidwad yn gweini
A’i ystol a’i bolyn
Yn twtio nyth, yn hel plu
Ac yn casglu wyau beunydd

Heddiw yng ngwesty’r adar
Mae naw cant o lofftydd llwm
A’r colomen-westeion wedi hen hel eu pac
Gan hedfan heb dalu
Na diolch
Na dim
 

 Ysgol Llanfairpwll


Cerdd Ysgol Uwchradd Llanfyllin

Dwi’n cysgu mewn bun yng Nghaernarfon
Yn ymyl siop gigoedd o safon;
Mae’r lle’n gyfyng iawn
Ac erbyn y p’nawn
Bydd bob tro’n llawn gyda gamon

Tripheth sydd yn fy ngwylltio;
Nhad ddim yn gadel ‘mi ddreifio;
Fy mrawd yn taflu’n chwaer o’r pram
A gwrando ar Mam yn fy nagio