Archif Newyddion

 

OBE i Ysgolhaig dwy lenyddiaeth Cymru

M Wynn Thomas

Llongyfarchiadau i’r Athro M Wynn Thomas, cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW), sydd wedi derbyn yr OBE am wasanaeth i lenyddiaeth Cymru.

Mae’n arbenigwr ar farddoniaeth Americanaidd ac ar ddwy lenyddiaeth Cymru. Bu’n Athro ar Ymweliad ym Mhrifysgolion Havard a Tübingen. Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Llên Cyngor Celfyddydau Cymru am bum mlynedd. Bu’n Gadeirydd yr Academi Gymreig ac fe’i gwnaed yn Gymrawd yr Academi yn 2000. Fe’i etholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1996. Cafodd ei urddo â gwisg wen yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2000. Ef yw Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru ar hyn o bryd.

Mae Wynn wedi cyhoeddi dros 20 o lyfrau academaidd, ac yn eu plith Morgan Llwyd: ei gyfeillion a’i gyfnod (1991), The Lunar Light of Whitman’s Poetry (1987), Internal Difference: Writing in Twentieth Century Wales (1992), Corresponding Cultures: the two literatures of modern Wales (1999), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995), a Residues (cyfrol o gerddi diweddar anghyhoeddedig R.S. Thomas, 2002).