Bardd Plant Cymru
Caneuon Tymhorol
Aur ac Arian
Mae’n amser inni ddiolch am y dyddiau hir a braf.
Diolch i’r hen haul mawr clên am ei waith ar hyd yr haf.
Mi aeth y wennol ola’ ar ei gwyliau dros y lli,
Ac mae’r Robin Goch yn gofyn am ryw sgram bach gennyf i.
Cyn hir bydd aur ac arian yn disgyn arnom ni.
Mae haul yr haf wedi blino – mae o’n mynd i’w wely’n gynt.
Ym mrigau coed Llwyndyrus, rwy’n clywed cwyn y gwynt.
O dan y coed mae’r wiwer, lle mae’r cnau di-ri,
A’r mochyn daear yn ei dwll mor gysglyd, bron, â fi.
Cyn hir bydd aur ac arian yn disgyn arnom ni.
Ysgol Pentreuchaf
Diolchgarwch
Diolch iti am y glaw sy’n disychedu’r byd.
Diolch iti am yr haul sy’n gwenu ar yr ŷd.
Diolch am y garreg sy’n malu’r ŷd yn flawd,
Er mwyn rhoi torth o fara ar fwrdd y teulu tlawd.
Diolch am ein cartre clyd a phawb sydd ynddo fo,
Am dad a mam a brawd a chwaer, i gyd o dan un to.
Diolch am ein ffrindiau, ac am eu cwmni da,
A diolch iti am yr hwyl yn nyddiau hir yr ha’.
Diolch iti am ein gwlad, diolch am ein hiaith,
Diolch iti am y cwm, ac am y mynydd maith,
Diolch iti am y byd, a diolch am gael byw:
Am y pethau hyn i gyd, diolch iti, Dduw!
Ysgol Twm o’r Nant
Iesu o Gaerdydd
Petase’r Baban Iesu yn dod yn ôl ryw ddydd,
Beth petase’r Iesu’n cael ei eni yng Nghaerdydd?
Nid yn y Parc bydd hynny, nac yn y Castell mawr,
Ond mewn stafell yn Llanrhymni ar y degfed llawr.
Bydd graffiti hyd y walie’ a sbwriel hyd y lle
A bydd miri tan y bore bach gan fechgyn drwg y dre.
Ond yn y siop fach ar y gornel fe fydd y fenyw’n glên,
A phan fydd Mair yn prynu torth fe fydd hi yn cael gwên.
Bydd tu fâs y lle’n anniben bydd tu fâs y lle yn flêr
Ac yn yr awyr ddiflas fydd dim golwg o’r sêr.
Ond tu fewn fe fydd hi’n llawen, yn gynnes ac yn glyd;
Bydd y soffa’n llawn o dylle’, ond bydd cariad lond y crud.
A chyn hir fe ddaw’r cymdogion, stondinwyr bach y ffair,
Y dociwr cry’ a’r siopwr, i groesawu baban Mair.
A dyma’r Prifweinidog, y Prif-gwnstabl a’r Maer
Ar eu penne-glinie’ yn addoli Mab y Saer.
Bydd pawb o Fôn i Fynwy yn syllu oll yn syn
Ar Stadiwm y Mileniwm yn llawn angylion gwyn,
Petase’r Baban Iesu yn dod yn ôl ryw ddydd,
A phetase’r Iesu’n cael ei eni yng Nghaerdydd.
Ysgol y Wern, Llanisien
Pentre Bach Llandrillo
Ger pentre bach Llandrillo a dan yr awyr las
Ar fore dydd Nadolig roedd lloeau’n rhedeg ras:
Llo coch, llo du, a llo bach gwyn
Am y cynta’ i ben y bryn
Ger pentre bach Llandrillo o dan yr awyr las.
Ar ben y bryn bu ffraeo am bwy wnaeth gario’r dydd,
A’r lloeau i gyd yn cega: ‘Un enillydd sydd!’
Llo gwyn, llo du, a llo bach coch
Yn y bore’n brefu’n groch
Ar ben y bryn y ffraeo am bwy wnaeth gario’r dydd.
Wel, dyma ddyn bach heibio, a’i locsyn at ei droed,
Sant bach o Iwerddon, y sant bach mwya’ erioed;
Llo coch, llo gwyn, a llo bach du
I gyd yn rhythu arnoo’n hy,
Ie, dyma ddyn bach heibio, a’i locsyn at ei droed.
A dyma’r sant yn siarad a’i lais fel c’lomen wen:
‘Mae’n fore dydd Nadolig! Rhaid dod â’r ffrae i ben…
Llo coch, llo du, a llo bach gwyn,
Rwyf eisiau’ch help chi rwan hyn!’
Fel hyn bu’r sant yn siarad, a’i lais fel c’lomen wen.
