Digwyddiadau'r Academi yng Ngwyl y Gelli 2010
Dydd Sul 30 Mai
4.00pm – 4.30pm
Emyr Lewis yn sgwrsio gyda Joumna Hahhah.
______________________________________
Dydd Llun 31 Mai

10.00am – 10.45am
Robin Chapman mewn trafodaeth gyda Dr. D Densil Morgan, awdur Lewis Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru), un o gyfrolau Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn; cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg.
10.45am – 11.30am
Dau o awduron Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, sef Hywel Griffiths (Banerog, Y Lolfa) a
Haf Llewelyn (Llwybrau, Cyhoeddiadau Barddas) yn darllen rhannau o'u gwaith; cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg.
11.30am – 12.30pm
Jon Gower mewn trafodaeth gyda dwy o awduron Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, sef
Manon Steffan Ros (Fel Aderyn, Y Lolfa) a Sian Owen (Mân Esgyrn, Gomer); cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg.
12.30pm – 1.00pm
Jasmine Donahaye, awdur Self-Portrait as Ruth (Salt), un o gyfrolau Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, yn darllen rhannau o’i gwaith.
1.00pm – 1.30pm
Jon Gower yn sgwrsio gyda dau o awduron Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, sef Mike Thomas (Pocket Notebook, William Heinemann) a Terri Wiltshire (Carry Me Home, Macmillan).
1.30pm – 2.30pm
Robin Chapman mewn trafodaeth gydag un o awduron Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, sef
Caryl Lewis (Naw Mis, Y Lolfa); cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg.
2.30pm – 3.30pm
Jon Gower yn trafod gyda John Davies, awdur Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw (Y Lolfa) un o gyfrolau Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn; cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg.
______________________________________
Dydd Mawrth 1 Mehefin
Tom Anderson yw blogiwr preswyl Academi; bydd yn ysgrifennu am ei brofiadau yng Ngŵyl y Gelli mewn blog dyddiol ar wefan Academi – Academi mewn partneriaeth â Bloc: Technoleg Greadigol Cymru.
10.30am – 11.00am
Syrjeri blogio. Dewch draw i ddysgu mwy am flogio ac i gwrdd â Tom Anderson, yr awdur preswyl i bwrpas prosiect blogio Academi – Academi mewn partneriaeth â Bloc: Technoleg Greadigol Cymru.
4.00pm – 4.30pm
Nigel Jenkins yn sgwrsio gydag awdur rhyngwladol (i’w gadarnhau).
______________________________________
Dydd Mercher 2 Mehefin
Tom Anderson yw blogiwr preswyl Academi; bydd yn ysgrifennu am ei brofiadau yng Ngŵyl y Gelli mewn blog dyddiol ar wefan Academi – Academi mewn partneriaeth â Bloc: Technoleg Greadigol Cymru.
10.30am – 11.00am
Syrjeri blogio. Dewch draw i ddysgu mwy am flogio ac i gwrdd â Tom Anderson, yr awdur preswyl i bwrpas prosiect blogio Academi – Academi mewn partneriaeth â Bloc: Technoleg Greadigol Cymru.
4.00pm – 4.30pm
Pascale Petit yn darllen ei gwaith.
______________________________________
Dydd Iau 3 Mehefin
Tom Anderson yw blogiwr preswyl Academi; bydd yn ysgrifennu am ei brofiadau yng Ngŵyl y Gelli mewn blog dyddiol ar wefan Academi – Academi mewn partneriaeth â Bloc: Technoleg Greadigol Cymru.

9.30am – 11.00am
Gweithdy Sgwad Sgwennu Academi i Bobl Ifanc, gydag Addysg y Cyfryngau Cymru. (Digwyddiad caeedig yw hwn, ac ni ellir cymryd rhan ynddo ond trwy wahoddiad yn unig – nid yw’n agored i’r cyhoedd.)
11.30am – 12.30pm
Lansiad Sialens Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru Oxfam-Cymru 2010:
Yr awdur Yanick Lahens o Haiti, yn cynrychioli Oxfam, yn sgwrsio gyda Ned Thomas.
2.00pm – 2.30pm
Syrjeri blogio. Dewch draw i ddysgu mwy am flogio ac i gwrdd â Tom Anderson, yr awdur preswyl i bwrpas prosiect blogio Academi – Academi mewn partneriaeth â Bloc: Technoleg Greadigol Cymru.

2.30pm – 4.00pm
Gweithdy Sgwad Sgwennu Academi i Bobl Ifanc, gydag Addysg y Cyfryngau Cymru. (Digwyddiad caeedig yw hwn, ac ni ellir cymryd rhan ynddo ond trwy wahoddiad yn unig – nid yw’n agored i’r cyhoedd.)
4.00pm – 4.30pm
Robert Minhinnick yn sgwrsio gydag awdur rhyngwladol (i’w gadarnhau).
5.00pm – 6.00pm
Derbyniad Lapidus Cymru. Cyfle i ddysgu rhagor am y rhwydwaith hwn o awduron sy’n gweithio ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, i gwrdd ag awduron yn y maes ac i drafod datblygiadau i’r dyfodol – noddir gan Tŷ Newydd, Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, Lapidus Cymru a Chanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans ym Mhrifysgol Morgannwg.
______________________________________
Dydd Gwener 4 Mehefin
Tom Anderson yw blogiwr preswyl Academi; bydd yn ysgrifennu am ei brofiadau yng Ngŵyl y Gelli mewn blog dyddiol ar wefan Academi – Academi mewn partneriaeth â Bloc: Technoleg Greadigol Cymru.
9.30am – 1.30pm (oddi ar y safle – ger Hay Bluff)
‘By Breath and By Foot’: taith gerdded lenyddol.
Ymunwch â’r bardd Ric Hool ar daith gerdded drwy’r tirlun hyfryd sy’n ysbrydoli ei waith – Academi mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cwrdd wrth droed Hay Bluff – yn y maes parcio ger cylch o gerrig (SO 239373), dim cŵn.
Arweinir gan ddau o Geidwaid y Parc Cenedlaethol, sef Howard Morgan a Nick Jones.
Ni chodir tâl, ond rhaid trefnu o flaen llaw. Ffoniwch Awdurdod y Parc Cenedlaethol am ragor o fanylion: 01874 623366.
10.30am – 11.00am
Syrjeri blogio. Dewch draw i ddysgu mwy am flogio ac i gwrdd â Tom Anderson, yr awdur preswyl i bwrpas prosiect blogio Academi – Academi mewn partneriaeth â Bloc: Technoleg Greadigol Cymru.
2.30pm – 3.00pm
Ric Hool mewn trafodaeth â Patricia Doree (Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), yn dilyn y daith gerdded lenyddol a gafwyd yn y bore – Academi mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
4.00pm – 4.30pm
Phillip Gross yn sgwrsio gyda Ben Okri.
4.30pm – 5.00pm
Gwobr Scritture Giovani.
______________________________________
Dydd Sadwrn 5 Mehefin
11.30am – 12.30am
Intersection – Publishing. Sgwrs agored, gyfeillgar, gydag awduron, darllenwyr, cyhoeddwyr a thechnolwyr yn dod at ei gilydd i drafod dyfodol cyhoeddi (www.intersectionpublishing.com).
4.00pm – 4.30pm
Trezza Azzopardi yn sgwrsio gyda Carsten Jensen.
______________________________________
Dydd Sul 6 Mehefin

2.30pm – 3.30pm
Lansiad Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010 yng nghwmni Luned Aaron.


