Adolygiadau
Adolygiad : Un Cês a sawl lodes Lén
’Noson fywiog o gerddoriaeth a barddoniaeth, am deulu, arwyr, teithio, tröedigaethau, serch, cenedlaetholdeb, ac ambell i bwnc amheus iawn!’
Dyna ddisgrifiad y poster yn hysbysebu noson yr Academi ym Maes C, Eisteddfod Genedlaethol Meifod, ac felly roeddwn yn disgwyl noson amrywiol a hwylus iawn. Ac felly yr oedd hi.
Arwyn Groe oedd y cês – a thipyn o gês oedd e hefyd - braf oedd ei glywed yn adrodd ei gerddi yn ei dafodiaith leol. A’r saith lodes oedd Mererid Hopwood, Sian Northey, Gwyneth Glyn, Fflur Dafydd, Nia Môn, Nici Beech a Karen Owen. A chyda ’lein yp’ felly, does dim syndod mai amrywiol iawn oedd cynnwys y cerddi.
Noson hwyliog
Agorodd y noson yn hwyliog iawn gyda Gwyneth Glyn wrth y meic a Fflur Dafydd wrth y piano, yn cyflwyno’r chwe bardd arall ar gân, a’r beirdd yn ymddangos un wrth un, o’r tu ôl i’r llenni ar y llwyfan.
Amrywiaeth - a’r amheus!
Fformat digon strêt oedd i’r noson, o ran adrodd y cerddi. Y beirdd yn dod at y meic yn eu tro i adrodd eu gwaith eu hunain, a’r gynulleidfa yn eistedd o gwmpas byrddau. Aethpwyd â ni ar sawl trywydd hollol wahanol. O gerddi dwys a theimladol Mererid Hopwood a Karen Owen, i gerddi ysgafn a doniol Arwyn Groe, Sian Northey, Nia Môn a Fflur Dafydd.
Ac yna fe ddaeth yr ambell bwnc amheus iawn fel yr oedd y poster hysbysebu yn ei awgrymu. Roedd ambell gerdd gan Sian Northey yn ddigon i beri’r mwya meddwl agored i gochi! Ac ambell gerdd yn mynd yn bersonol iawn!
Roeddwn yn hoff iawn o ganeuon Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn, roedd yn torri ar y farddoniaeth yn hwylus, a thalent y ddwy ferch yn rhagorol, ar y gitâr a’r piano.
Er i mi fwynhau perfformiad Gwyneth Glyn yn fawr, ar y gorau - mae’n amlwg yn berfformwraig naturiol - weithiau teimlais fy mod yn colli peth o’i llefaru. Naill ai yr oedd yn sefyll yn rhy agos at y meicroffôn neu fod yna nam ar y system sain. Roedd hyn yn drueni gan fy mod yn gorfod canolbwyntio mwy ar glywed yn hytrach na mwynhau y cerddi.
Uchafbwynt
Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd un o gerddi Mererid Hopwood yn sôn am y mewnlifiad i’w phentref genedigol yn Sir Benfro. Saif ar ben y bryn yn edrych i lawr dros y pentref, a gweld nad oes golau yn y tai bellach, am mai cartrefi tymhorol ydyn nhw gan fwyaf. Roedd yma ddelweddau trawiadol iawn, a’r gerdd yn nhafodiaith Sir Benfro yn drawiadol iawn.
Croeso i noson o’i math
Dw i’n meddwl bod croeso mawr i nosweithiau tebyg i hon a gafwyd ym Maes C nos Sul. Mae angen llawer iawn mwy o nosweithiau tebyg, ac o ystyried maint y dorf yn Neuadd y Trallwng, dw i’n siŵr bod hon yn farn gyffredin.
Adolygiad gan Elin Wyn Davies ar wefan y BBC