Ac felly y bu i’n pentre gael ei enw o:
I fynd â’r Newydd adre’, anfonwyd y tri llo,
Llo coch, llo du, a llo bach gwyn
Yn canu am y Geni’n syn.
Ie, felly y bu i’n pentre’ gael ei enw o.
Ysgol Llandrillo
Eira Bach a Mawr
Mae eira lond y cwmwl llwyd
A’r robin goch yn chwilio am fwyd,
Mae pawb fel pysgod yn y rhwyd
Yn yr eira bach a mawr.
Mae lliain anferth dros y llawr
A’r Cnicht fel hufen iâ i gawr,
Mae ‘na fwy i ddod cyn toriad gwawr,
Eira bach a mawr.
Paid â swatio wrth y tân,
Dyro gap a menig gwlân
I chwarae yn yr eira mân,
Eira bach a mawr.
Mynd o’r tŷ a’r eira’n drwch,
Estyn sled o ganol llwch,
Torri cwys a’r sled yn swch,
Eira bach a mawr.
Bydd eira eto ’nôl y sôn
O Sir Fynwy i Sir Fôn,
Yn cyrraedd pennau’r polion ffôn,
Eira bach a mawr.
Plant Ysgol y Gorlan, Tremadog
Eira Mân
Roedd bore’r Nadolig ers talwm yn wyn,
Ond mae bore’r Nadolig yn llwyd erbyn hyn.
Dyna chi gymorth i bob calon brudd
Fyddai eira’n y bore ar doeau Caerdydd.
Mae’r nyrs fach fu’n cadw cwmpeini i’r claf
Yn agor y llenni ac yn gwenu yn braf,
A’r dyn yn ei wely yn holi be sydd:
O, mae eira’n y bore ar doeau Caerdydd.
Eira mân,
Yn gwneud pob cornel
O’r ddinas yn lân…
Mae’r plantos heb gysgu wrth feddwl am Siôn
A’r ceirw yn glanio heb lwybyr na lôn.
Maen nhw’n gwybod ei fod e am ddigwydd ryw ddydd:
Eira’n y bore ar doeau Caerdydd.
Os bydd bore’r Nadolig eleni yn wyn,
Bydd pobun yng Nghymru yn chwerthin yn syn.
Dim ond inni fyw gyda digon o ffydd
Fe fydd eira’n y bore ar doeau Caerdydd.
Eira mân,
Yn gwneud pob cornel
O’r ddinas yn lân…
Ysgol Pen-y-Garth, Penarth
Cân Siôn Corn
“Mae’r ceirw yn gweryru,
Mae’r clychau i gyd yn canu.
Deffra, Rwdolff! Awn ni nawr
Ar y siwrne fawr i Gymru,”
Meddai’r Hen Siôn Corn…
“Pan fydd hi’n dywyll heno
Bydd dy drwyn di yn disgleirio;
Ar y sled mae’r sachau’n llawn
Rwy’n siŵr y cawn ni groeso,”
Meddai’r hen Siôn Corn.
“Pan landiwn ni yn Rhymni
Fe gawn ni ddarn o dwrci,
Moron, pwdin a mins-peis
A phwdin reis a brandi,”
Meddai’r hen Siôn Corn.
“Os peidiwn â gwneud twrw
Efalle bydd ’na gwrw;
Rhyw lwnc bach sydyn i hen ŵr,
Ond dim ond dŵr i’r ceirw!”
Meddai’r hen Siôn Corn.
“Ac wedyn rhaid mynd gartre’
I lenwi mwy o sache’,
Nadolig Llawen inni i gyd,
Holl blant y byd, a minne!”
Meddai’r hen Siôn Corn.
Ysgol Bro Eirwg, Rhymni
Dyn Bach Tew y Grysbas Goch
Pan ddeffrais heddiw’r bore
Roedd eira ym mhob man,
Ac yng nghanol corwynt ffyrnig
Mi glywais lais bach gwan.
“Rwy’n llwglyd, ac rwy’n rhynnu!”
Meddai’r llais bach gwan yn hy.
“Agorwch dipyn ar y drws
I mi gael dod i’r tŷ!”
Agorais inne’r ffenest:
Roedd y byd i gyd yn rhew,
Ac i mewn i’r gegin ataf i
Mi ddaeth rhyw ddyn bach tew.
Gofynnais iddo’n gwrtais
“Pwy goblyn ydach chi?”
Atebodd dyn y grysbas goch:
“Wel, Robin ydw i!”
Ysgol Glantwymyn
Blodau Dan yr Eira
Fu erioed ym Mhant Pastynog eira tebyg iddo o’r blaen.
Eira fel conffeti mor galed â haearn Sbaen.
Dim plant yn yr ysgol, na dim athrawon, chwaith.
Y lle yn llawn ysbrydion yn sibrwd yr hen hen iaith.
Mynd ar sled i Ddimbech i wagio siop y dre’,
Hanner cant o dorthau a mil o fagiau te.
