Archif Newyddion
Colli un o Sylfaenwyr Ganolfan Treftadaeth Cae'r Gors
Daeth newyddion trist iawn ar ôl y Sul bod yr hanesydd Dewi Tomos, un o sefydlwyr Canolfan Treftadaeth Cae'r Gors, wedi marw. Roedd Mr Tomos yn un o'r rhai a fu'n gefnogol i'r ganolfan o'r cychwyn cyntaf, gan weithio'n ddyfal wedi hynny am dros ugain mlynedd trwy gynnal nifer o ddigwyddiadau llenyddol a chyhoeddi sawl llyfr am hanes yr ardal. Cafodd ei urddo i Orsedd Y Beirdd yn 2009 am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru.
Dywedodd Angharad Tomos, aelod o fwrdd Canolfan Cae'r Gors:
"Gwyddai am bob bryncyn a chwarel yn y cyffiniau, pob tŷ a phob tylwyth. Pan gychwynnodd Guto Roberts ac Eirug Wyn godi arian i sefydlu Cyfeillion Cae'r Gors, roedd Dewi ymysg y cynta i wirfoddoli.Nid oedd pall ar ei sêl a'i frwdfrydedd. Byddai'n arwain criwiau o blant ar hyd y Lôn Wen, gan ddysgu iddyn nhw enwau blodau a thyfiant, gan agor eu llygaid i'w treftadaeth gyfoethog a rhoi hanes bywyd ers talwm iddyn nhw, yn enwedig hanes y chwarelwyr. Dylai brwdfrydedd Dewi fod yn symbyliad inni i gyd gario mlaen ond teimlwn, serch hynny, ein bod wedi colli un o'r selocaf yn ein mysg."


