Bardd Cenedlaethol Cymru
Gillian Clarke

Am ei gwaith
Mae Gillian yn fardd, dramodydd, golygydd a chyfieithydd. Dysga ysgrifennu creadigol i bobl o bob oed ac fe astudir ei gwaith gan fyfyrwyr ar draws Prydain. Mae wedi teithio’n helaeth yn darllen a thrafod ei gwaith ac fe gyfeithwyd ei gwaith i ddeg o ieithoedd. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae At the Source (Carcanet), A Recipe for Water (Carcanet), The Sundial (Gomer), Selected Poems (Carcanet), Five Fields (Carcanet) a Making Beds for the Dead (Carcanet).
Dywedodd Dr Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae Gillian Clarke wedi bwrw’i chrefft ar hyd y blynyddoedd i greu corff o waith sy’n ymdrin â phynciau mawr y bod dynol, yn ogystal â chanu am Gymru a’i phobl. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n falch iawn i noddi bardd mor nodedig â Gillian fel ein trydydd Bardd Cenedlaethol.”
Ewch i wefan Gillian Clarke yma.