Ond mi ddaw eto haul ar fryn
Ac mae blodau dan yr eira gwyn.
Miri yn y brigau, twrw gan y brain.
Mae’r nos yn llawn o sêr, ac mae blodau ar y drain.
Calchu, hadu, plannu, a rowlio ar ôl troi;
Mae’r caeau i gyd yn glasu, ac mae pawb yn paratoi.
’Dan ni wedi gweld y wennol, ac mae’r haul yn gwnenu’n braf,
Ac ym Mhant Pastynog, mae gobaith am yr haf.
Mi ddaeth eto haul ar fryn,
Ac roedd blodau dan yr eira gwyn!
Ysgol Pant Pastynog, Dinbych
Cân y Pasg
Fe glywais heddiw’r bore chwibanu yn y llwyn,
Sŵn dail fel curo dwylo yn yr awel fwyn,
A thwrw côr aflafar yn dod o gaeau’r ŵyn.
I lawr ar bwys yr afon roedd blodau bychain gwyn,
Fel petasai’r eira heb fynd o’r parthau hyn,
Ac roedd ambell i genhinen fel rhyw haul bach syn.
A gwelais i gwningen yn dawnsio yn y coed,
Yn siglo’i chlustiau hirion ac yn curo’r llawr â’i throed,
A dyna’r ddawns fach orau a welais i erioed.
Wrth weld y dail a’r blodau, a chlywed cân y cyw,
Rown i’n gwybod bod y ddaear wedi dod o farw’r fyw,
Ac o rywle draw ymhell, mi glywn i chwerthin Duw.
Blwyddyn 5, Ysgol Abercynon.
Codi Calon y Ferch o’r Sgêr
O, bu’r ferch yn ddigalon, a’r gaea’ mor llwm,
Eira ar y bryniau, a rhew dros y cwm.
Ond daeth cân rhyw aderyn fel telyn fach bêr
I godi calon y ferch o’r Sgêr.
A dacw’r briallu, yn felyn fel twyni,
A chlychau’r gog fel y môr dan y llwyni,
A’r drain yn blodeuo fel llond clawdd o sêr
I godi calon y ferch o’r Sgêr
Mae canu a dawnsio’n y caeau a’r coed,
Fel yr Wylmabsant ddifyrra’ erioed,
O Aberogwr i Aberdêr
I godi calon y ferch o’r Sgêr.
A dyma’r gwanwyn yn llenwi pob llan,
Fel y telynor a’i gân ym mhob man;
Mae e chydig yn lletwith, chydig yn flêr,
Ond mae’n codi calon y ferch o’r Sgêr.
Ysgol y Ferch o’r Sgêr, Corneli
Cynnyrch y Gweithdy Ebost
Bwyd!
Cyw iâr, a grefi,
A llysiau di-ri:
Mae gwledd i arglwyddi
Yn ein hysgol ni!
Llond bol o fwyd,
O, bobol bach!
Ffrwythau a llysiau:
Er mwyn bod yn iach.
Llysiau a ffrwythau;
Mae’r ardd yn llawn!
Maen nhw’n lliwgar a blasus
Ac yn iach iawn, iawn.
Llond bol o fwyd…
Dim siocled, dim saim,
Dim siwgr chwaith,
Ond llond lle o ffrwythau
Cyn mynd ar ein taith.
Llond bol o fwyd…
Blwyddyn 8, Grwp 1, Ysgol Llanidloes, yn y Gweithdy Ebost
Bwyd!
Yr hyn rydan ni’n ei fwyta ydan ni!
Afal, oren, moron, pys:
Mae’r rhain i gyd yn bethau iach,
Digon o ffrwythau,
Digon o lysiau,
A llai o’r da-da ’na, bobol bach!
Saim a siwgr, ych-â-fi,
Gormod o bwdin dagith gi,
Ond mae chydig yn rhoi nerth i ni!
Bwyta, bwyta, bwyta!
Wwww la-la!
Beth am damaid o gig -
Cig a tsips a grefi tew?
Iawn, sbo,
O dro i dro,
I gael nerth i dyfu yn o lew!
Saim a siwgr, ych-â-fi...
Pitsa, pitsa, pitsa, pitsa
Saim yn llifo’n llyn!
Digon o ffrwythau,
A phitsa bach bob hyn a hyn...
Saim a siwgr, ych-â-fi...
Blwyddyn 8, Grŵp 2, Ysgol Llanidloes, yn y Gweithdy Ebost
Cariad!
Mae ganddi wallt aur fel tas
A llygaid fel yr awyr las,
Mae ei llais fel cloch y Llan
Yng nghlust dyn fu’n crwydro ’mhob man.
Mae ’na ddrwm o dan fy mron
Bob tro dw i’n meddwl am hon,
Mae ’na raff rhyngon ni:
Dw i’n gwybod hynny, ond ydi hi?
