Bardd Cenedlaethol Cymru

  National Poet of Wales 

 

Yno’n hollbresennol

Roedd ynof ddau o hyd - yr un
a lechai ynof, yn fy ngwaed a’m mêr,
y llall, mewn stafell arall ger fy mur,
wrth glywed sain, troed ar ris neu alwad pêr.

Clustfeiniaf weithiau heb fod yno lef,
dalen ar led, scarff yn oedi ar stôl,
heb ddiffodd golau, dim ond atsain goslef,
gwres y tegell, ei sawr yn oedi, o’i ôl.

Bellach, un ohonom sy, ac un tydi,
yma’n hollbresennol ynof. Ar fy llw,
rhannwn sgwrs, caf anwes. Un noson, wrth gysgu
llenwi’r ddysgl afalau wnest, cyn i'm ddeffro’n weddw,

tydi sy ynof, y llall a aeth, eto fe ddoer,
fel cyrchu lloer i’r ddaear, a’r ddaear at loer.

Cyfieithiad gan Menna Elfyn
Cerdd a gomisynwyd gan Tenovus, 2010

 

Chwe Chloch
28 Mehefin 1960      

Hwyrach i wraig wrth godi ei golch ar lein
glywed siffrwd, eiliad syn a’i chlust yn fain,
pyls wan mewn daear, fel drylliad calon,
wrth fagu yn ei dwylo bentwr llaith—
llieiniau eu huniad, ei grysau. Hwyrach
i un neu ddwy droi pen wrth sgwrio rhiniog,
dwylo gwlyb o wasgu enfysau ar lech;
ac islaw’r dref, yno yng nghrombil y pwll
lithriad craig yn gwreichio’r dur wrth danio’r
gwagle— dwrn trwy’r düwch nes ffrwydro
llosgnwy yn wenfflam. Wrth iddynt drengi,
munud syfrdan cyn i’r seirennau daranu
a chyn i’r dorf ymgasglu gan lenwi’r stryd,
a chyn iddi godi drachefn y llieiniau glân i gyd.

Trosiad o’r Saesneg gan Menna Elfyn


Cof yr awyr las

Ie, rhown gynnig arall arni. Awyrennau’n stond am sbel—
lle i’r sgwarnog daro’r rhedfeydd , gydag ôl ei throed;
rhoi’r nos yn rhodd i Fenws, a’r lloer mor ddiogel
o newydd, fel na sylwom iddi ddod i’w hoed.

Colli’r cynnig da, cyfarfod mawr, priodas ym mhen draw’r byd—
gadael môr Iwerydd a’i emrallt tryloyw i’r morfil,
ei halaw ddofn, fel y cura’n gyson yn ei hyd,
a’r cefnfor yn troelli’n dawel yn ei chrombil.

Gadewch yr haid o jetiau ar darmac i hir- freuddwydio,
a’r awyr,— llechen lân yw eto fel glas y dydd
y ces fy ngeni. Dim smic. Llonyddwch pur yn llwybro
a’r ehedydd yn esgyn fry. O ! mor anfeidrol rydd.

A phâr o farcutiaid yn ffoli, yn sioe fawr y ffurfafen,
Di- nod yw’r nef. Di-nam. Heb na chraith na grwgnach awyren
yn unman – uwchben.

cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Menna Elfyn
Ebrill 2010



Mamiaith 

Wyau

Prin mai nyth ydyw,
dim ond clais rhwng cerrig,
eto, pendilio a wna;
siarsio’r gwynt a’r awyr
â’i chrychlais blin.

Os camwn o’r golwg,
daw adre’n dawel,
i’r garreg lefn, gynnes,
cargo’n llawn gwaed a gwanc
a’r yfory’n llawn glesni.

A churiadau’r môr
yw pyls y gawell dywyll,
ei bru uwch y lli,
yn wawr o wy
sy’n iro’r iaith i’w sain.


Cyfieithiad Menna Elfyn o ‘Mother Tongue’ gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru

Y Fflam

i Gwyn Thomas

Bu’r fflam yn crynu cyhyd,
Wrth gromlechi, a chroesffyrdd;
Mewn gwersylloedd, tai unnos, cestyll,
A llysoedd rhyw fân dywysogion.

Caniadau uwch coelcerthi, cleddyfau glân,
Plycio tannau telynau;
Wynebau’n ddrychau mewn tanau,
Perlewyg eu trem.

Aeth y si ar led.
Croesodd sawl canrif, fesul fflam,
Curiadau calon cytseiniaid,
Yn llusern o gân yn y duwch.

Gwyn, dyma ni’n cwrdd wrth y rhyd,
I roi mawl i ieithoedd,
I gario’r gwir plaen,
Troi anwireddd yn farwor; geiriau’n llwch.

A llosgi tawch gwleidyddiaeth,
Gyda gwreichion eneidgan,
Sy’n taflu gwawr
Dros lawysgrifau’r cof.


Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru
[cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Menna Elfyn]

 

Degawd Wynebu'r Ganrif

Atgot ohoni, fy eiddo ydyw 'nawr - mewn gallt
ar lôn drwy'r wig, pedair geneth yn rhuthro'n wyllt
- Gwyneth, Elen, Ceinwen, Vi - tair chwaer a ffrind
a'i llythyr annisgwyl yn chwythu sawr a sain
ym Medi'r amser gynt rhwng dau rhyfel hir:

sgrialu cerrig afon, chwerthin crotesi
sgrïau o sgertiau yn cyrraed cegin Nant Mill.
Dwy chwaer hŷn yn hulio hirfwrdd llwyfen,
torthau'n oeri ar resel, sglein menyn o'r fuddai,
pum brawd teg o bryd yn camu i mewn o'r cae.

Ledled y byd, bydd plentyn yn carlamu am adre
drwy stryd lom, ale ddi-raen, cae neu slym.
Tu mewn i'r hynafgwyr ar derfyn eu canrif
Mae'r plentyn chwareus yn effro ei atgof,
O'r hyn ydoedd, cariad, mam ac arwr.

Ymgolli wna rhai mewn bydoedd pell cyn ein gadael.
Bydd eraill fyw ei dyddiau'n ling di longian
wrth herio poena breuder, yn pannu'r aur i gyd.


Gillian Clarke
[cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Menna Elfyn]