Mae hi yn anhygoel,
Hi yw’r rheswm rwy’n mynd i’r ysgol,
Mae ’na rywbeth yn digwydd pan dw i’n agor y drws
Ac yn gweld ei gwyneb tlws.
Gwelais hi gyda’u ffrindiau
Yn dod ataf i
Ond ni allwn ddweud
Fy nheimladau amdani
O bob un ferch sydd yn y byd,
Hi sydd ar fy meddwl o hyd.
Hi yw’r un a fydd
Bob eiliad, bob munud, bob awr o’r dydd.
Mae hi yn anhygoel…
Blwyddyn 9, Ysgol Llanidloes, yn y Gweithdy Ebost.
Lawr ar y Traeth
Adeiladu cestyll tywod,
Pawb yn joio, sglods a physgod,
Casglu cregyn, dringo creigiau,
Taflu ffrisbi gyda ffrindiau,
Diwrnod o hwyl, diwrnod o sbri,
Dewch lawr i’r traeth i ymuno â ni.
Mae’r pysgod yn nofio yn y môr,
Yr adar yn canu fel un côr,
Y cychod yn hwylio’n ling-di-long,
A’r syrffwyr yn dal y nawfed don.
Mae’r haul yn machlud, y môr tawelu,
Amser i farbiciw gyda’r teulu,
Selsig yn ffrio, arogl hyfryd,
Pawb yn rhedeg draw i’w cymryd,
Pnawn o hwyl, pnawn o sbri,
Mae selsig dros ben: dewch i fwyta ’da ni!
Mae’r pysgod yn nofio yn y môr...
Amser mynd adref ar ôl diwrnod o sbri,
Ffarwelio â’n ffrindiau, yn cynnwys chi
Wedi’r machlud, daw blanced o ddu,
Fry uwch ein pennau, mae sêr di-ri.
Noson o hwyl, noson o sbri,
Amser mynd adre’, i’r gwely â ni...
Mae’r pysgod yn nofio yn y môr...
Grwp 1, Ysgol Llwynderw, Abertawe, yn y Gweithdy Ebost
Abertawe
Mae’r haul yn tywynnu dros wlad Cymru,
Mae’r cŵn yn cyfarth a’r plant yn canu.
Dewch i Abertawe, i wlad y gân,
I fwyta bara brith a phice’ ar y mâ’n!
Mae Abertawe, meddai’r bardd,
Yn ddinas hyll, ac yn ddinas hardd,
Ond o dan haul a lleuad Duw
Abertawe yw’r lle gore i fyw!
Dewch gyda ni i’r Mwmbwls am dro
I siarad â’r gwylanod a chael hufen iâ Jo;
Gwneud castell tywod i godi braw,
Un mwy na chastell Ystum Llwynarth draw!
Mae Abertawe, meddai’r bardd...
Dewch gyda ni i’r farchnad fawr,
Cocos Pen Clawdd, a bara lawr,
Cig a bara gorau’r fro,
Y farchnad fwya’ i gyd dan do.
Mae Abertawe, meddai’r bardd...
Dewch i chwarae rygbi, neu bêl-droed,
A gwersylla ym Marc Margam o dan y coed,
Yn y glaw mwya’ gwlyb yn y gogledd a’r de:
‘Glaw tinwyn Abertawe’ yw ei enw e!
Mae Abertawe, meddai’r bardd...
Grwp 2, Ysgol Llwynderw, Abertawe, yn y Gweithdy Ebost
Penrhyn Llŷn
Penrhyn Llŷn, ein hardal ni,
Rhyfeddod yw ei harddwch hi.
Teimlo’r haul yn gwenu’n braf.
Trowsus byr yng nghanol haf.
Mae Penrhyn Llŷn yn ardal hardd,
Llwybrau llonydd, nefoedd bardd,
Mae bywyd gwyllt ym Mhenrhyn Llŷn,
Gwlad ddelfrydol i bob un.
Tywod aur a’r môr yn las,
Creigiau du fel gwrachod cas,
Clogwyni serth, llithrig a pheryg,
Cerdded wnawn ymysg y cerrig.
Mae Penrhyn Llŷn...
Dewch am dro i Benrhyn Llŷn,
Pobl radlon, fwyn, gytûn.
Eithin melyn i ryfeddu,
Cymry glân yn cael eu magu.
Mae Penrhyn Llŷn...
Ysgol Edern, yn y Gweithdy Ebost
Ffrindiau am Byth
Roedd dagrau ar dy wyneb,
Fel cawod fach o law,
Yn disgyn yn dawel,
Yn cwympo yn ddirgel,
Gad iddyn nhw ddisgyn i’m llaw.
Pan na fydd geiriau’n ddigon,
Pan fydd tristwch yn dy galon,
Byddaf yno wrth dy ymyl:
Ffrindiau am byth!
Aeth cyllell trwy dy galon,
Fel hollt trwy garreg ddu,
Yn gleddyf angheuol,
Yn syth trwy’r canol,
Gad i mi ei glynu’n ôl i ti.
Pan na fydd geiriau...
Ond yna gwelaf wreichion,
Yn ddisglair fel y sêr,
Dy lygaid yn gwenu,
Y storm yn diflannu,
Fy ffrind yn llawn hyder.
Pan na fydd geiriau...
Dosbarth 4, Ysgol y Ffin, Cil-y-Coed, yn y Gweithdy Ebost
Amrywiol
Y Pysgotwr
Un hwyliog yw’r pysgotwr yn mynd â ni am dro,
A lliw y môr ar fore braf sydd yn ei lygaid o.
O dacw fo’n yr harbwr yn cychwyn ar ei daith,
A llond y cwch o bethau mae o angen at ei waith.
Cap melyn am ei ben o rhag i Morus fynd â’i wallt,
A thrywsus o liw oren rhag y môr a’i donnau hallt.
Mae ganddo raffau cryfion i ddal y môr yn dyn
Pan fydd o yn aflonydd, yn llawn ceffylau gwyn.
Mae ganddo lwyth o gewyll o fa’ma i ben Llŷn,
A phan ddaw o heibio eto bydd ’na gimwch ym mhob un.
Pan ddaw’r pysgotwr adra’, mi fydd hi’n amser bwyd:
Bydd cinio yn ei gawell, a swper yn ei rwyd.
O un hwyliog yw’r pysgotwr sy’n mynd â ni am dro
A lliw y môr ar fore braf sydd yn ei lygaid o.
Plant Llanystumdwy
Y Bwystfil Deuben
Wrth gerdded drwy Glydach un prynhawn,
Fe welais i fwysfil bwystfilaidd iawn, iawn
Yn eistedd yn drist ar ei ben ei hun,
Yn gwynto fel cinio dydd Sul ar ddydd Llun.
Roedd gyda fe ddau ben, un bach ac un mawr,
Un ar ei ysgwydd, a’r llall wrth y llawr.
Roedd e’n dal ei ddau ben yn ei un-deg-naw llaw,
A phob un llygad yn llefen y glaw.
Roedd e’n drwsgwl a lletwith gyda’i dri throed
A’r bodie’ mwya’ fu ar droed neb erioed,
I gyd yn sownd mewn un goes dew,
A’i hanner yn foel, a’i hanner yn flew.
A meddai’r bwystfil wrtha’ i:
‘Bûm yn crwydro’r wlad fel efaciwî,
Yn chwilio am damed, yn chwilio am do,
A phawb yn fy hala i ar ffo...’
A dyma lori yn dod drwy’r glaw
Ac yn tasgu dŵr dros y bwystfil draw!
‘Wyt ti’n gweld beth wi’n feddwl nawr?’ meddai fe;
‘Crwydro sy raid imi, o le i le...’
Wel, fe gafodd y Bwystfil Deuben ddod
I’n hysgol ni i fyw ac i fod,
Ac fe enillodd yn y Steddfod, neno’r dyn,
Wrth gyd-adrodd ar ei ben ei hun!
Ysgol Gelli Onnen, Clydach
Cân yr Ysbrydion
Fe es pan o’n i’n fychan
At Siôn y Go’ i Fryn Henllan
I ’mofyn arf i dorri mawn
Ar ryw brynhawn fy hunan.
Roedd Siôn yn brysur ddigon
Yn curo ar yr einion,
A’r hen fenyw ddall, ei fam,
Yn adrodd am ysbrydion...
“Pan fydd hi’n dywyll heno,
Fe ddaw hen ysbryd heibio,
Ysbryd gwyn o’r enw Math
Yn dod o’r bath i’n hônto.
O hen long wedi torri
Bydd ysbryd hyll yn codi
Gan floeddio’n uchel dros y lle:
Ei enw e yw Rhodri.
A daw ysbrydion cocos
O’u tylle ’mhell ac agos,
A hen sgerbwd o Dre Wrach
 sach i ddala plantos.
Ac wedyn cart ’r ellyllon
Yn llawn o esgyrn dynion
Ac o dan y gamren, caseg wen
Heb na phen na chynffon.
A bydd y lloer yn crechwen
Fel gwrach yn grwm ei chefen,
Ysbrydion llonge ar y lli,
A chŵn Carn Ingli’n wben...”
Bu’n sôn am bob rhyw fwgan
O Hen Fedde i Fryn Henllan;
Pan ges i’r arf i dorri mawn
Roedd hi’n dywyll iawn tu allan.
Fe redes i o’r efel
’Run peth â chath i gythrel
A mynd i gwato yn y tŷ
O dan y gwely’n ddiogel.
Ysgol Croes Goch, Ysgol Cas-Mael, Ysgol Glannau Gwaun, Ysgol Llanychllwydog ac Ysgol Bro Ingli
Ladi Plas Llannerch Aeron
Mary Ashby Lewis yw enw ladi’r Plas,
A, bobol annwyl, dyna waith bob tro mae hi’n mynd mâs!
Rhaid paratôi ei dillad, ei phais, ei blwmer mawr,
Ei sgerti melfed hyfryd sy’n cyrraedd at y llawr.
Rhaid polisho ei bŵts hi am orie’, ar fy llw,
Nes i Mary Ashby Lewis weld ei hwyneb ynddyn nhw.
Rhaid nôl y deiamwntie’ a’r perle’ sydd dan glo
Gyda thlysion a thrysore’ Llannerch Aeron ers cyn co’.
Rhaid paratói ei cheffyl, a’i arwain at y tŷ,
A dewis Lady Lewis yw Beauty’r ceffyl du.
Rhaid moesymgrymu’n isel wrth agor drws y Plas,
Ac yn grand fel alarch, bydd Mary’n hwylio mâs.
Rhaid ei helpu wedyn, rhag iddi gael loes,
I ddringo ar gefn y ceffyl, heb ddangos dim o’i choes!
Ysgol Pen Lôn, ym Mhlas Llannerch Aeron
Hen Gwch y Cymro
Mae dyn a’i freuddwydion yn mynd ac yn dod;
Mae hen ffordd o fyw wedi peidio â bod.
Ond er cymaint y newid a fu ar y byd
Mae hen gwch y Cymro yn nofio o hyd!
Awn heddiw i edrych, a beth welwn ni
Ond John Christmas Tomos* yn dod ar y lli...
Mae’r oes wedi newid; fe ddaeth y siop fawr;
Does dim rhaid i neb hela na physgota yn awr.
Fe gadwyd y tryfer, y cnocer a’r rhwyd;
Does neb eisie corwg er mwyn cael ei fwyd.
Awn heddiw i edrych, a beth welwn ni
Ond yr hen Hannah Rees* yn dod ar y lli...
Mae dyn a’i freuddwydion yn mynd ac yn dod,
Ond mae dŵr afon Teifi mor wlyb ag erio’d.
Fydd neb o’r plant eto’n cael corwg yn grud,
Ond bydd hen gwch y Cymro yn nofio o hyd.
Awn heddiw i edrych a beth welwn ni
Ond Denzil* a’i gorwg yn dod ar y lli!
Ysgol Cennarth, yn y Ganolfan Goryglau
*Coryglwyr o fri ers talwm oedd John Christmas Tomos a Hannah Rees. Mae Denzil Davies yn dal i ‘hala corwg’ hyd heddiw.
Afon
(Gamlan, Gynllwyd)
Ynof i mae pysgod
Fel darnau arian
A daflwyd gan gariadon.
Cefndryd i mi
Ydi’r diferion glaw
Sy’n dawnsio drosof.
Yng nghanol ha’ sych
Does dim llawer
Ohonof.
Ac yn yr hydref
Mae cychod y dail
Yn cychwyn eu taith arnaf.
Mae’r creigiau ar fy ffordd
Ond mae ffordd heibio
Wedi bod erioed.
Pan ddaw’n storm,
A’r gwynt yn fy chwipio,
Fydd gen i ddim ofn.
Achos ynof i mae pysgod
Fel darnau arian
A daflwyd gan gariadon.
Ffion Cain Evans ac Ania Wyn Parry, Meirionnydd.
Dolmelynllyn
Mae’r awyr yn las
Uwchben y Plas;
Mae’r gwas yn gweithio’n galed.
Mae’r goeden fel cawr
Yn sbio i lawr
Yn fawr, ond yn ddiniwed.
Mae’r Rhaeadr Ddu
 Llais mor gry’
Yn rhuo wedi’r glaw.
Mae’r dŵr o’r bryn
Fel carw gwyn
Yn llamu i’r llyn islaw.
Eiddon Edwards a Gruffydd Manzini-Hughes, Meirionnydd.
Dengmlwyddiant Ysgol Gymraeg y Berllan Deg
Roedd ’na berllan yn Llanedeyrn
Cyn bod sôn am ddur a glo,
Ac ar goed y berllan honno
Roedd afalau gorau’r fro.
Roedd y ffrwyth yn sur a melys,
Ac yn flasus yn mhob ceg;
Roedd afalau gorau Cymru’n
Tyfu yn y Berllan Deg.
Yn Llanrymni a Thon Gwynlais,
Yng Nghathays a Phengam Green,
Adamsdown a Phont y Prennau,
Roedd yr iaith fel deiliach crin.
Ond dyna blannu coed bach ifanc,
Coed bach ir, dim ond rhyw ddeg;
Ac o’r hadau hynny tyfodd
Cannoedd yn y Berllan Deg.
Ysgol y Berllan Deg, Llanedeyrn, Caerdydd
Adar
Mi welais grëyr glas mewn cae;
Os nad aeth o, yno mae.
Ei gamp yw sefyll ar un goes
Er gwaetha’ bod y gwynt yn groes.
Roedd Robin Goch fel dafn o waed
Yn pigo’i damed wrth fy nhraed,
Robin Goch yn dweud yn hy:
“Agorwch y drws! Rwy’n dod i’r tŷ!”
Ac roedd ffesantod ar y rhew
A’u plu fel grug y Berwyn drew;
On’d ydi’n biti, ar fy llw,
Bod dynion yn eu saethu nhw?
A dyna Ditw Tomos Las
Yn crio yn yr hen wynt cas.
“Paid a chrio: heda’n syth
I gadw’n gynnes yn dy nyth.”
Ysgol Pen y Bont Fawr, Maldwyn
Arddangosfa Bortreadau
Bobol annwyl, dyma sioe!
Wynebau Cymru, hhediw a ddoe.
Gwleidydd, artist, canwr, bardd;
Wynebau hyll, wynebau hardd,
Wynebau rhychiog, cyfrwys, trist,
Wynebau cariadus, fel Iesu Grist,
Esgob, pensaer, menyw gre’:
Wynebau Cymru’n llond y lle.
Llygaid creulon ar wyneb cyfrwys,
Dyn cry a’i wallt yn ddu fel glo,
Cawr o ddyn tenau, bochgoch iach,
Does neb erioed wedi maeddu Jo! (Joe Calzaghe)
Gwyrdd, coch a gwyn yw hwn i gyd:
Gwyrdd fel y cwm a’r bryn a’r lli,
Coch fel y fflam o geg y ddraig
A gwyn fel colomen yw Dafydd ni. (Dafydd Iwan)
Gwallt du, cyrliog fel y nos,
Siwt a’i botwm fel pêl-droed,
Gwefusau fel calon, iach fel llysiau,
Ryan yw’r taclwr gorau erioed. (Ryan Giggs)
Wyneb rhychiog, meddylgar, crwn,
Ei ên yn gadarn, Cymro glew,
Llygaid sgleiniog, yn edrych yn bell,
Brenin Plant Cymru oedd y Llew! (T. Llew Jones)
Ysgol Gynradd Dihewyd, yn y Llyfrgell Genedlaethol
Afon Dyfi
Llygad Dyfi
Dacw Aran Fawddwy draw
A Chreiglyn Dyfi’n llawn dŵr glaw,
Fel aeliau hen frenin, ar fy llw,
Ac un llygad glas odanyn nhw.
Pan fydd hiraeth ar y cawr
Am ryw hen ogoniant mawr,
Neu pan fydd-o’n mynd o’i go’,
Bydd y dagrau’n mynd dros ei lygad o...
Llaethnant
Un bore aeth Mari Tŷ Nant i roi
Llond ei chunnog o laeth i’r lloi.
Ond mi gwmpodd Mari yn ymyl y lan
Ac i’r afon yr aeth pob diferyn o’r can.
Yn y man lle’r aeth y llaeth i’r lli
“Llaethnant” ydi ei henw hi.
Gwneud Dyfi
O Gallt Geiniogau a’r Ogof Ddu
Daw rhyw blant o afonydd bach hy,
Pumryd, Rhiwlech a Nant y Cafn,
A Dyfi’n prifio fesul dafn,
A’r Foel yn sychedu, fel yr hydd
Am afonydd dyfroedd, nos a dydd.
Afon Cywarch
O Graig y Ffynnon yng nghanol y mawn
Daw Cywarch yn garlamus iawn.
(Mi welwyd rhyw fwystfil, yn ôl pob sôn
Wedi dringo o’i dŵr hi yn ymyl Bryn Siôn.)
Ac yn Abercywarch, fel caseg wen,
O dan ddŵr Dyfi mae hi’n mynd ar ei phen.
Dinas
Wedyn mae Dyfi yn rhedeg i’w hynt,
O dan hen bont Dinas yn gynt ac yn gynt.
Breuddwydio y mae hi am derfyn y daith,
A chael chysgu yng nghanol yr eigion maith.
A fyntau’r hen eog, yn sêr ar ei hyd,
Yn dod o ddyfnderoedd y moroedd mud
I orffwys o dan yr hen bont faen,
Yr un fath â’i dad â’i daid o’i flaen.
Dinas Mawddwy, 22 4 10
Pen Llŷn, Hydref 2009
Bore... Llusgo’n feudwyaidd am yr arhosfa fysus,
Gwadnau sgidiau a’u cwyn feunyddiol
Fel eco yn y capsiwl llwyd.
Treiglo araf a phoenus disgyblion ysgol
A’u hiaith mewn edrychiad, symudiad ac osgo.
Nodio cynnil, gwên ddireidus, codi llaw swil.
Gerllaw hen sgragan o goeden,
A’i changhennau llipa fel cystrawen flêr
A’i dail prin yn arddodiaid chwithig.
Closio at y gyfeillach glyd
Sy’n gyffro i gyd
Sy’n siarad nos Sadwrn
Sy’n asbri lleisiau mewn ‘Tŷ Newydd’ –
Lleisiau a’u geiriau yn gynghanedd i gyd.
Ond cawn ein sarnu gan rwgnach aflafar
A chytseiniaid caled hen ymwelwyr powld –
Eu hystumiau yn ebychnodau gwatwarus
A’u cyrff yn idiomau hyderus.
Tu ôl imi,
Disgyn yn dawel wna’r dail crin blinedig
A does neb
Neb yn sylwi.
Hwythau a’u sodlau rwber
Yn eu sathru a’u gwasgu’n llwch
Cyn i’r gwynt godi
A’u gwasgaru i dywyllwch y dyddiau duon bach.
Marged, Coleg Meirion-Dwyfor.
Llais Ni
Yr hen a ŵyr, a’r ifanc a dybia,
Dyna sy i’w glywed bob dydd yn y byd ’ma:
Ein bod ni yn ifanc a ffôl, yn gwybod sod-ôl,
A chithau’n hollwybodus eich meddylia’.
Ond pam dylen ni wrando ar be dach chi’n ddeud?
Be sy’n profi bod gynnoch chi syniad be dach chi’n neud?
Pam yn union oedd pethau’n well ers talwm?
Roedd y trydydd byd yn dal ar ei gythlwng,
Y bomiau’n disgyn a’r plant yn crio
A’ch brodyr chi’n marw -’ta ydach chi ’di anghofio
Am y gwaed sy wedi’i dollti
Yn eich enw chi o Nagasaki i Derry?
A phob man hyd heddiw yn nheyrnas y gwn
Lle mae pob llygad yn crio, pob calon yn drwm.
Ond ein tro ni ’di hi rwan i gymryd y llyw
I ddechrau o’r newydd, i ail-ddechrau byw.
I newid ein ffyrdd ni cyn y bydd hi’n rhy hwyr
Ac y bydd dynion wedi leinio ei gilydd yn llwyr.
Felly stopiwch bigo ar rai ifanc fel ni:
Mae ’na newid ar ddigwydd - Dim diolch i chi!
Elis Dafydd, Coleg Meirion-Dwyfor
Mae Gennyf Gyllell
Mae gennyf gyllell boced – Nid ydwyf, gyda llaw,
Yn ei defnyddio i wneud dim peryclach na chrafu blaen fy rhaw.
Tydw i ddim yn saethu fawr ddim heblaw am hwyaid,
Ac ar ôl imi wneud hynny, rwy’n gweddïo dros fy enaid.
Does dim partis gwylltion yn digwydd yn ein gerddi,
Dim ond ar adeg Steddfod (a’r Orsedd oedd ’di meddwi).
Coffi yw fy nghyffur, nid powdwr aflan gwyn,
Ond mi fyddaf yn arbrofi â blawd bob hyn a hyn.
Fydda’i byth yn gwisgo cwfwl na chapiau gwynion hy,
Ni fyddaf chwaith yn loetran ar strydoedd tywyll du.
Tydi meddwi ddim yn glyfar, a fydda’i ddim yn hoff
O ddeffro ambell fore a’m meddwl braidd yn gloff.
Ella ’mod i braidd yn llywaeth, yn hogyn bach o’r wlad,
Ond peidiwch â ’mheintio â’r un brwsh, gyfeillion, neno’r tad.
Llŷr Titus, Coleg Meirion-Dwyfor
Y Bore ’Ma am Un-Ar-Ddeg
Dydd y Cofio, 2009
Y bore ’ma am un-ar-ddeg
Roedd pawb yn ddistaw, fel ar ôl rheg,
Yn cofio... Achos dyna’r awr
Y daeth i ben y Rhyfel Mawr.
Y bwystfil o ryfel, a’i anadl nwy,
Yn datod edau bywyd yn ddwy,
A’i grafanc yn gafael yn sgrepan dyn
A’i dynnu i bwll o’i waed ei hun;
Y peiriant o ryfel, a’i gogiau cnawd,
Yn ŵr, yn dad, yn fab, yn frawd.
Ar ôl i ddiwedd hwnnw ddod,
Roedd hi’n ddiwedd ar ryfela i fod.
Ond mae ysgall rhyfel yn blodeuo o hyd:
Gwasgwarwyd yr hadau ar draws y byd.
Bydd y naill yn egino ar ôl y llall,
Nes bydd pobol y byd yn dod yn gall.
Y bore ’ma am un-ar-ddeg
Roedd hi’n anodd iawn imi gau fy ngheg.
Ffrwd Gymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu, 11/11/09


